Data am nifer yr aelwydydd a wnaeth gais i awdurdodau lleol am gymorth tai o dan Ddeddf Tai (Cymru) 2014 ac am aelwydydd digartref mewn llety dros dro ar gyfer Ebrill 2020 i Fawrth 2021.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Ystadegau digartrefedd
Prif bwyntiau
Gall amrywiadau chwarterol a ffactorau tymhorol megis gwyliau a’r tywydd effeithio ar y data. Nid yw’r ystadegau yma yn cael eu haddasu yn dymhorol.
Aelwydydd mewn perygl o fod yn ddigartref
- Roedd 7,290 o aelwydydd mewn perygl o fod yn ddigartref, i lawr 27% ers 2019-20.
- Llwyddwyd i atal digartrefedd am o leiaf 6 mis mewn 65% o achosion.
Atal digartrefedd yw pan fo awdurdod lleol yn cymryd camau cadarnhaol i ddarparu cymorth tai i rywun y mae'r awdurdod o'r farn ei fod mewn perygl o fod yn ddigartref o fewn 56 diwrnod.
Aelwydydd digartref a bod dyletswydd i’w cynorthwyo i ganfod llety
- Cafodd 13,161 o aelwydydd eu hasesu yn digartref a lle roedd dyletswydd i’w helpu i gael llety, cynydd o 6% ers 2019-20.
- Cafodd 39% eu cynorthwyo yn llwyddiannus i ganfod llety.
Yn dilyn hysbysiad bod ymgeisydd yn ddigartref, bydd yr awdurdod lleol o dan ddyletswydd (adran 73) i gymryd camau rhesymol i helpu i sicrhau llety.
Aelwydydd digartref oedd yn anfwriadol ddigartref a’u bod mewn angen oedd yn flaenoriaeth
- Roedd 3,795 o aelwydydd digartref yn anfwriadol ddigartref ac mewn angen oedd yn flaenoriaeth, cynydd o 24% ers 2019-20.
- Derbyniodd 75% o aelwydydd gynnig o lety sefydlog, addas.
Os yw'r aelwyd yn ddigartref, bod ganddi angen blaenoriaethol a'i bod yn ddigartref yn anfwriadol, bydd yr awdurdod lleol o dan ddyletswydd i sicrhau llety addas.
Llety dros dro
- Ar 31 Mawrth 2020, roedd 3,729 o aelwydydd mewn llety dros dro, cynydd o 60% ers Mawrth 2020.
- Ar 31 Mawrth 2021, roedd 1,463 o aelwydydd mewn llety gwely a brecwast dros dro, cynydd o 196% ers Mawrth 2020.
Daeth mesurau cyfnod clo cenedlaethol i rym ar 23 Mawrth 2020, sydd wedi effeithio ar gyfanswm yr aelwydydd mewn llety dros dro ar 31 Mawrth 2021.
Gwybodaeth bellach
Ceir gwybodaeth bellach yn yr Adroddiad ansawdd.
Adroddiadau
![](/sites/default/files/styles/file_thumb/public/statistics-and-research-thumbs/Digartrefedd__Ebrill_2020_i_Fawrth_2021.jpg?itok=pMiFsinq)
Digartrefedd: Ebrill 2020 i Fawrth 2021 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB
Cyswllt
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Rhif ffôn: 0300 025 5050
E-bost: ystadegau.tai@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.