Gan ddefnyddio data cysylltiedig gweinyddol, canfu'r astudiaeth hon fod digartrefedd a chamddefnyddio sylweddau gyda'i gilydd yn cynyddu anghydraddoldebau iechyd.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Mae'r astudiaeth hon yn ymchwilio i'r berthynas rhwng digartrefedd a chamddefnyddio sylweddau sy’n cyd-ddigwydd ar y defnydd o ofal eilaidd yng Nghymru.
Prif ganfyddiadau
Mae unigolion sydd mewn triniaeth camddefnyddio sylweddau sydd â phrofiad o ddigartrefedd, o'i gymharu â'r rhai heb brofiad, yn fwy tebygol o:
- fynychu’r Adran Achosion Brys yn aml
- gael diagnosis o glefydau croen, anafiadau, ac anhwylderau meddyliol ac ymddygiadol
- fod â chyfraddau derbyn uwch i'r ysbyty
- brofi arhosiad hirach yn yr ysbyty
Adroddiadau

Effaith cyd-ddigwyddiad digartrefedd a chamddefnyddio sylweddau ar ofal iechyd eilaidd yng Nghymru , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 996 KB
PDF
996 KB
Efallai na fydd y ffeil hon yn addas i ddefnyddwyr technoleg gynorthwyol.
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.
Cyswllt
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.