Neidio i'r prif gynnwy

Data ar nifer y cleifion a dderbyniwyd i gyfleusterau iechyd meddwl yn ffurfiol ac yn anffurfiol, a chleifion sy'n destun triniaeth gymunedol dan oruchwyliaeth ar gyfer Ebrill 2017 i Mawrth 2018.

Derbyniadau

  • Yn 2017-18, bu 8,588 o dderbyniadau i gyfleusterau iechyd meddwl yng Nghymru (ac eithrio cadwadau man diogel), gostyngiad o 135 (2%) ers 2016-17.
  • Roedd 97% o'r bobl a dderbyniwyd (ac eithrio cadwadau man diogel) yn 2017-18 wedi'u derbyn i gyfleusterau'r GIG yng Nghymru, a'r gweddill wedi'u derbyn i ysbytai annibynnol.

Derbyniadau ffurfiol o dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 a deddfwriaethau eraill

  • Cafodd 1,891 eu derbyn yn 2017-18 dan y Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 (ac eithrio cadwadau man diogel) a deddfwriaeth arall, cynnydd o 115 (6%) ers 2016-17.
  • Cafodd 94% (1,775 o 1,891) o dderbyniadau ffurfiol (ac eithrio cadwadau man diogel) eu cadw heb gynnwys llysoedd troseddol (Rhan II) gyda 78% (1,378 o 1,775) o’r rhain yn cael eu derbyn ar gyfer asesu, gyda neu heb driniaeth (Adran 2 Deddf Iechyd Meddwl 1983).
  • Adran 2 dangosodd y cynnydd mwyaf (yn nhermau niferoedd) rhwng 2016-17 a 2017-18 gan godi o 1,246 i 1,378 (132 neu 11%).

Triniaeth gymunedol dan oruchwyliaeth

  • Yn 2017-18, roedd 149 o gleifion yn destun triniaeth gymunedol dan oruchwyliaeth (SCT), gan gynnwys 15 lle oedd ysbyty annibynnol yn gyfrifol amdanynt. O'r cyfanswm hwn, roedd 96 yn ddynion a 53 yn fenywod.
  • O'r cleifion sy'n destun triniaeth SCT, roedd 61 wedi cael eu galw yn ôl i'r ysbyty, 57 wedi cael eu dirymu a 72 wedi cael eu gollwng yn 2017-18.

Nodyn

Yn dilyn y newidiadau i'r Ddeddf Iechyd Meddwl yn ymwneud ag adran 135 a 136 ym mis Rhagfyr 2017, mae Llywodraeth Cymru wedi penderfynu ei fod yn briodol rhoi'r gorau i gasglu data ar y ' Defnydd o Adrannau 135 a 136 o'r Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 ' yn flynyddol drwy'r ffurflen KP90. Yn flaenorol, cyhoeddwyd y wybodaeth yn flynyddol ar lefel Cymru gyfan ddim ond yn y Datganiad Ystadegol Cyntaf Derbyn cleifion i gyfleusterau iechyd meddwl yn nhablau 4A a 4B. Cyhoeddwyd yr olaf o'r datganiadau sy'n dangos y data hwn ar y 31ain Ionawr 2018, gan ddangos data ar gyfer 2016-17.

Bydd y data yn cael ei gyhoeddi yn y dyfodol drwy'r data chwarterol Adran 135 a 136 y bydd y byrddau iechyd yn eu darparu a bydd y cyhoeddiad cyntaf ar y 5 Ragfyr 2019.
 

Adroddiadau

Derbyn cleifion i gyfleusterau iechyd meddwl, Ebrill 2017 i Mawrth 2018 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 882 KB

PDF
Saesneg yn unig
882 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.