Neidio i'r prif gynnwy

Data sy'n crynhoi gwybodaeth ar y nifer o enedigaethau a marwolaethau a stoc mentrau sydd wedi cofrestru ar gyfer TAW/PAYE ar gyfer 2019.

Nid yw’r adroddiad yn cwmpasu cyfnod y pandemig coronafeirws (COVID-19).

Prif bwyntiau

  • Roedd y diwydiant adeiladu yn parhau i fod â’r nifer fwyaf o fentrau gweithredol (15,245) a busnesau wedi cael eu geni (1,760) yng Nghymru yn 2019
  • Gwasanaethau Gweinyddu a Chymorth Busnes oedd â'r twf mwyaf mewn mentrau gweithredol ers 2018 (7.5%) o 9,365 i 10,070.
  • Cyfanswm nifer y mentrau a oedd yn weithredol yng Nghymru yn ystod 2019 oedd 103,770. Roedd hyn yn gynnydd o 1,425 o fentrau (1.4%) ar 2018.
  • Gwelwyd 12,265 o fentrau’n cael eu geni yng Nghymru yn ystod 2019, sy'n gyfradd(a) o 11.8%. Dyma'r gyfradd pedwerydd isaf o’r deuddeg gwlad a rhanbarthau'r DU. Cyfradd geni busnesau'r DU oedd 13.0%.
  • Bu 10,825 o fentrau’n marw yng Nghymru yn ystod 2019, sef cyfradd(a) o 10.4%. Dyma'r gyfradd pedwerydd isaf o’r deuddeg gwlad a rhanbarthau'r DU. Cyfradd marw busnesau'r DU oedd 11.2%.
  • Y gyfradd oroesi 5 mlynedd i fentrau a anwyd yn 2014 ac a oedd yn parhau'n weithredol yn 2019 yng Nghymru oedd 42.0%, ychydig yn llai na chyfradd oroesi’r DU o 42.5%.  Yn Ne orllewin Lloegr oedd y gyfradd oroesi 5 mlynedd uchaf (45.9%) ac yn Llundain yr oedd yr isaf (39.2%).
  • Y gyfradd oroesi 1 mlynedd i fentrau a anwyd yn 2018 ac a oedd yn parhau'n weithredol yn 2019 yng Nghymru oedd 89.3%, ychydig yn uwch na chyfradd oroesi'r DU o 89.1%. Yng Ngogledd Ddwyrain Lloegr cafwyd y gyfradd oroesi uchaf (91.2%), tra bod yr isaf yn Llundain (87.0%).

(a) Cyfrifir cyfraddau fel canran o stoc.

Adroddiadau

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.