Neidio i'r prif gynnwy

Y Tasglu Gweinidogol ar gyfer Cymoedd De Cymru yn cynnal cyfres o gyfarfodydd cyhoeddus ar draws y rhanbarth.

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Chwefror 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae’r Tasglu Gweinidogol ar gyfer Cymoedd y De yn cynnal cyfres o gyfarfodydd cyhoeddus ledled y rhanbarth, gyda golwg ar gael clywed barn y trigolion am yr hyn sy’n flaenoriaeth iddynt yn eu cymunedau lleol. 

Fis diwethaf, bu Alun Davies, y Gweinidog Dysgu Gydol Oes, sydd hefyd yn cadeirio’r Tasglu, yn cyfarfod â disgyblion Ysgol Gymuned Ferndale ac arweinwyr busnes yng Nghaerffili. Bu’n ateb cwestiynau am rôl y tasglu ac yn gwrando ar awgrymiadau am yr hyn a ddylai fod yn flaenoriaeth iddo.

Bydd Julie James yn ymuno ag aelodau eraill o’r tasglu ac yn cynnal sesiwn drin a thrafod â’r cyhoedd yng Nghanolfan Fenter Gymunedol Croeserw ar ddydd Iau (2 Chwefror). Mae hi am glywed am yr heriau a’r cyfleoedd sy’n cael eu profi gan y trigolion lleol sy’n byw ac yn gweithio yn y cymoedd.

Dywedodd:

“Mae’r tasglu wedi cyflawni cryn dipyn yn yr wythnosau diwethaf. Mae’n amlwg bod yr ymwybyddiaeth a’r ddealltwriaeth o’r hyn sy’n cael ei wneud gennym yn cynyddu.

“Mae’r sesiynau sydd wedi eu cynnal hyd yn hyn wedi bod yn amhrisiadwy o ran llunio ein blaenoriaethau. Mae’n hanfodol ein bod yn cynnal hyn ac yn gwrando ar farn y cymunedau drwy gydol oes y tasglu.

“Dyma rai o’r prif themâu sydd wedi dod i’r amlwg hyd yn hyn: pwysigrwydd meithrin cysylltiad rhwng busnesau ac ysgolion lleol i roi hyder a sgiliau i bobl ifanc er mwyn iddynt allu llwyddo yn y byd gwaith; a phwysigrwydd meithrin cysylltiad rhwng seilwaith megis safleoedd diwydiannol, ysgolion, colegau a mentrau trafnidiaeth, a thrwy hynny, sicrhau bod y cymoedd wedi eu cysylltu yn dda.

“Hyderaf y bydd rhagor yn dod i’r amlwg dros yr wythnosau nesaf. Mae hynny’n dechrau yma yng Nghymer. Os ydych chi’n byw yn lleol ac yn teimlo i’r byw am eich cymuned, yna dewch draw i ddweud eich dweud. Rydym yn awyddus i glywed eich barn i’n helpu i lunio ein gweledigaeth ar gyfer y cyhoedd.”

Sefydlwyd y tasglu gan y Llywodraeth ym mis Gorffennaf gyda’r bwriad o ychwanegu at y gwaith sydd eisoes wedi cael ei wneud, ac eisoes yn cael ei wneud ledled cymoedd y De. Y bwriad yw gwneud hynny mewn ffordd sy’n cydgysylltu’n well ac yn targedu anghenion cymunedau’r cyhoedd yn well.

Bydd y sesiwn heno yn dilyn cyfarfod o’r tasglu llawn ac yn cael ei gynnal yn Sefydliad y Glowyr Llanhiledd. Gwasanaethau cyhoeddus fydd o dan sylw yn y sesiwn.

Ewch i dudalen Facebook i ddysgu rhagor am y tasglu a’i waith neu er mwyn cadw lle mewn un o’r cyfarfodydd cyhoeddus.