Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r Bil hwn yn ceisio diogelu’r cyflenwad o stoc tai cymdeithasol rhag dirywio ymhellach yn wyneb cymaint o alw a phrinder cyflenwad.

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Gorffennaf 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Nod y Bil yw gwarchod stoc tai cymdeithasol Cymru rhag lleihau eto fyth, gan sicrhau ei fod ar gael i ddarparu cartref saff, diogel a fforddiadwy i bobl sy’n methu â phrynu neu rentu cartref ei hunain. Mae’n ategu camau eraill Llywodraeth Cymru i gynyddu’r cyflenwad tai.

Wrth gyflwyno’r cynnig i gytuno i egwyddorion cyffredinol y Bil, meddai Carl Sargeant, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant:

“Mae’r Bil hwn yn ceisio diogelu’r cyflenwad o stoc tai cymdeithasol rhag dirywio ymhellach yn wyneb cymaint o alw a phrinder cyflenwad.

“Rhwng 1981 a 2016, cafodd dros 139,000 o dai awdurdodau lleol a chymdeithasau tai eu gwerthu dan y cynlluniau hyn. Mae hyn wedi arwain at bobl mewn angen o ran tai, llawer ohonyn nhw’n agored i niwed, ac yn gorfod disgwyl yn hwy i gael cartref fforddiadwy.

“Trwy ddiddymu’r Hawl i Brynu a’r Hawl i Gaffael, bydd y Bil hefyd yn annog landlordiaid cymdeithasol i fuddsoddi mewn tai cymdeithasol newydd gyda’r sicrwydd na fydd mewn perygl o gael ei werthu ar ôl dim ond ychydig flynyddoedd.”

Yn sgil cytundeb ar egwyddorion cyffredinol y Bil, bwriedir lansio ymgynghoriad yfory ar y ddogfen wybodaeth i’w chyflwyno i denantiaid. Bydd cyfres o ddigwyddiadau ymgysylltu â thenantiaid wedi’u cynnal gan Tenant Participation Advisory Service Cymru yn elfen allweddol o’r ymgynghoriad. Hefyd, bydd yr ymgynghoriad yn canolbwyntio ar arferion gorau ymgysylltu â thenantiaid ac yn llywio’r cyngor i’w ddarparu i landlordiaid cymdeithasol ar rannu’r wybodaeth hon.