Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae’r data diweddaraf yn yr adroddiad hwn ar gyfer 2023 ac yn cyfeirio at fusnesau oedd yn weithredol rhwng Rhagfyr 2022 a Rhagfyr 2023.

Prif bwyntiau

  • Cyfanswm nifer y mentrau a oedd yn weithredol yng Nghymru yn ystod 2023 oedd 102,215. Roedd hyn yn ostyngiad o 2,305 o fentrau (2.2%) ar 2022.
  • Gwelwyd 10,520 o fentrau’n cael eu geni yng Nghymru yn ystod 2023, sy'n gyfradd o 10.3%. Cyfradd geni busnesau'r DU oedd 11.0%. 
  • Bu 11,300 o fentrau farw yng Nghymru yn ystod 2023, sef cyfradd o 11.1%. Cyfradd marw busnesau'r DU oedd 10.8%. 
  • Y gyfradd oroesi 5 mlynedd i fentrau a anwyd yn 2018 ac a oedd yn parhau'n weithredol yn 2023 yng Nghymru oedd 36.6%, ychydig yn is na chyfradd oroesi’r DU o 39.4%.  Yng Ngogledd Iwerddon oedd y gyfradd oroesi 5 mlynedd uchaf (47.7%) ac yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr yr oedd yr isaf (34.7%).
  • Y gyfradd oroesi 1 mlynedd i fentrau a anwyd yn 2022 ac a oedd yn parhau'n weithredol yn 2023 yng Nghymru oedd 91.8%, ychydig yn is na chyfradd oroesi'r DU o 92.3%. Yn Ne Ddwyrain Lloegr cafwyd y gyfradd oroesi uchaf (93.4%), tra bod yr isaf yng Ngogledd Iwerddon (90.8%).

Nodyn

Cyfrifir cyfraddau fel canran o stoc.

Bydd y setiau data manwl Demograffeg busnes ar StatsCymru yn cael eu diweddaru i gynnwys y data newydd maes o law.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Emma Horncastle
E-bost: ystadegau.economi@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099