Neidio i'r prif gynnwy

Beth ydy’r ystadegau hyn?

Mae ystadegau statudol ar ddigartrefedd yn darparu gwybodaeth gryno am weithgareddau awdurdodau tai lleol o dan y ddeddfwriaeth digartrefedd, a gyflwynwyd yn Neddf Tai (Cymru) 2014, a’u casglu drwy ffurflenni ystadegol blynyddol. Mae’r ystadegau yn cyfeirio at atal a lleddfu digartrefedd yn ogystal â rhoi gwybodaeth am nifer yr aelwydydd digartref mewn llety dros dro.

Cyhoeddir gwybodaeth gryno bob blwyddyn ochr yn ochr â dadansoddiadau manwl ar mewn Datganiad Ystadegol Cyntaf blynyddol, a chyhoeddir yr holl ddata ar StatsCymru.

Dim ond at ddigartrefedd statudol y mae’r wybodaeth a gyhoeddir yn cyfeirio ato ac nid yw’n cynnwys gwybodaeth am ‘bobl sy’n cysgu ar y stryd'.

Y cyd-destun gweithredol a pholisi

Prif nod y ddeddfwriaeth digartrefedd yw lleihau lefelau digartrefedd drwy wneud atal yn ganolog i ddyletswyddau awdurdodau lleol i helpu unrhyw un sydd mewn perygl yn hytrach na dim ond y rheini sydd mewn grwpiau angen blaenoriaethol. Cyflwynwyd y newidiadau i ddeddfwriaeth digartrefedd statudol yn sgil Deddf Tai (Cymru) 2014 ar 27 Ebrill 2015 ac roeddynt yn disodli’r dyletswyddau statudol blaenorol o dan Ran VII o Ddeddf Tai 1996.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Hanfod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant i Gymru sef Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynol a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn  ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol” sy’n gorfod cael eu cymhwyso at ddibenion mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio'r dangosyddion cenedlaethol, rhaid iddynt, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol (a) gyhoeddi'r dangosyddion fel y'u diwygiwyd a (b) gosod copi ohonynt gerbron y Senedd. Fe gafodd y dangosyddion cenedlaethol  hyn osodwyd gerbron y Senedd yn 2021. Mae'r dangosyddion a osodwyd ar 14 Rhagfyr 2021. yn disodli'r set a osodwyd ar 16 Mawrth 2016.

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob nod llesiant a’r wybodaeth dechnegol gysylltiol ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Rhagor o wybodaeth am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Mae’r datganiad hwn yn cynnwys un o'r dangosyddion cenedlaethol sef dangosydd 34 ‘Nifer yr aelwydydd y llwyddwyd i’w hatal rhag bod yn ddigartref am bob 10,000 o aelwydydd’.

Effaith y Coronafeirws (COVID-19) ar y gyfres hon

Ar ddechrau pandemig y Coronafeirws (COVID-19) ym mis Mawrth 2020, rhoddodd Llywodraeth Cymru ymateb brys i ddigartrefedd ar waith. Roedd yr ymateb hwn yn cynnwys cyllid ychwanegol, yn ogystal â chanllawiau statudol ac anstatudol i sicrhau na fyddai neb heb lety, na heb y cymorth sydd ei angen arno i gadw'n ddiogel yn ystod y pandemig.

Er mwyn ategu'r ymateb hwn, ers mis Awst 2020 mae awdurdodau lleol wedi bod yn casglu gwybodaeth reoli fisol am bobl y rhoddwyd llety dros dro iddynt a phobl sy'n cysgu allan. Caiff yr wybodaeth reoli hon ei chasglu yn lle'r wybodaeth a fu'n cael ei chasglu'n wythnosol ar ddechrau pandemig y Coronafeirws (COVID-19), sef o fis Ebrill 2020 ymlaen.

Ers 2019-20, penderfynwyd peidio â chasglu data chwarterol ar ddigartrefedd statudol a lluniwyd datganiadau niferoedd blynyddol llai manwl ar ddigartrefedd statudol i leihau y baich cyffredinol i awdurdodau lleol o ddarparu data.  Mae manylion i’w gweld yn yr adran Cywirdeb isod.

Mae manylion i'w gweld yn yr adran sy'n trin Cywirdeb isod.

Defnyddwyr a sut y defnyddir y data

Mae’r data yn y Datganiad Ystadegol hwn yn ffurfio sail y dystiolaeth ar ddigartrefedd statudol yng Nghymru a defnyddir y data gan Lywodraeth Cymru, asiantaethau digartrefedd a sefydliadau tai eraill i fonitro tueddiadau mewn digartrefedd statudol ar lefel gyffredinol ledled Cymru. Mae’r wybodaeth yn cael ei defnyddio i fonitro effeithiolrwydd polisïau presennol, yn arbennig y cynnydd mewn perthynas â'r Cynllun Digartrefedd Deng Mlynedd i Gymru, Dangosyddion Cenedlaethol Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol ac ar gyfer datblygu polisi yn y dyfodol.

Defnyddir y data hefyd i ateb Cwestiynau yn y Senedd, gohebiaeth gweinidogion, achosion dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth ac ymholiadau gan y cyhoedd. Mae awdurdodau tai lleol yn darparu ac yn defnyddio'r ystadegau a defnyddiant y data’n helaeth i gynllunio gwasanaethau, dyrannu adnoddau, monitro perfformiad a meincnodi yn erbyn awdurdodau eraill. Mae nifer o ddefnyddwyr yn defnyddio'r ystadegau hyn gan gynnwys llywodraeth ganol a lleol, ymchwilwyr, academyddion a myfyrwyr. Mae’r sector gwirfoddol hefyd yn defnyddio’r ystadegau i fonitro a gwerthuso polisi tai ac at ddibenion ymgyrchu a chodi arian.

Cryfderau a chyfyngiadau'r data

Cryfderau

  • Mae’r wybodaeth yn cael ei phrosesu a’i chyhoeddi’n rheolaidd ac mewn trefn er mwyn i ddefnyddwyr weld yr ystadegau pan maent yn gyfredol ac o bennaf ddiddordeb.
  • Mae gan yr allbynnau ffocws clir ar Gymru ac maent wedi cael eu datblygu i ddiwallu angen defnyddwyr mewnol ac allanol yng Nghymru.
  • Daw’r data o systemau gweinyddol presennol awdurdodau lleol. Mae cyfathrebu cyson a chyfredol rhyngom ni a’r darparwyr data, ac mae gennym ddealltwriaeth eang o’u prosesau sicrwydd ansawdd.
  • Mae’r data yn mynd trwy broses dilysu trylwyr o fewn Llywodraeth Cymru, a chaiff cwestiynau eu datrys mewn trafodaeth gyda’r cyflenwyr data.
  • Darperir ystadegau manwl drwy ein gwefan StatsCymru ar lefel awdurdod lleol.

Cyfyngiadau

  • Nid oes modd cymharu ystadegau digartrefedd statudol yn uniongyrchol dan y ddeddfwriaeth hen a newydd ar ddigartrefedd (gweler yr adran Cymharu).
  • Mae nifer o faterion wedi effeithio ar ansawdd a chywirdeb y data a gasglwyd ac a gyhoeddwyd o dan y ddeddfwriaeth newydd yn ystod 2015-16 a 2016-17, ac ar y gallu i gymharu'r data. Ceir rhagor o fanylion yn yr adran Cywirdeb.
  • Oherwydd y gweinyddiaethau datganoledig a pholisïau gwahanol, nid yw gwneud cymariaethau uniongyrchol ar lefel y DU mor hawdd (gweler ‘Cydlyniant’ yn ddiweddarach yn y ddogfen).

Y cylch prosesu data

Casglu data

Mae’r ffigurau yn y Datganiad Ystadegol hwn yn seiliedig ar ffurflen ystadegol blynyddol sy’n cael ei llenwi gan awdurdodau lleol yng Nghymru. Mae’r ffurflenni’n seiliedig ar wybodaeth reoli y mae awdurdodau lleol yn ei chadw am eu gweithrediadau o dan y ddeddfwriaeth digartrefedd mewn perthynas â'r aelwydydd hynny sy’n gwneud cais i'r awdurdod lleol am gymorth tai.

Caiff awdurdodau lleol wybod am amserlen yr ymarfer casglu data ymlaen llaw. Mae hyn yn rhoi digon o amser i awdurdodau lleol goladu’u gwybodaeth a lleisio unrhyw bryderon a all fod ganddynt.

Mae copïau o’r ffurflenni casglu data cyfredol am ddigartrefedd statudol ar gael.

Caiff gwybodaeth ei chasglu bob blwyddyn drwy daenlenni Excel. Mae’n rhain yn cael eu lawrlwytho o wefan trosglwyddo ffeiliau Afon sy’n darparu dull diogel o gyflwyno data i ddefnyddwyr. Mae arweiniad ar gael yn y daenlen, sy’n helpu defnyddwyr i lenwi'r ffurflen. Mae’r taenlenni yn gadael i ymatebwyr ddilysu rhywfaint o ddata cyn anfon y daenlen at Lywodraeth Cymru. Mae’r ymatebwyr hefyd yn cael cyfle i gynnwys gwybodaeth gyddestunol pan fydd newidiadau mawr wedi digwydd. Ymysg yr enghreifftiau o wiriadau dilysu ar y ffurflenni y mae croeswiriadau gyda thablau data perthnasol eraill a gwiriadau i sicrhau bod data’n rhesymegol gyson.

Dilysu a gwirio

Mae awdurdodau lleol unigol yn gyfrifol am ddarparu data o ansawdd uchel. Mae Tîm Casglu Data Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am ddilysu ac ymgymryd â gwiriad rhesymol ar y data yma er mwyn sicrhau bo’r data yn cyrraedd y gofynion ar gyfer ‘Ystadegau Gwladol’. Mae tîm Ystadegau Tai LlC yn gyfrifol am sicrwydd ansawdd y dadansoddiad yn yr allbynnau.

Unwaith y cyflwynir y data digartrefedd i'r tîm casglu data yn Llywodraeth Cymru, mae’n destun rhagor o wiriadau dilysu a gwirio, er enghraifft:

  • gwiriad synnwyr cyffredin am unrhyw ddata anghywir/coll heb unrhyw esboniad
  • gwiriadau cysondeb rhifyddol
  • croeswiriadau yn erbyn data'r flwyddyn flaenorol
  • croeswiriadau â chasgliadau data perthnasol eraill
  • gwiriadau goddefiant trwyadl
  • dilysu bod y data y tu allan i'r goddefiannau yn gywir

Os oes gwall dilysu, byddwn yn cysylltu â'r sefydliad ac yn ceisio datrys y mater. Os na chawn ateb mewn amser rhesymol, byddwn yn defnyddio priodoliad (imputation) i gywiro’r gwall. Byddwn wedyn yn hysbysu'r sefydliad ac yn esbonio sut rydym wedi newid y data. Mae'r dull priodoli a'r data yr effeithir arno yn cael ei nodi yn adran ‘gwybodaeth ansawdd’ y datganiad cyntaf.

Yn dilyn cyflwyno deddfwriaeth digartrefedd newydd a ffurflenni casglu data newydd ym mis Ebrill 2015, rydym wedi parhau i weithio’n agos gyda darparwyr data awdurdodau lleol ac wedi rhoi nifer o fesurau ar waith i ddatrys problemau gyda’u prosesau adrodd ar ddata a gwella ansawdd a chywirdeb y data a ddarperir. Roedd hyn yn cynnwys darparu arweiniad gwell a helaethach, newidiadau i fformat a chynnwys y ffurflenni casglu data, digwyddiadau hyfforddi ac ymweliadau ag awdurdodau lleol unigol i ddatrys materion penodol. Hefyd, cafwyd trafodaethau / gohebiaeth sylweddol rhwng y Tîm Casglu Data LlC a'r darparwyr data yn ystod pob blwyddyn casglu data ers Ebrill 2015, i sicrhau bod y data a oedd wedi’i gasglu mor gyson a chyflawn â phosibl.

Sicrhaodd y cydweithio agos gyda chydweithwyr polisi a darparwyr data awdurdodau lleol trwy gydol blwyddyn casglu data 2016-17 welliant yn y materion ansawdd a chywirdeb a brofwyd yn ystod y flwyddyn gasglu data 2015-16 . Arweiniodd hyn at ail-gyflwyno’r statws Ystadegau Cenedlaethol ym mis Gorffennaf 2017 yn dilyn trafodaeth gyda'r Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau sef cangen reoleiddiol Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig. Ceir rhagor o wybodaeth am ddynodi Ystadegau Cenedlaethol.

Rydym wedi parhau i gydweithio'n agos â darparwyr data awdurdodau lleol i sicrhau bod yr wybodaeth a ddarperir ac a gyhoeddir ar ddigartrefedd statudol yn gywir ac o ansawdd da.

Rydym wedi cydgysylltu gyda phob darparwr data awdurdodau lleol er mwyn ennill dealltwriaeth well o’u prosesau sicrwydd ansawdd. Mae prosesau’r awdurdodau yn amrywiol, fel arfer yn ddibynnol ar faint o adnoddau sydd ar gael iddynt. Ymddengys bo ymchwiliadau sylfaenol yn cael eu cyflawni drwyddi draw gan gynnwys gwirio am wybodaeth coll, dileu dyblygiadau, gwiriadau rhesymegol a gwiriadau annibynnol a wneir gan gydweithwyr awdurdodau lleol. Mae gan rai o’r awdurdodau lleol systemau TG mwy cymhleth sy’n gallu dilysu er mwyn sicrhau bo’r data yn dilyn y ddeddfwriaeth. Mae rhai awdurdodau lleol yn cynnal archwiliadau mewnol o’u systemau a’u data. Cynhelir sesiynau hyfforddi rheolaidd mewn rhai o’r awdurdodau lleol mwyaf, lle atgyfnerthir penderfyniadau cyson, a chaiff arferion da eu rhannu gydag awdurdodau lleol eraill.

Mewn rhai achosion rydym hefyd wedi ennill dealltwriaeth fwy trylwyr o’r systemau a’r prosesau sicrwydd ansawdd yn dilyn ymweliadau ag awdurdodau a thrafodaethau manwl gyda darparwyr data. Er enghraifft, adnabuwyd arferion da wrth i system TG awdurdod lleol ddyblygu a dilyn llif y ddeddfwriaeth digartrefedd i’r dim a chaniatáu cofnodi’r canlyniadau yn hawdd. Cafodd yr arferiad da yma wedyn ei basio ymlaen gan LC i awdurdod arall lle cydnabuwyd problem benodol gyda than-gofnodi canlyniadau o ganlyniad i gyfathrebu gwael rhwng adran TG yr awdurdod a’r gweithiwyr achos.

O ystyried y gwelliannau a wnaed ers ei gyflwyno gyntaf (fel yr amlinellwyd uchod), a’r prosesau dilysu a gwirio manwl sydd bellach yn eu lle, mae y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau wedi cytuno bod data digartrefedd statudol yn ddigon cadarn i fodloni safonau Ystadegau Gwladol.

Cyhoeddi

Unwaith y bydd y data ar ei ffurf derfynol, caiff y datganiad ei lunio a bydd y sylwebaeth a’r prif bwyntiau’n cael eu drafftio. Mae’r datganiad yn cael ei wirio’n annibynnol a chynhelir gwiriad synnwyr terfynol gan yr ystadegydd perthnasol cyn cyhoeddi ar y wefan.

Statws Ystadegau Gwladol

Mae Awdurdod Ystadegau’r Deyrnas Unedig wedi dynodi’r ystadegau yma yn Ystadegau Gwladol, yn unol â Deddf Ystadegau a’r Gwasanaeth Cofrestru 2007 ac yn arwyddocáu cydymffurfiad â'r Côd Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Mae statws Ystadegau Gwladol yn golygu bo’r ystadegau yn cyrraedd y safon uchaf o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth cyhoeddus. Dylai pob ystadegau gydymffurfio gyda phob agwedd o’r Côd Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Caiff statws Ystadegau Gwladol ei ddyfarnu yn dilyn asesiad gan gangen rheoleiddio Awdurdod Ystadegau’r Deyrnas Unedig. Mae’r Awdurdod yn ystyried os ydy’r ystadegau yn cyrraedd y safonau uchaf o gydymffurfiaeth i’r Côd, gan gynnwys y gwerth maent yn ei ychwanegu i benderfyniadau a dadlau cyhoeddus.

Mae’n gyfrifoldeb ar Lywodraeth Cymru i gynnal cydymffurfiaeth gyda’r safonau sy’n ddisgwyliedig o Ystadegau Gwladol. Os fyddwn yn pryderi nad yw'r ystadegau yn parhau i gyrraedd y safonau priodol, byddwn yn trafod unrhyw bryderon gyda’r Awdurdod yn brydlon. Gall statws Ystadegau Gwladol gael ei dad-ddynodi ar unrhyw adeg os nad yw’r safonau uchaf yn cael eu cynnal, a’i dynodi eto pan fydd y safonau wedi’u hadfer.

Cadarnhawyd y parhad o ddynodiad yr ystadegau fel Ystadegau Gwladol ym Mawrth 2019 yn dilyn gwiriad o gydymffurfiaeth gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau. Ers yr adolygiad diwethaf gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau, rydym wedi parhau i gydymffurfio â’r Côd Ymarfer ar gyfer ystadegau, ac wedi gwneud y gwelliannau canlynol:

  • rydym wedi gwella delwedd y sylwebaeth a’r data ar dudalen flaen y datganiad, a dileu testun ailadroddus a symleiddio’r iaith a ddefnyddir
  • rydym wedi gwella hygyrchedd i ddefnyddwyr drwy ychwanegu hypergysylltau uniongyrchol i’r ciwb data perthnasol ar StatsCymru ochr yn ochr â'r tablau a’r siartau yn y datganiad
  • o fewn yr Adroddiad Ansawdd rydym wedi cynnwys mwy o fanylion ynglŷn â’n gwybodaeth o’r prosesau sicrwydd ansawdd a gyflawnir gan ddarparwyr data a hefyd wedi cynnwys mwy o fanylion ynglŷn â chyfrifoldeb cyffredinol y broses rheoli ansawdd
  • rydym wedi gwella dibynadwyedd drwy adolygu a lleihau mynediad cynnar cyn cyhoeddi

Sicrhau ansawdd data gweinyddol

Mae'r datganiad hwn wedi’i sgorio yn erbyn Matrics Sicrhau Ansawdd Data Gweinyddol Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig. Y matrics yw safon rheoleiddio Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig ar gyfer sicrhau ansawdd data gweinyddol. Mae’r Safon yn cydnabod y rôl gynyddol sydd gan ddata gweinyddol yn y gwaith o lunio ystadegau swyddogol, ac mae’n esbonio beth ddylai cynhyrchwyr ystadegau swyddogol ei wneud i fodloni'u hunain bod y data o'r ansawdd iawn. Mae'r pecyn sy’n ei chefnogi’n darparu arweiniad defnyddiol i gynhyrchwyr ystadegau am yr arferion y gallant eu mabwysiadu i sicrhau ansawdd y data a dderbyniant, ac mae’n pennu'r safonau ar gyfer asesu ystadegau yn erbyn y Côd Ymarfer ar gyfer Ystadegau.

Rydym wedi asesu’r datganiad hwn fel a ganlyn.

  • Cyd-destun gweithredol a chasglu data gweinyddol (A2: sicrwydd uwch): Rydym yn darparu gwybodaeth ar gyd-destun polisi o fewn y datganiad ystadegol, gan gynnwys disgrifiad o’r newidiadau i ddeddfwriaeth a gyflwynwyd yn 2015 a’r effaith yn nhermau safon a chywirdeb y data (gweler yr adran Polisi a Gweithredol o fewn y ddogfen hon a’r Datganiad Ystadegol am fwy o wybodaeth).
  • Cyfathrebu â phartneriaid cyflenwi data (A2: sicrwydd uwch): Rydym wedi sefydlu dull effeithiol o gyfathrebu gyda’n darparwyr data (gweler adran Casglu Data am ddisgrifiad o sut rydym yn cyfathrebu gyda darparwyr data).
  • Gwiriadau, safonau ac egwyddorion sicrhau ansawdd a ddefnyddir gan gyflenwyr data (A1: sicrwydd sylfaenol): Mae gennym wybodaeth eang o wiriadau sicrwydd ansawdd darparwyr data ac wedi cyhoeddi disgrifiad (gweler adran Dilysu a Gwirio am amlinelliad o’n dealltwriaeth o wiriadau sicrwydd ansawdd darparwyr data).
  • Dogfennau ac ymchwiliadau sicrhau ansawdd y cynhyrchwyr (A2: sicrwydd uwch): Rydym yn darparu gwybodaeth am ein gwiriadau sicrwydd ansawdd ac yn darparu arweiniad ar gryfderau a chyfyngiadau'r data (gweler adran Dilysu a Gwirio a’r datganiad Ystadegol).

Rydym o'r farn fod yr ystadegau digartrefedd statudol yn bryder canolig o ran ansawdd data ac o ddiddordeb canolig i'r cyhoedd gan fod diddordeb eang gan ddefnyddwyr o’r cyfryngau. Rydym yn ffyddiog fod y sgorau’n briodol yn ôl y pecyn, o ran pryderon am ansawdd data a lefel diddordeb y cyhoedd.

Rydym wedi sefydlu proses cyfredol o gydgysylltu gyda darparwyr data'r holl awdurdodau lleol er mwyn ennill dealltwriaeth well o’r prosesau sicrhau ansawdd. Rydym hefyd wedi ennill dealltwriaeth fwy trylwyr o’r systemau a’r prosesau sicrwydd ansawdd ar gyfer rhai awdurdodau yn dilyn ymweliadau fel yr amlinellir yn yr adran ‘Dilysu a Gwirio’ uchod. Yn y dyfodol, byddwn yn parhau i gydweithio’n agos gyda darparwyr data awdurdodau lleol er mwyn annog arferion gorau a sicrhau gwelliant parhaus yng nghywirdeb ac ansawdd y data a ddarperir.

Rheolaeth ar ddatgelu data a chyfrinachedd

Trosglwyddir a chedwir yr holl ddata ar ddigartrefedd statudol yn ddiogel a chymerir camau i sicrhau nad oes perygl y gellir adnabod unigolion yn y data a gyhoeddir.

Mae'r broses rheoli datgelu wedi cael ei defnyddio gyda’r ffigurau yn y datganiad hwn a'r data ategol ar StatsCymru. Mae'r holl ffigurau sy’n llai na 3, a chanrannau sy’n seiliedig ar lai na 3 yn cael eu hatal a’u nodi fel ‘*’. Mae’r rhifau eraill i gyd yn cael eu talgrynnu’n annibynnol i’r 3 agosaf. O’r herwydd, fe all fod gwahaniaeth rhwng swm yr eitemau cyfansoddol a’r cyfanswm. Cafodd yr holl ganrannau a nodir yn yr adroddiad hwn eu cyfrifo gan ddefnyddio’r data heb ei dalgrynnu.

Ansawdd

Mae ystadegau tai Cymru yn cydymffurfio â Strategaeth Rheoli Ansawdd Ystadegol Llywodraeth Cymru, ac mae hyn yn unol â’r Colofn ac egwyddorion ansawdd yn y Côd Ymarfer ar gyfer Ystadegau.

Perthnasedd

I ba raddau y mae'r cynnyrch ystadegol yn bodloni anghenion y defnyddwyr o ran cwmpas a chynnwys.

Mae’r data yn y Datganiad Ystadegol hwn yn ffurfio sail y dystiolaeth ar ddigartrefedd statudol yng Nghymru a defnyddir y data gan Lywodraeth Cymru, asiantaethau digartrefedd a sefydliadau tai eraill i fonitro tueddiadau yn lefel gyffredinol digartrefedd statudol ledled Cymru. Mae diddordebau eraill a defnydd arall o'r data hyn yn cael eu disgrifio uchod.

Mae'r data yn allbynnau ystadegol ‘Digartrefedd yng Nghymru’ yn ymdrin â digartrefedd statudol yn unig. Mae’r wybodaeth yn ymwneud ag aelwydydd sy’n gwneud cais i awdurdodau lleol am gymorth tai o dan Ddeddf Tai (Cymru) 2014 ac nid yw’n cynnwys pobl sy’n cysgu ar y stryd. Rydym wedi ychwanegu llinellau at y datganiad i wneud hyn yn glir i ddefnyddwyr ac rydym wedi cynnwys dolen i’r wybodaeth a gyhoeddir am bobl sy’n byw ar y stryd.

Ar ôl cael trafodaethau anffurfiol â rhanddeiliaid allweddol, rhwng 4 Mawrth a 1 Ebrill 2015, cynhaliwyd ymgynghoriad â defnyddwyr i gael eu barn am newidiadau arfaethedig i faint o wybodaeth sy'n cael ei chasglu a’i chyhoeddi am ddigartrefedd statudol a pha mor aml y gwneir hynny, yn unol â newidiadau i ddeddfwriaeth digartrefedd statudol yn sgil Deddf Tai (Cymru) 2014. Mae’r dogfennau ymgynghori, gan gynnwys adroddiad cryno o'r ymatebion ar gael.

Rydym yn adolygu’n hallbynnau’n gyson ac yn croesawu adborth.

Cywirdeb

Yr agosrwydd rhwng canlyniad a amcangyfrifir a’r gwir werth (anhysbys).

Data 2015-16

Effeithiodd nifer o ffactorau ar ansawdd a chywirdeb y data a gasglwyd ac a gyhoeddwyd ar ddigartrefedd statudol yn ystod 2015-16, gan gynnwys:

  • amseriad newidiadau deddfwriaethol
  • cofnodi data canlyniadau (gyda’r posibilrwydd o sawl canlyniad i unigolion)
  • oedi gyda newid y systemau adrodd TG i ddelio â deddfwriaeth newydd

Mae amlinelliad manylach o'r materion hyn ar gael yn adran 2 datganiad blynyddol 2015-16.

Buom yn gweithio’n agos gydag awdurdodau lleol gydol 2015-16 i wella ansawdd y data. Ond, roedd terfyn ar y gwelliannau y gellid eu gwneud yn ôl-weithredol i ddata 2015-16, ac adeg y datganiad ym mis Awst 2016, roedd pryderon yn dal i fodoli parthed ansawdd a chywirdeb y data. Oherwydd y pryderon hyn am ansawdd y data, cytunwyd gydag Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig y byddai data Ystadegau Digartrefedd ar gyfer 2015-16 yn cael eu dad-ddynodi dros dro yn Ystadegau Gwladol. Mae rhagor o wybodaeth ar ddynodiad Ystadegau Gwladol ar gael.

Data 2016-17

Gwnaethom barhau i weithio’n agos gyda chydweithwyr ym maes polisi a darparwyr data awdurdodau lleol gydol 2016-17. Mae gwybodaeth am y gwaith a wnaethpwyd a'r newidiadau a wnaethpwyd i’r ffurflen casglu data ar gael yn Atodiad A datganiad 2016-17 ynghyd â manylion am faterion ansawdd a chywirdeb a oedd yn benodol i flwyddyn casglu data 2016-17.

Rydym yn ffyddiog fod y problemau ansawdd a chywirdeb a brofwyd yn ystod y flwyddyn flaenorol wedi cael eu datrys fwy neu lai erbyn hyn. Daeth y dad-ddynodiad Ystadegau Gwladol dros dro i ben ym mis Gorffennaf 2017 yn dilyn trafodaeth â'r Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau, sef cangen reoleiddio Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig.

Data 2017-18 a 2018-19

Trwy gydol 2017-18 a 2018-19, rydym wedi parhau i gydweithio'n agos â darparwyr data'r awdurdod lleol i sicrhau bod y wybodaeth a ddarperir ac a gyhoeddir ar ddigartrefedd statudol yn gyson, yn gywir ac o ansawdd da. Mae hyn wedi cynnwys darparu canllawiau a chyfarwyddiadau estynedig mewn perthynas ag adrodd asesiadau Adran 62 ac ymweld â nifer o gyflenwyr data awdurdodau lleol i ddatrys unrhyw faterion penodol gyda eu prosesau cofnodi data.

Gan na wnaed unrhyw ychwanegiadau na newidiadau pellach i'r ffurflenni casglu data ar gyfer blwyddyn gasglu 2018-19, mae'r data'n gwbl gymaradwy â 2016-17 ac 2017-18. Gweler adran ‘Dilysu a Gwirio’ am fwy o fanylion.

Data 2019-20

O ganlyniad i bandemig y Coronafeirws (COVID-19), lluniwyd datganiadau niferoedd llai manwl ar ddigartrefedd statudol yn 2019-20.

Yn benodol, ni chasglwyd gwybodaeth am y math o aelwyd, categorïau angen blaenoriaethol na'r rhesymau dros golli llety. Ni chasglwyd gwybodaeth am oedran, rhyw nac ethnigrwydd ymgeiswyr chwaith.

2020-21, 2021-2022 a 2022-23

O ganlyniad i'r pandemig (COVID-19), parhawyd gyda ffurflen ddigartrefedd statudol flynyddol fyrrach ar gyfer 2020-21, 2021-22 a 2022-23. Er na chasglwyd gwybodaeth am fath o gartref, categorïau o angen blaenoriaethol a rhesymau dros golli llety yn y blynyddoedd hyn, casglwyd gwybodaeth am oedran, rhyw ac ethnigrwydd ymgeisydd.

Diwygiadau

Gall diwygiadau godi yn sgil digwyddiadau fel awdurdod lleol yn hwyr yn anfon ffurflenni neu pan fydd cyflenwr data yn dweud wrth Lywodraeth Cymru ei fod wedi cyflwyno gwybodaeth anghywir ac yn ei hailgyflwyno. Weithiau, gall diwygiadau ddigwydd oherwydd camgymeriadau yn ein prosesau ystadegol ni. Yn yr achosion hyn, bernir a yw’r newid yn ddigon sylweddol i gyhoeddi datganiad ystadegol diwygiedig. Os bernir nad yw’r newidiadau’n sylweddol h.y. mân newidiadau, bydd y rhain yn cael eu diweddaru yn natganiad ystadegol y flwyddyn ddilynol. Ond, efallai y bydd mân ddiwygiadau i'r ffigurau yn cael eu dangos yn nhablau Stats Cymru cyn y datganiad nesaf hwnnw. Rhoddir marc (r) wrth ymyl unrhyw ddata diwygiedig yn y datganiad ystadegol. Rydym hefyd yn dilyn polisi diwygiadau ystadegol Llywodraeth Cymru, y mae ei fanylion ar gael ar-lein.

Fel rhan o’r broses flynyddol o ddilysu a rheoli ansawdd, gofynnir i awdurdodau lleol gadarnhau’r holl ddata a ddarparwyd yn chwarteri blaenorol y flwyddyn casglu data honno a lle bo raid, yn newid unrhyw wybodaeth a ddarparwyd yn flaenorol.

Amseroldeb a phrydlondeb

Mae amseroldeb yn cyfeirio at yr amser rhwng cyhoeddi'r data a'r cyfnod y mae'r data'n cyfeirio ato. Mae prydlondeb yn cyfeirio at yr amser rhwng y dyddiad y cyhoeddwyd y data mewn gwirionedd a'r dyddiad cyhoeddi a oedd wedi’i nodi i gychwyn.

Mae’r holl allbynnau’n cydymffurfio â’r Cod Ymarfer ar Ystadegau Swyddogol drwy gyhoeddi ymlaen llaw ddyddiad y cyhoeddi ar dudalennau ‘I ddod’ ar wefan Ystadegau i Gymru. Yn ogystal, petai angen gohirio allbwn, byddai hyn yn dilyn trefniadau Diwygiadau, Camgymeriadau a Gohiriadau Llywodraeth Cymru.

Rydym yn cyhoeddi datganiadau cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl y cyfnod amser perthnasol. Mae data blynyddol yn cael ei gyhoeddi o fewn pedwar mis i ddiwedd y cyfnod cyfeirio.

Hygyrchedd ac eglurder

Mae hygyrchedd yn cyfeirio at ba mor hawdd ydyw i’r defnyddwyr gael gafael ar y data, a hefyd ym mha fformat(au) y mae’r data ar gael ynddynt ac a oes gwybodaeth ategol ar gael. Mae eglurder yn cyfeirio at ansawdd a digonolrwydd y metaddata, y darluniadau a'r cyngor atodol.

Mae ystadegau digartrefedd Cymru yn cael eu cyhoeddi mewn dull hygyrch a threfnus ar wefan Llywodraeth Cymru am 9:30am ar y dyddiad cyhoeddi,. Nodir ymlaen llaw y bydd yr ystadegau yn cael eu cyhoeddi.

Mae ffrwd RSS yn hysbysu defnyddwyr cofrestredig am y cyhoeddiad hwn ac mae neges drydar oddi wrth @YstadegauCymru yn dweud wrth ddefnyddwyr Twitter.

Anelwn at roi gwybod i ddefnyddwyr allweddol hysbys fod yr ystadegau wedi’u cyhoeddi. Darperir diweddariadau rheolaidd i'r Grŵp Gwybodaeth am Dai ar ddata a gyhoeddwyd.

Hefyd, mae data mwy manwl ar gael ar yr un pryd ar wefan StatsCymru a gellir eu trin ar-lein neu eu lawrlwytho ar ffurf taenlenni i'w defnyddio all-lein

Yn ein hallbynnau, anelwn at ddarparu cydbwysedd o ran sylwebaeth, tablau cryno, siartiau a mapiau os ydynt yn berthnasol. Y nod yw ‘dweud y stori’ yn yr allbwn, heb i'r bwletin na’r adroddiad fynd yn rhy hir.

Anelwn at ddefnyddio iaith glir yn ein hallbynnau ac mae’r holl allbynnau yn cydymffurfio â pholisi hygyrchedd Llywodraeth Cymru. Hefyd, mae ein holl benawdau’n cael eu cyhoeddi yn Gymraeg a Saesneg.

Mae ein hallbynnau’n cael eu hadolygu’n rheolaidd gan gydweithwyr yn fewnol.

Mae rhagor o wybodaeth am yr ystadegau ar gael drwy gysylltu â'r staff perthnasol sy’n cael eu nodi ar y datganiad neu drwy ystadegau.tai@llyw.cymru.

Cymaroldeb

I ba raddau y mae modd cymharu data dros amser a pharth.

Cymariaethau â hen ddeddfwriaeth: Nid oes modd mynd ati'n uniongyrchol i gymharu nifer yr 'aelwydydd digartref’ a gasglwyd o dan y ddeddfwriaeth bresennol a’r ddeddfwriaeth flaenorol. Roedd y data a gasglwyd dan y ddeddfwriaeth flaenorol (Adran VII o Ddeddf Tai 1996) yn seiliedig dim ond ar y penderfyniad asesu olaf a wnaethpwyd gan awdurdodau lleol ar aelwydydd a oedd wedi gwneud cais am gymorth gyda thai. O fis Ebrill 2015, rhaid i awdurdodau lleol gofnodi holl ganlyniadau asesiadau a wneir am aelwydydd sy’n gwneud cais am gymorth gyda thai ac yn cael asesiad o dan Adran 62 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014. Gall un aelwyd gael hyd at dri chanlyniad gwahanol o dan y broses hon yn dibynnu ar ganlyniadau pob dyletswydd yn y ddeddfwriaeth. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn Adran 2.1 datganiad ystadegol Digartrefedd yng Nghymru: 2015-16. Mae papur yn disgrifio’r newidiadau deddfwriaethol ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.

Cymariaethau â data’r flwyddyn gyntaf (2015-16): Dylid bod yn ofalus wrth gymharu data mwy diweddar am ddigartrefedd â data o 2015-16. Mae hyn oherwydd y problemau ag ansawdd y data yn 2015-16 ac ychwanegiadau a newidiadau i’r ffurflenni chwarterol a blynyddol ar gyfer 2016-17. Mae gwybodaeth am y newidiadau sydd wedi’u gwneud i ffurflen casglu data 2016-17 ar gael yn yr Atodiad i ddatganiad 2016-17. Darperir cyfeiriadau yn y Datganiad Ystadegol lle bo hynny’n berthnasol. Ni newidiwyd y y ffurflen casglu data ar gyfer 2018-19. Mae hyn wedi caniatáu cymariaethau uniongyrchol rhwng data 2016-17 a 2017-18.

Cymariaethau â rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig: Mae gwybodaeth debyg ar gael o rannau eraill o’r DU, ond nid oes modd cymharu'r data’n uniongyrchol oherwydd prosesau deddfwriaethol gwahanol ymhob un o wledydd y Deyrnas Unedig - gweler Cydlyniant isod.

Cydlyniant

I ba raddau y mae data sy’n deillio o wahanol ffynonellau neu ddulliau, ond sy’n cyfeirio at yr un ffenomen, yn debyg.

Gwybodaeth reoli fisol am ddarpariaeth llety digartrefedd a chysgu allan

Ers mis Awst 2020, mae awdurdodau lleol wedi bod yn casglu gwybodaeth reoli fisol am bobl y rhoddwyd llety dros dro iddynt a phobl sy'n cysgu allan. Caiff yr wybodaeth reoli hon ei chasglu yn lle'r wybodaeth a fu'n cael ei chasglu'n wythnosol ar ddechrau pandemig y Coronafeirws (COVID-19), sef o fis Ebrill 2020 ymlaen.

Mae'n bwysig nodi'r gwahaniaethau canlynol rhwng yr wybodaeth reoli fisol a'n cyhoeddiadau ar ddigartrefedd statudol:

  • Mae'r wybodaeth reoli fisol yn ymwneud â nifer yr unigolion sy'n profi digartrefedd ac sy'n cael eu cefnogi gan awdurdodau lleol i ddod o hyd i  lety argyfwng neu lety hirdymor addas.
  • Mae ein casgliadau ar ddigartrefedd statudol yn cynnwys data ar nifer yr aelwydydd, nid nifer yr unigolion. Mae'r data hynny'n ymwneud â digartrefedd fel y'i diffinnir gan Ddeddf Tai (Cymru) 2014 (Deddfwriaeth y DU).

Cysgu ar y stryd

Ar 8 Tachwedd 2019, cafodd nifer y rheini sy’n cysgu ar y stryd eu cyfrif yn fras dros gyfnod o noson ledled Cymru. Cafodd y canlyniadau eu cyhoeddi mewn datganiad ystadegol ar 4 Chwefror 2020.  Nid oes unrhyw gyfrif pellach o bobl sy'n cysgu ar y stryd wedi'u cynnal ers hynny ac mae data cysgu ar y stryd wedi'i gynnwys yn y casgliad gwybodaeth rheoli misol. Ar gyfer yr wybodaeth rheoli misol, gofynnir i awdurdodau lleol seilio eu hamcangyfrifon ar ddeallusrwydd lleol, yn hytrach na'r fethodoleg a gyflogir ar gyfer y cyfrif cysgu ar y stryd blaenorol.

Nid yw’n berthnasol ceisio cymharu’r ffigurau ar gyfer cysgu ar y stryd yn uniongyrchol â’r ffigurau ar gyfer digartrefedd statudol a ddangosir yn y datganiad hwn gan eu bod yn cofnodi gwahanol agweddau ar ddigartrefedd. Nid yw ffigurau digartrefedd statudol yn cynnwys pobl sy’n cysgu ar y stryd ond maent yn cynnwys gwybodaeth am nifer yr aelwydydd sy’n gwneud cais i awdurdodau lleol i gael cymorth tai o dan Ddeddf Tai (Cymru) 2014 oherwydd eu bod yn ddigartref neu dan fygythiad o ddigartrefedd. Efallai fod rhai pobl sy’n cysgu ar y stryd wedi cysylltu ag awdurdod lleol i gael cymorth i ddod o hyd i dŷ naill ai’n ddiweddar neu yn y gorffennol ac eraill heb gysylltu.

Ar ôl dechrau casglu gwybodaeth reoli fisol sy'n cynnwys data ar bobl sy'n cysgu allan, penderfynwyd na fyddai cyfrif blynyddol o bobl sy'n cysgu allan yn cael ei gynnal ym mis Tachwedd 2020, 2021 a 2022.

Marwolaethau pobl ddigartref yng Nghymru a Lloegr

Ar 23 Tachwedd 2021, cyhoeddodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol ddatganiad ystadegol yn nodi ystadegau arbrofol nifer y bobl ddigartref a fu farw yng Nghymru a Lloegr (Swyddfa Ystadegau Gwladol). Rhoddwyd ffigurau ar gyfer y marwolaethau a gofrestrwyd yn ystod y blynyddoedd rhwng 2013 a 2021.

Dangosyddion Strategol Cenedlaethol

Cyn 2015-16, roedd y dangosyddion Strategol Cenedlaethol ar gyfer llywodraeth leol yn casglu gwybodaeth am atal digartrefedd. Y rhifiadur ar gyfer y dangosydd HHA/013 yw nifer yr aelwydydd a allai fod yn ddigartref ac wedi’i gadarnhau. Bydd y ffigurau hyn yn wahanol i'r rheini a ddangosir yn y datganiad hwn sy’n cyfeirio at asesiadau a wneir gan awdurdodau lleol am yr aelwydydd hynny sy’n gwneud cais iddynt am gymorth tai ac yn cael eu hasesu o dan Adran 62 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014. 

Ystadegau digartrefedd statudol ar gyfer gwledydd eraill y Deyrnas Unedig

Yn ystod 2018, er mwyn mynd i’r afael â’r broblem anghysondeb a chefnogi defnyddwyr ystadegau digartrefedd, archwiliodd Tîm Gwasanaeth Cysoni Ystadegol Llywodraeth y Deyrnas Unedig y posibilrwydd o gysoni’r diffiniadau o ddigartrefedd ar gyfer ystadegau swyddogol ar draws y DU. Yn Chwefror 2019 argraffwyd adroddiad ar y diffiniadau yma, ac fe gasglwyd na fyddai’n bosib yn y tymor byr i ddatblygu diffiniad cyson o ddigartrefedd ar gyfer ystadegau swyddogol DU. Yn dilyn gwahaniaethau sylweddol yn y systemau data gweinyddol a diffiniadau cyfreithiol o ddigartrefedd. Mae natur ddatganoledig deddfwriaeth tai a digartrefedd ar draws y DU yn golygu bo diffiniadau digartrefedd yn amrywio. Mae technegau casglu data ar gyfer data digartrefedd wedi’u cynllunio i adlewyrchu’r ddeddfwriaeth ym mhob gwlad yn unigol. Mae gwahaniaethau gweithredol wrth gasglu gwybodaeth ddigartrefedd yn golygu bo gwahaniaethau yn ystadegau digartrefedd ar draws y pedair gwlad ac ar hyn o bryd nid oes digon o gyfarwyddid ar sut i gymharu’r ystadegau perthynol.

Argymhellodd yr adroddiad y dylai arweiniad mwy cynhwysfawr ar brosesau a diffiniadau digartrefedd gael ei datblygu a’i ddefnyddio yng nghyhoeddiadau ystadegol pob gwlad. Mae tîm cysoni Gwasanaeth Ystadegol Llywodraeth y DU yn cydweithio gyda chynhyrchwyr ystadegau digartrefedd DU ar hyn o bryd i lunio arweiniad cyson er mwyn i’r pedwar cyhoeddiad DU gael eu cynnwys ym mhob cyhoeddiad ystadegol yn y dyfodol.

Argymhellir hefyd y dylid creu adroddiad manylach, ar wahân, ar gymaroldeb y DU o ystadegau digartrefedd a fydd yn cynnwys fframwaith cysyniadol ar gyfer digartrefedd. Bydd y fframwaith cysyniadol yn galluogi i ddefnyddwyr weld y gwahanol ddiffiniadau o ddigartrefedd sy’n cael eu defnyddio ar gyfer ystadegau swyddogol ar hyn o bryd a sut maent yn gweddu gyda’i gilydd.  Cafodd yr adroddiad ei ddrafftio ym mis Medi 2019.

Lloegr

Cyn Ebrill 2018 roedd Gweinyddiaeth Dai, Cymunedau a Llywodraeth Leol yn casglu ac yn cyhoeddi gwybodaeth gryno am weithgareddau awdurdodau tai lleol Lloegr o dan Ran 7 o Ddeddf Tai 1996 (fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Digartrefedd 2002 a Deddf Lleoleiddio 2011) sy’n gosod dyletswyddau statudol ar awdurdodau tai lleol i ddarparu cymorth i bobl sy’n ddigartref neu’n cael eu bygwth â digartrefedd.

Cyflwynodd y Weinyddiaeth Dai, Cymunedau a Llywodraeth Leol ddosbarthiad wybodaeth lefel achos digartrefedd (H-CLIC) yn Ebrill 2018 i gyd-fynd â dechreuad y Ddeddf Lleihau Digartrefedd 2017. Bydd H-CLIC yn casglu data ar lefel achos a darparu gwybodaeth fwy manwl ar achosion ac effeithiau digartrefedd na’r hyn a gasglwyd yn y gorffennol. Bydd y Ddeddf Lleihau Digartrefedd 2017 yn gosod dyletswyddau cyfreithiol newydd ar gynghorau Lloegr fel y bydd pawb sy’n ddigartref neu mewn perygl o ddigartrefedd yn cael mynediad i gymorth ystyrlon, waeth beth yw eu statws angen blaenoriaethol, dim ond eu bod yn gymwys am gymorth. Bydd y Ddeddf yn diwygio rhan VII o’r Ddeddf Tai 1996.

Mae gwybodaeth arall am y newidiadau i ddata digartrefedd statudol yn Lloegr.

Yr Alban

Mae’r ystadegau digartrefedd statudol blynyddol diweddaraf yn yr Alban (Llywodraeth yr Alban) ar gael ar wefan ystadegau Llywodraeth yr Alban. Fe ddaeth Rheoliadau Gwasanaethau Cymorth Tai (Digartrefedd) (Alban) 2019 i rym ar 1 Mehefin 2013. Mae’r Rheoliadau yn rhoi darpariaeth berthynol i Awdurdodau Lleol yn eu dyletswydd i asesu os oes angen gwasanaethau cymorth tai ar rai pobl sy’n ddigartref neu mewn perygl o ddigartrefedd (“yr ymgeisydd”). Mae Rheoliad 2 yn rhagnodi pedwar math o wasanaeth cymorth tai sy’n berthnasol ar gyfer pwrpas y ddyletswydd hon. Os oes rheswm gan yr Awdurdod Lleol i gredu bo’r ymgeisydd angen un neu fwy o’r gwasanaethau yma, mae’n rhaid iddo asesu os yw’r ymgeisydd, neu rywun sy’n byw gyda’r ymgeisydd, angen cymorth o’r math hwn. Os felly, rhaid i’r Awdurdod Lleol sicrhau bo’r gwasanaeth yn cael ei darparu i’r person sydd ei angen.

Cesglir data ar geisiadau ac asesiadau ar system cipio data electronig barhaus ar lefel achos. Hefyd, cesglir data am aelwydydd mewn llety dros dro ar ddiwedd bob chwarter yn ogystal â gwybodaeth am aelwydydd sydd mewn perygl o ddod yn ddigartref yn ôl y diffiniad yn Adran 11 o Ddeddf Digartrefedd etc. (Yr Alban) 2003.

Gogledd Iwerddon

Yng Ngogledd Iwerddon, daw'r ystadegau ar ddigartrefedd drwy law Gweithrediaeth Tai Gogledd Iwerddon (NIHE). O dan Orchymyn Tai (GI) 1988, mae gan NIHE gyfrifoldeb statudol tebyg i sicrhau llety parhaol i aelwydydd sy’n anfwriadol ddigartref ac mewn angen blaenoriaethol; i sicrhau llety dros dro mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd ac i ddarparu cyngor a chymorth i'r rheini sy’n ddigartref neu dan fygythiad o fod yn ddigartref. Cafodd yr ystadegau mwyaf diweddar ar ddigartrefedd statudol ar gyfer Gogledd Iwerddon (Adran Cymunedau Gogledd Iwerddon) eu cyhoeddi maent ar gael.