Cyhoeddodd yr Ysgrifennydd dros yr Economi a Seilwaith, Ken Skates, heddiw y bydd yr ymchwiliad cyhoeddus annibynnol i Brosiect yr M4 o gwmpas Casnewydd yn dechrau ar 1 Tachwedd.
Mae’r arolygwyr annibynnol wedi’u penodi a chyda rhag-gyfarfod yr ymchwiliad ar fin cychwyn ddydd Llun nesaf (18 Gorffennaf), dywedodd Ysgrifennydd yr Economi bod angen cynnal ymchwiliad annibynnol er lles Cymru i weld a yw’r cynigion yn cynnig ateb tymor hir a chynaliadwy i’r problemau traffig ar y ffordd hon.
Meddai Ken Skates:
“Roeddwn yn awyddus i bennu dyddiad yr ymchwiliad cyhoeddus i Brosiect yr M4 cyn gynted ag y medrwn er mwyn rhoi eglurder i’r broses.
“Mae’n amlwg ers tro bellach i fusnesau, cymudwyr ac ymwelwyr, nad yw’r darn hwn o’r M4 o gwmpas Casnewydd yn gallu dygymod ag anghenion y Gymru fodern.”
“Bydd yr ymchwiliad yn bwrw golwg agored a thryloyw ar y prif gynnig, a’r cynigion eraill, cyn rhoi adborth fydd yn ein helpu i benderfynu p’un ai i fwrw ymlaen â’i adeiladu neu beidio.”
Wrth siarad am rag-gyfarfod yr ymchwiliad, meddai Ysgrifennydd y Cabinet:
“Bydd y cyfarfod cyn yr ymchwiliad yn helpu’r arolygwyr a’r partïon eraill i baratoi ar gyfer yr ymchwiliad. Mae cefnogwyr a gwrthwynebwyr y cynnig o bob rhan o Gymru a thu hwnt wedi’u gwahodd i ddysgu sut y bydd yr ymchwiliad yn ystyried yr holl ffactorau amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd perthnasol.”
Caiff y rhag-gyfarfod ei gynnal yn y Lysaght Institute, Casnewydd am 1pm. Bydd yn agored i bawb. Bydd yn gyfle i esbonio i’r holl bartïon sut bydd y broses yn gweithio ac i baratoi ar gyfer yr ymchwiliad ei hun. Ni ystyrir y dystiolaeth yn y rhan hon o’r broses.