Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, rhoddwyd cymeradwyaeth derfynol i Fil Diddymu'r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, sy'n golygu y gall y Bil fynd ymlaen i gael Cydsyniad Brenhinol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Rhagfyr 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Cafodd y Bil drafft ei gyflwyno ym mis Mawrth, ac mae'n anelu at ddiogelu'r stoc o dai cymdeithasol yng Nghymru rhag lleihau ymhellach – gan sicrhau bod y stoc ar gael i ddarparu tai diogel a fforddiadwy i bobl yng Nghymru. 


Yn dilyn pleidlais lwyddiannus yn y Cynulliad y prynhawn yma, dywedodd Rebecca Evans, y Gweinidog Tai ac Adfywio:


“Rwy'n hynod falch bod Bil Diddymu'r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig wedi mynd trwy'r cam olaf ac y gall fynd ymlaen i gael Cydsyniad Brenhinol. Mae rhoi terfyn ar yr Hawl i Brynu yn sicrhau ein bod ni’n diogelu'r buddsoddiad a wnaed mewn tai cymdeithasol dros nifer o genedlaethau, ar gyfer teuluoedd yng Nghymru heddiw ac yn y dyfodol.


“Bydd hynny hefyd yn rhoi'r hyder i awdurdodau lleol a chymdeithasau tai fuddsoddi mewn datblygiadau newydd er mwyn helpu i fodloni'r angen am dai fforddiadwy o safon yng Nghymru. 


“Rwy'n ddiolchgar i bawb sydd wedi chwarae rôl, o fewn y Cynulliad a'r tu allan iddo, i'n galluogi ni i gyrraedd y cam pwysig hwn. 


“Hoffwn hefyd ddweud y byddai Carl Sargeant wedi bod yn falch iawn o weld bod y Bil wedi cyrraedd y cam terfynol hwn. Roedd yn credu'n angerddol mewn diogelu ein stoc o dai cymdeithasol er budd y gymdeithas, a gweithiodd yn eithriadol o galed i roi'r ddeddfwriaeth hon ar waith. Rwy'n hynod falch i allu helpu i lywio'r Bil drwy'r camau terfynol hyn i'w roi yn y Llyfr Statud i Gymru.”

Mae'r Hawl i Brynu wedi bod yn rhan annatod o gyfundrefn tai cymdeithasol ers nifer o flynyddoedd yng Nghymru, ac mae wedi arwain at golli nifer sylweddol o dai cymdeithasol - fwy na 139,000 rhwng 1981 a 2016. 

Er bod nifer y tai cymdeithasol sy'n cael ei werthu wedi arafu yn ystod y blynyddoedd diweddar, mae'r stoc o dai cymdeithasol yn dal i leihau ar adeg lle mae galw mawr am dai. Fel canlyniad i hynny, roedd y rheini yr oedd angen tai arnynt - a nifer yn eu plith yn agored i niwed - yn gorfod aros am gyfnodau hirach i gael cartref yr oeddent yn gallu ei fforddio.

Cafodd y Bil ei gyflwyno fis Mawrth diwethaf, yn dilyn ymgynghoriad ar y Papur Gwyn yn 2015. Bellach, mae'r Bil wedi'i basio ac mae'n cael gwared ar yr holl amrywiadau o'r Hawl i Brynu, gan gynnwys yr Hawl i Brynu a Gadwyd a'r Hawl i Gaffael. 

Mae darpariaeth yn y Bil yn caniatáu o leiaf blwyddyn ar ôl cael Cydsyniad Brenhinol cyn i'r diddymiad terfynol o'r hawl i brynu eiddo sydd eisoes yn bodoli ddod i rym. Ond, er mwyn annog buddsoddiad mewn cartrefi newydd, bydd yr hawliau'n cael eu diddymu ar gyfer cartrefi sydd newydd gael eu cynnwys yn y stoc o dai cymdeithasol – ac felly nad oes tenantiaid eisoes yn eu rhentu - ddau fis ar ôl cael Cydsyniad Brenhinol.