Digartrefedd a chamddefnyddio sylweddau: effaith ar ofal iechyd eilaidd yng Nghymru (crynodeb)
Gan ddefnyddio data cysylltiedig gweinyddol, canfu'r astudiaeth hon fod digartrefedd a chamddefnyddio sylweddau gyda'i gilydd yn cynyddu anghydraddoldebau iechyd.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Nod yr ymchwil
Nod yr ymchwil hwn oedd ymchwilio, ymhlith pobl sy’n ymwneud â gwasanaethau trin camddefnyddio sylweddau, y berthynas rhwng cyd-ddigwydd profiad o ddigartrefedd, triniaeth camddefnyddio sylweddau, a’u heffaith ar:
- amlder derbyniadau i adrannau achosion brys
- y rhesymau dros dderbyniadau brys i’r ysbyty
- amlder derbyniadau i'r ysbyty
- hyd derbyniadau i'r ysbyty
Roedd y dadansoddiad a ddefnyddiwyd yn cysylltu data gweinyddol dienw ar gyfer triniaeth camddefnyddio sylweddau, derbyniadau i adrannau achosion brys a derbyniadau i’r ysbyty yng Nghymru rhwng 1 Ionawr 2014 a 31 Rhagfyr 2019.
Prif ganfyddiadau
Canfuom fod cyd-ddigwyddiad digartrefedd a chamddefnyddio sylweddau yn gysylltiedig â defnydd cynyddol o ofal iechyd eilaidd o'i gymharu â thriniaeth camddefnyddio sylweddau yn unig. Mae hyn yn cynnwys cynnydd yn nifer y derbyniadau i adrannau achosion brys, cynnydd yn nifer y derbyniadau i’r ysbyty, cynnydd yn y tebygolrwydd o dderbyniadau brys i’r ysbyty a chynnydd yn hyd derbyniadau i’r ysbyty. Rhoddir ystyriaeth i'r goblygiadau a'r argymhellion dilynol ar gyfer gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.
Gwybodaeth am yr adroddiad
Mae’r adroddiad hwn yn gyhoeddiad ar y cyd rhwng Iechyd Cyhoeddus Cymru, Ymchwil Data Gweinyddol Cymru (YDG Cymru), Banc Data Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw (SAIL) a Llywodraeth Cymru yn rhan o’r rhaglen Canlyniadau Gwell trwy Ddata Cysylltiol (BOLD) (Ministry of Justice). Mae BOLD yn rhaglen drawslywodraethol a ariennir gan Drysorlys EF (2021-2025) ac a gynlluniwyd i ddangos sut y gellir cefnogi pobl ag anghenion cymhleth yn well trwy gysylltu a gwella data’r llywodraeth a gedwir amdanynt mewn ffordd ddiogel a sicr.
Manylion cyswllt
Awduron: Delyth James, Jo Maimaris, Silvia Colonna, Ian Farr, Hywel T Evans, Josh Dixon, Matthew Skermer, Sam Fallick, Gareth Davies, Columbus Ohaeri, Josie Smith
Safbwyntiau'r ymchwilwyr yw'r farn a fynegir yn yr adroddiad hwn ac nid barn Llywodraeth Cymru o reidrwydd.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:
Is-adran Gwasanaethau Cymdeithasol ac Integreiddio
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
Ebost: ADRWales@llyw.cymru
Rhif Ymchwil Gymdeithasol: 18/2025
ISBN digidol: 978-1-83715-353-4