Neidio i'r prif gynnwy

Data ar nifer y cleifion a dderbyniwyd i gyfleusterau iechyd meddwl yn ffurfiol ac yn anffurfiol, a chleifion sy'n destun triniaeth gymunedol dan oruchwyliaeth ar gyfer Ebrill 2018 i Fawrth 2019.

Derbyniadau

Yn 2018-19, bu 8,315 o dderbyniadau i gyfleusterau iechyd meddwl yng Nghymru (ac eithrio cadwadau man diogel).

Roedd 97% o'r bobl a dderbyniwyd (ac eithrio cadwadau man diogel) yn 2018-19 wedi'u derbyn i gyfleusterau'r GIG yng Nghymru, a'r gweddill wedi'u derbyn i ysbytai annibynnol.

Derbyniadau ffurfiol o dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 a deddfwriaethau eraill

Yn 2018-19, roedd 1,916 o’r holl dderbyniadau o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 (ac eithrio cadwadau man diogel) a deddfwriaeth arall. Roedd hyn yn gynnydd o 25 (1%) ers 2017-18.

Cafodd 94% (1,795 o 1,916) o dderbyniadau ffurfiol (ac eithrio cadwadau man diogel) eu cadw heb gynnwys llysoedd troseddol (Rhan II). Roedd 79% (1,417 o 1,795) o’r rhain yn cael eu derbyn ar gyfer asesu, gyda neu heb driniaeth (Adran 2 Deddf Iechyd Meddwl 1983).

Adran 2 dangosodd y cynnydd mwyaf (yn nhermau niferoedd) rhwng 2017-18 a 2018-19 gan godi o 1,378 i 1,417 (39 neu 3%).

Triniaeth gymunedol dan oruchwyliaeth

Yn 2018-19, roedd 152 o gleifion yn destun triniaeth gymunedol dan oruchwyliaeth (SCT), gan gynnwys 8 lle oedd ysbyty annibynnol yn gyfrifol amdanynt. O'r cyfanswm hwn, roedd 103 yn ddynion a 49 yn ferched.

O'r cleifion sy'n destun triniaeth SCT, roedd 66 wedi cael eu galw yn ôl i'r ysbyty, 44 wedi cael eu dirymu a 105 wedi cael eu gollwng yn 2018-19.

Adroddiadau

Derbyn cleifion i gyfleusterau iechyd meddwl, Ebrill 2018 i Mawrth 2019 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 828 KB

PDF
Saesneg yn unig
828 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.