Mae Construcciones y Auxiliar de Ferrocarriles (CAF) wedi dewis dod i Gymru i sefydlu ei Ganolfan Ragoriaeth ar gyfer cynhyrchu cerbydau rheilffyrdd DU.
Bydd y buddsoddiad o £30m, gyda help cymorth grant sylweddol gan Lywodraeth Cymru, yn creu 300 o swyddi crefftus a bras.
Cafodd rhagor na 100 o safleoedd yn y DU eu hystyried a dewiswyd Parc Busnes Celtic yng Nghasnewydd o blith y pedwar oedd ar y rhestr fer.
Wrth groesawu'r newydd heddiw, meddai'r Prif Weinidog, Carwyn Jones:
"Mae'r cyhoeddiad heddiw yn bluen fawr yng nghap Cymru ac yn ddatganiad mawr o ffydd yn ein diwydiant gweithgynhyrchu. Unwaith eto, rydym yn cystadlu ag eraill ar lwyfan y byd ac wedi llwyddo gan ddenu buddsoddiad arwyddocaol i Gymru.
"Mae'r buddsoddiad o £30m yn hwb aruthrol i'r economi a gobeithio, yn sbardun i dwf ein sector rheilffyrdd gan greu cannoedd o swyddi crefftus a bras."
Dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi:
"Bydd y buddsoddiad sylweddol hwn gan CAF a Llywodraeth Cymru yn sylfaen ar gyfer datblygu sector y rheilffyrdd yng Nghymru a bydd yn rhoi lle canolog inni mewn diwydiant sydd â photensial aruthrol i dyfu.
"Yn ogystal â chreu 300 o swyddi o'r calibr uchaf, bydd yn cyd-fynd hefyd â buddsoddiad anferth Llywodraeth Cymru ym Metro'r De-Ddwyrain. Caiff manylion hwnnw eu cyhoeddi ymhen rhai wythnosau."
Dywedodd Richard Garner, Cyfarwyddwr CAF yn y DU:
“Mae CAF yn hen law ar gyflenwi’r farchnad Brydeinig ac mae gennym nawr sail economaidd cadarn ar gyfer cynyddu ôl ein troed ymhellach yn y DU. Bydd sefydlu’r cyfleuster hwn yn helpu i wireddu dyhead tymor hir CAF i ddominyddu marchnad y DU am flynyddoedd mawr i ddod.”
Mae Llywodraeth Cymru'n cefnogi’r prosiect, y ganolfan gyntaf o'i bath yng Nghymru. Bydd lle ar y safle i ehangu’n sylweddol yn y dyfodol, gan roi'r potensial i fuddsoddi ymhellach a chreu rhagor o swyddi yn ardal Casnewydd.
Bydd y cwmni'n defnyddio'r cyfleuster newydd i gydosod, profi a chomisiynu cerbydau newydd ac mae'r capasiti yno i gynnal prosiectau gweithgynhyrchu yn y dyfodol yn ogystal â gwaith cynnal a chadw a gwasanaethu.