Mae'r tâl ar gerbydau sy'n croesi Pont Cleddau ar fin dod i ben, diolch i arian gan Lywodraeth Cymru ar gyfer diddymu'r tollau.
Ar 1 Ebrill, bydd pobl yn cael gyrru dros y bont am y tro cyntaf ers iddi agor bron union 44 o flynyddoedd yn ôl, heb orfod talu toll.
Mae'r bont yn rhychwantu aber dwfn y Ddau Gleddau sy'n rhannu Sir Benfro'n ddwy. Cafodd y bont ei chodi i ddarparu croesfan 24 awr y dydd, i gymryd lle'r fferi a arferai cysylltu trefi gogledd a de Sir Benfro. Teithiodd y car cyntaf dros y bont newydd ar 20 Mawrth 1974.
Yn 2017, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddai'n diddymu'r tollau ar Bont Cleddau fel rhan o’r cytundeb dwy flynedd y negododd Llywodraeth Cymru â Phlaid Cymru ynghylch y gyllideb, er mwyn gwneud economi'r ardal yn fwy cystadleuol ac i gysylltu pobl, cymunedau a busnesau yn well â swyddi, marchnadoedd a chyfleusterau.
Ac yn awr, mewn llythyr i Gyngor Sir Benfro, mae Ysgrifennydd yr Economi wedi cynnig £3m y flwyddyn i'w ddigolledu am y refeniw y bydd yn ei golli ynghyd â thaliad untro i dalu am ddymchwel adeiladau'r dollfa a thalu am gostau. Caiff y sefyllfa ei hadolygu ymhen 20 mlynedd.
Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates:
"Rwy'n hyderus y byddwn, trwy gael gwared ar y tollau ar Bont Cleddau, yn rhoi hwb i dwf yr economi leol, yn cysylltu busnesau a chymunedau'n well ac yn ei gwneud hi'n haws ac yn rhatach i bobl deithio i fanteisio ar gyfleoedd gwaith o ansawdd uchel.
"Yn wir, mae astudiaeth a gomisiynwyd gan Gyngor Sir Penfro yn dangos y byddai diddymu'r tollau'n cefnogi strategaeth datblygu economaidd yr ardal ac yn rhoi hwb i'r economi leol, i'r Ardal Fenter ac i fusnesau bach a chanolig yr ardal.
"Rydyn ni'n sylweddoli y bydd y penderfyniad yn effeithio ar gyllideb y Cyngor ac ar swyddi'r rhan fwyaf o bobl sy'n gweithio yn y tollfeydd.
"Rydyn ni felly wedi cynnig bargen hael o £3m y flwyddyn i'r Cyngor i'w ddigolledu am y refeniw y bydd yn ei golli yn ogystal ag arian ychwanegol i dalu am y costau a dymchwel adeiladau'r dollfa."
Gan ganmol y staff a fydd yn teimlo effeithiau diddymu'r doll, meddai Ken Skates:
"Mae’r Cyngor yn gwneud popeth yn ei allu i helpu’r staff tollau y bydd y newid yn effeithio arnyn nhw. Hoffwn ddiolch iddyn nhw am eu gwasanaeth cyhoeddus a dymuno pob llwyddiant iddyn nhw yn y dyfodol."