Neidio i'r prif gynnwy

Mae MapDataCymru yn darparu gwybodaeth ddaearyddol a gwasanaethau cysylltiedig o'r sector cyhoeddus.

Rydym wedi gwahodd sefydliadau partner i gofrestru cyfrifon ar y wefan. Gallant ychwanegu data a rhannu hyn yn gyhoeddus neu'n ddiogel â deiliaid cyfrifon eraill.

Mae gwybodaeth ddaearyddol yn cynnwys popeth y gellir ei ddangos ar fap, er enghraifft:

  • meddygfeydd
  • parthau llifogydd
  • llygredd sŵn
  • ardaloedd o amddifadedd

Mae MapDataCymru yn caniatáu i chi:

  • chwilio am wybodaeth
  • arddangos set ddata ar ben map sylfaen
  • archwilio, mesur a dadansoddi nodweddion sydd o ddiddordeb

Ewch i MapDataCymru.