Neidio i'r prif gynnwy

Data am nifer yr aelwydydd a wnaeth gais i awdurdodau lleol am gymorth tai o dan Ddeddf Tai (Cymru) 2014 ac am aelwydydd digartref mewn llety dros dro ar gyfer Ebrill 2021 i Fawrth 2022.

Prif bwyntiau

Gall amrywiadau chwarterol a ffactorau tymhorol megis gwyliau a’r tywydd effeithio ar y data. Nid yw’r ystadegau yma yn cael eu haddasu yn dymhorol.

Aelwydydd mewn perygl o fod yn ddigartref

Image
Siar llinell i ddangos y nifer o aelwydydd mewn perygl o fod yn ddigartref, 2015-16 i 2021-22. Mae hyn yn gynnydd o 27% yn 2021-22 o'i gymharu â'r blwyddyn flaenorol.
  • Roedd 9,228 o aelwydydd mewn perygl o fod yn ddigartref, cynydd o 27% ers 2020-21.
  • Llwyddwyd i atal digartrefedd am o leiaf 6 mis mewn 67% o achosion.

Atal digartrefedd yw pan fo awdurdod lleol yn cymryd camau cadarnhaol i ddarparu cymorth tai i rywun y mae'r awdurdod o'r farn ei fod mewn perygl o fod yn ddigartref o fewn 56 diwrnod.

Aelwydydd digartref a bod dyletswydd i’w cynorthwyo i ganfod llety

Image
Siar llinell i ddangos y nifer o aelwydydd digartref a bod dyletswydd i’w cynorthwyo i ganfod llety, 2015-16 i 2021-22. Gostyngodd y nifer 11% yn 2021-22 o'i gymharu â'r blwyddyn flaenorol.
  • Cafodd 11,704 o aelwydydd eu hasesu yn digartref a lle roedd dyletswydd i’w helpu i gael llety, I lawr 11% ers 2020-21.
  • Cafodd 34% eu cynorthwyo yn llwyddiannus i ganfod llety.

Yn dilyn hysbysiad bod ymgeisydd yn ddigartref, bydd yr awdurdod lleol o dan ddyletswydd (adran 73) i gymryd camau rhesymol i helpu i sicrhau llety.

Aelwydydd digartref oedd yn anfwriadol ddigartref a’u bod mewn angen oedd yn flaenoriaeth

Image
Siar llinell i ddangos cynnydd bob blwyddyn yn y nifer o aelwydydd digartref oedd yn anfwriadol ddigartref a’u bod mewn angen oedd yn flaenoriaeth , 2015-16 i 2021-22.
  • Roedd 4,085 o aelwydydd digartref yn anfwriadol ddigartref ac mewn angen oedd yn flaenoriaeth, cynydd o 8% ers 2020-21.
  • Derbyniodd 69% o aelwydydd gynnig o lety sefydlog, addas.

Os yw'r aelwyd yn ddigartref, bod ganddi angen blaenoriaethol a'i bod yn ddigartref yn anfwriadol, bydd yr awdurdod lleol o dan ddyletswydd i sicrhau llety addas.

Llety dros dro

  • Ar 31 Mawrth 2022, roedd 4,465 o aelwydydd mewn llety dros dro, cynydd o 20% ers Mawrth 2021.
  • Ar 31 Mawrth 2022, roedd 1,689 o aelwydydd mewn llety gwely a brecwast dros dro, cynydd o 15% ers Mawrth 2021.

Daeth mesurau cyfnod clo cenedlaethol i rym ar 23 Mawrth 2020, sydd wedi effeithio ar gyfanswm yr aelwydydd mewn llety dros dro ar 31 Mawrth 2022.

Nid oedd un awdurdod lleol yn gallu darparu’r nifer o aelwydydd mewn llety dros dro, felly cynyddwyd ffigwr y flwyddyn flaenorol gan y newid o flwyddyn i flwyddyn i Gymru (gan eithrio'r awdurdod lleol hwn).

Gwybodaeth bellach

Ceir gwybodaeth bellach yn yr Adroddiad ansawdd.

Adroddiadau

Digartrefedd: Ebrill 2021 i Fawrth 2022 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB

PDF
Saesneg yn unig
2 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.