Neidio i'r prif gynnwy

Data sy'n crynhoi gwybodaeth ar y nifer o enedigaethau a marwolaethau a stoc mentrau sydd wedi cofrestru ar gyfer TAW/PAYE ar gyfer 2018.

Prif bwyntiau

  • Ganwyd 3,055 o fusnesau a bu farw 1,900 o fusnesau yn y diwydiant manwerthu yng Nghymru yn 2018, mwy nag unrhyw ddiwydiant arall.
  • Roedd y diwydiant adeiladu yn parhau i gael y nifer fwyaf o fentrau gweithredol yng Nghymru gyda 15,075 yn 2018.
  • Cyfanswm nifer y mentrau a oedd yn weithredol yng Nghymru yn ystod 2018 oedd 105,360.
  • Gwelwyd 14,045 o fentrau’n cael eu geni yng Nghymru yn ystod 2018, sy'n gyfradd(1) o 13.3%. Dyma'r gyfradd trydydd uchaf allan o wledydd a rhanbarthau'r DU. Cyfradd geni busnesau'r DU oedd 12.9%.
  • Bu 10,950 o fentrau farw yng Nghymru yn ystod 2018, sef cyfradd(1) o 10.4%. Dyma'r gyfradd pedwerydd isaf o wledydd a rhanbarthau'r DU. Cyfradd marw busnesau'r DU oedd 11.4%.
  • Y gyfradd oroesi 5 mlynedd i fentrau a anwyd yn 2013 ac a oedd yn parhau'n weithredol yn 2018 yng Nghymru oedd 42.1%, ychydig yn llai na chyfradd oroesi’r DU o 42.4%.  Yn Ne orllewin Lloegr oedd y gyfradd oroesi 5 mlynedd uchaf (45.6%) ac yn Llundain yr oedd yr isaf (39.3%).
  • Y gyfradd oroesi 1 mlynedd i fentrau a anwyd yn 2017 ac a oedd yn parhau'n weithredol yn 2018 yng Nghymru oedd 90.0%, ychydig yn uwch na chyfradd oroesi'r DU o 89.0%. Yn Nwyrain Canolbarth Lloegr cafwyd y gyfradd oroesi uchaf (90.8%), tra bod yr isaf yn Llundain (87.2%).

(1) Cyfrifir cyfraddau fel canran o stoc.

Adroddiadau

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.