Neidio i'r prif gynnwy

Bydd Tîm Digwyddiadau Busnes Llywodraeth Cymru yn ceisio dod â mwy o gynadleddau, cyfarfodydd ac arddangosfeydd i'r wlad yn sgil presenoldeb Cymru mewn sioe fasnach ryngwladol yn Barcelona.

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Tachwedd 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

IBTM World yw digwyddiad mwyaf blaenllaw'r byd ar gyfer y diwydiant cyfarfodydd, cymelliadau, cynadleddau a digwyddiadau.  Mae'r sioe fasnach, sy'n cael ei chynnal rhwng 27 a 29 Tachwedd 2018, yn dod â'r diwydiant cyfarfodydd byd-eang ynghyd i arddangos lleoliadau posibl ar gyfer cyfarfodydd ledled y byd. 

Bydd y tîm yn hyrwyddo nodweddion y wlad fel cyrchfan ar gyfer digwyddiadau busnes yn y gobaith y bydd hynny'n dod â budd economaidd gwerth miliynau o bunnoedd i Gymru ar ffurf gwariant gan yr ymwelwyr busnes. 

Mae potensial anferth gan Gymru i ddenu rhagor o ddigwyddiadau busnes i'n lleoliadau a'n cyrchfannau gwych sydd eisoes â hanes blaenorol o gynnal digwyddiadau mawr. 

Dywedodd y Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon, yr Arglwydd Elis-Thomas: 

"Mae'n hanfodol ein bod yn dod â chymaint o gynadleddau a digwyddiadau i'r wlad ag y gallwn, gan eu bod yn allweddol i dwf economaidd ein cenedl. Bydd ein buddsoddiad yn Venue Cymru yn y Gogledd, ac yn enwedig agoriad y Ganolfan Gynadledda Ryngwladol y flwyddyn nesaf, yn rhoi Cymru ar y map. Rhaid inni fanteisio ar y cyfle hwn ac annog y byd i ddarganfod pa mor hyfryd yw Cymru i ymweld â hi fel cynrychiolydd busnes.

"Yn 2019, byddwn yn dathlu'r Flwyddyn Darganfod. Fel rhan o hynny, bydd ein hymgyrch digwyddiadau busnes yn annog y rheini sy'n gyfrifol am wneud penderfyniadau yn y diwydiant i ddarganfod Cymru drwy hoelio sylw ar yr hyn sy'n gwneud Cymru yn wahanol. Bydd yn canolbwyntio ar ein sectorau economaidd pwysig gan gynnwys Gwyddorau Bywyd, Deunyddiau a Gweithgynhyrchu Uwch, y Diwydiannau Creadigol, Bwyd a Diod, Ynni a'r Amgylchedd, gwasanaethau ariannol a phroffesiynol, a Thechnoleg ac yn pwysleisio ein hystod o leoliadau gwych ar gyfer cyfarfodydd, digwyddiadau, profiadau a gweithgareddau yn ogystal â'n ffordd arloesol o gynnal digwyddiadau busnes.”

Bydd stondin Cymru yn IBTM World yn cynnwys llawer o leoliadau a chyrchfannau gorau Cymru ac yn cefnogi partneriaid gan gynnwys Gwesty'r Vale, Venue Cymru, Gwesty'r Celtic Manor, Think Orchard a Chanolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru sy'n agor fis Gorffennaf nesaf.