Neidio i'r prif gynnwy

Data sy'n crynhoi gwybodaeth ar y nifer o enedigaethau a marwolaethau a stoc mentrau sydd wedi cofrestru ar gyfer TAW/PAYE ar gyfer 2020.

Ar 25 Ionawr 2022, cafodd y tablau StatsCymru ar gyfer busnesau oedd wedi eu geni, marw a mentrau gweithredol yn ôl diwydiant eu diweddaru i gynnwys y data diweddaraf (2020).

Mae’r data diweddaraf yn yr adroddiad hwn ar gyfer 2020. Mae'r cyfnod hwn yn cynnwys y tri mis cyn, a naw mis cyntaf pandemig y coronafeirws (COVID-19).

Prif bwyntiau

  • Cyfanswm nifer y mentrau a oedd yn weithredol yng Nghymru yn ystod 2020 oedd 104,445. Roedd hyn yn gynnydd o 675o fentrau (0.7%) ar 2019.
  • Gwelwyd 11,905 o fentrau’n cael eu geni yng Nghymru yn ystod 2020, sy'n gyfradd [troednodyn 1] o 11.8%. Cyfradd geni busnesau'r DU oedd 11.9%.
  • Mae’r gyfradd genedigaethau busnes ar gyfer Cymru ar ei hisaf ers 2012. Mae'n debygol bod pandemig COVID-19 wedi cyfrannu at hyn.
  • Bu 10,200 o fentrau’n marw yng Nghymru yn ystod 2020, sef cyfradd [troednodyn 1] o 9.8%. Cyfradd marw busnesau'r DU oedd 10.5%.
  • Y gyfradd oroesi 5 mlynedd i fentrau a anwyd yn 2015 ac a oedd yn parhau'n weithredol yn 2020 yng Nghymru oedd 40.4%, ychydig yn uwch na chyfradd oroesi’r DU o 39.6%.  Yn Ne orllewin Lloegr oedd y gyfradd oroesi 5 mlynedd uchaf (44.3%) ac yn Llundain yr oedd yr isaf (36.7%).
  • Y gyfradd oroesi 1 mlynedd i fentrau a anwyd yn 2019 ac a oedd yn parhau'n weithredol yn 2020 yng Nghymru oedd 90.7%, ychydig yn uwch na chyfradd oroesi'r DU o 88.3%. Yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr cafwyd y gyfradd oroesi uchaf (91.3%), tra bod yr isaf yn Gogledd Iwerddon (80.5%).

[1] Cyfrifir cyfraddau fel canran o stoc.

Data ychwanegol yn ôl diwydiant a gyhoeddwyd yn Ionawr 2022

  • Roedd y diwydiant adeiladu yn parhau i fod â’r nifer fwyaf o fentrau gweithredol (15,230) yng Nghymru yn 2020
  • Yn y sector Trafnidiaeth a storio gwelwyd y mwyaf o fentrau’n cael eu geni yn 2020 (1,825).

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.