Mae'r Gweinidog Diwylliant Chwaraeon a Thwristiaeth, yr Arglwydd Elis-Thomas wedi dewis Ian Edwards ar gyfer y swydd o gynrychioli Cymru ar Fwrdd VisitBritain.
Mae Ian Edwards yn Brif Swyddog Gweithredol Gwesty'r Celtic Manor yng Nghasnewydd, gynhaliodd Cwpan Ryder yn 2010 ac Uwchgynhadledd NATO yn 2014; a Chanolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru sydd i agor ar ddechrau'r flwyddyn nesaf ac sydd o fewn safle'r gwesty. Cafodd Ian ei enwi'n Westywr y Flwyddyn yng Ngwobrau Lletygarwch Ewropeaidd 2015; ac roedd yn aelod o gyn Fwrdd Cynghori Twristiaeth Gweinidogol Llywodraeth Cymru.
Meddai'r Gweinidog,
"Dwi'n falch iawn o benodi Ian i gynrychioli Cymru ar Fwrdd VisitBritain, gyda'i wybodaeth helaeth o'r diwydiant twristiaeth yng Nghymru ac yn rhyngwladol, dwi'n hyderus y bydd yn werthfawr i'r Bwrdd, bydd yn helpu i gyfrannu at ddatblygiad cyffredinol twristiaeth yng Nghymru ac yn helpu i ddiffinio, datblygu a chraffu ar gynlluniau a llwyddiannau VisitBritain. Ni fu erioed mor bwysig i bontio Cymru yn ddiwylliannol, yn ddigidol ac yn ffisegol â'r byd - ac mae ein gwaith gyda VisitBritain yn ffordd bwysig o greu perthynas mewn ymgais i ddatblygu ein cyfran o ymweliadau rhyngwladol i Gymru."
Meddai Ian Edwards:
“Dwi’n falch iawn o gael fy mhenodi yn gynrychiolydd Cymru ar Fwrdd VisitBritain yn ystod y cyfnod cyffrous hwn i Gymru. Dwi’n edrych ymlaen at ddod â’m 30 mlynedd o brofiad yn y diwydiannau lletygarwch a digwyddiadau i’r swydd amlwg hon, yn ogystal â’m brwdfrydedd personol i hyrwyddo Cymru a Phrydain fel cyrchfan arbennig i ymwelwyr. Rwyf hefyd yn edrych ymlaen i weithio’n agosach gyda’r tîm yn Croeso Cymru wrth i mi fynychu’r Bwrdd Rheoli Twristiaeth hefyd.”
Yn ogystal â chynrychioli cyfarfodydd o Fwrdd Cymru a VisitBritain, bydd Ian hefyd yn mynd i gyfarfodydd o Fwrdd mewnol Rheoli Twristiaeth Adran Twristiaeth a Marchnata Llywodraeth Cymru.