Data ar nifer y cleifion a dderbyniwyd i gyfleusterau iechyd meddwl yn ffurfiol ac yn anffurfiol, a chleifion sy'n destun triniaeth gymunedol dan oruchwyliaeth ar gyfer Ebrill 2019 i Fawrth 2020.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Derbyn cleifion i gyfleusterau iechyd meddwl
Mae data yn y diweddariad hwn yn cwmpasu dechrau’r pandemig coronafeirws (COVID-19). O ganlyniad, efallai nad oes modd cymharu’r data â blynyddoedd blaenorol gan fod rhai ysbytai wedi nodi newid mewn ymarfer i leihau nifer y cleifion a gedwir mewn cyfleusterau iechyd meddwl ar yr adeg yma, gyda mwy o ddarpariaeth yn y gymuned.
Derbyniadau (ac eithrio cadwadau man diogel)
Yn 2019-20, bu 7,466 o dderbyniadau i gyfleusterau iechyd meddwl yng Nghymru.
Roedd 97% o'r bobl a dderbyniwyd yn 2019-20 wedi'u derbyn i gyfleusterau'r GIG yng Nghymru, a'r gweddill wedi'u derbyn i ysbytai annibynnol.
Derbyniadau ffurfiol o dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 a deddfwriaethau eraill (ac eithrio cadwadau man diogel)
Yn 2019-20, roedd 1,965 (26%) o’r holl dderbyniadau yn dderbyniadau ffurfiol o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 a deddfwriaeth arall. Roedd hyn yn gynnydd o 54 (3%) ers 2018-19.
Cafodd 95% (1,857 o 1,965) o dderbyniadau ffurfiol eu cadw heb gynnwys llysoedd troseddol (Rhan II). Cafodd 78% (1,449 o 1,857) o’r rhain eu derbyn ar gyfer asesu, gyda neu heb driniaeth (Adran 2 Deddf Iechyd Meddwl 1983).
Triniaeth gymunedol dan oruchwyliaeth
Yn 2019-20, roedd 150 o gleifion yn destun triniaeth gymunedol dan oruchwyliaeth (SCT), gan gynnwys 23 lle oedd ysbyty annibynnol yn gyfrifol amdanynt. O'r cyfanswm hwn, roedd 95 yn ddynion a 55 yn ferched.
O'r cleifion a oedd yn destun triniaeth SCT, roedd 81 wedi cael eu galw yn ôl i'r ysbyty, 67 wedi cael eu dirymu a 94 wedi cael eu rhyddhau yn 2019-20.
Adroddiadau
Derbyn cleifion i gyfleusterau iechyd meddwl, Ebrill 2019 i Fawrth 2020 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 857 KB
Data
Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol
Cyswllt
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Rhif ffôn: 0300 025 5050
E-bost: ystadegau.iechyd@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.