Democratiaeth leol yng Nghymru - Atodiad: deddfwriaeth
Yn esbonio beth yw llywodraeth leol a sut mae'n gweithio yng Nghymru.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Deddfwriaeth a dulliau llywodraethu’r prif gyngor
Mae'r canlynol yn nodi'r brif ddeddfwriaeth sy'n ymwneud â'r pynciau dan sylw. Mae’n cynnwys deddfwriaeth sylfaenol (sef Deddf gan Senedd y DU neu Senedd Cymru) ac is-ddeddfwriaeth ar ffurf rheoliadau, gorchmynion neu godau statudol. Nid yw hyn yn cynnwys disgrifiad llawn o'r ddeddfwriaeth, dim ond trosolwg.
Dim ond os oes pŵer i wneud hynny mewn Deddf y gall Llywodraeth Cymru wneud is-ddeddfwriaeth. Bydd y Ddeddf wedyn yn gosod amodau ar hyd a lled y pŵer hwn a’r broses ar gyfer gwneud yr is-ddeddfwriaeth, er enghraifft efallai y bydd angen ymgynghori â phobl benodol neu efallai bydd angen i’r is-ddeddfwriaeth gael ei thrafod gan y Senedd cyn y gall ddod i rym.
Dylech fod yn ymwybodol bod legislation.gov.uk yn wasanaeth a ddarperir gan yr Archifau Gwladol sy’n cynnwys ac yn diweddaru deddfwriaeth sylfaenol (Deddfau / Mesurau) ac is-ddeddfwriaeth (rheoliadau / gorchmynion) sydd mewn grym ar hyn o bryd yn y DU a’u dogfennau esboniadol cysylltiedig. Efallai y bydd rhywfaint o oedi rhwng diwygio neu greu darn o ddeddfwriaeth gan Senedd Cymru a chyhoeddi’r diwygiad neu’r darn newydd hwnnw o ddeddfwriaeth ar wefan legislation.gov.uk.
Yn ogystal â’r Ddeddf, rheoliadau neu orchmynion, bydd y wefan yn rhoi dolenni ichi at ddogfennau ategol megis nodiadau esboniadol neu femorandwm esboniadol. Mae’r rhain yn egluro pwrpas a chynnwys y ddeddfwriaeth mewn ffordd lai ffurfiol. Os cafodd y ddeddfwriaeth ei gwneud gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru / Senedd Cymru, mae’r fersiynau a basiwyd hefyd ar gael ar wefan Senedd Cymru; mae’r wefan hon hefyd yn cyhoeddi’r holl ddogfennau esboniadol a oedd yn cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth, gan gynnwys y nodiadau esboniadol a’r memorandwm esboniadol. Noder, fodd bynnag, nad yw gwefan Senedd Cymru yn diweddaru’r fersiynau gwreiddiol o ddeddfwriaeth os cânt eu diwygio wedi hynny. Mae legislation.co.uk yn diweddaru’r fersiynau gwreiddiol.
Deddf Llywodraeth Leol 1972
Mae hon wedi cael ei diwygio a’i diweddaru droeon ers iddi gael ei phasio i ddechrau, ond mae’n dal i fod yn ddeddf sylfaenol ar gyfer prif gynghorau yng Nghymru (a Lloegr). Roedd Deddf 1972 yn dilyn adolygiadau mawr o lywodraeth leol a’i swyddogaethau a’i threfn lywodraethu yng Nghymru a Lloegr yn y 1960au ac mae’n rhoi’r glasbrint ar gyfer y ffordd y mae’n rhaid i gynghorau gynnal eu busnes, sut a phryd y cynhelir etholiadau a phwy gaiff fod yn gynghorydd.
Mae’n cynnwys darpariaeth fanwl am gyfarfodydd cyngor, agendâu, papurau, cyhoeddi dogfennau a mynediad y cyhoedd i gyfarfodydd ac at ddogfennau. Cafodd y darpariaethau hyn eu diwygio gan Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 er mwyn galluogi cynghorau i gyfarfod yn hyblyg wyneb yn wyneb, ar-lein neu drwy gyfuniad o’r rhain. Mae’r diwygiadau hyn hefyd yn darparu ar gyfer cyhoeddi hysbysiadau cyfarfodydd, papurau cyfarfodydd a dogfennau cefndir yn electronig.
Darllenwch: Deddf Llywodraeth Leol 1972.
Deddf Llywodraeth Leol 1986
Mae llawer o’r Ddeddf hon bellach wedi’i diddymu ond mae’r adrannau sy’n ymwneud â chyhoeddusrwydd awdurdodau lleol a gwahardd defnyddio adnoddau’r cyngor ar gyhoeddusrwydd gwleidyddol yn dal mewn grym.
Darllenwch: Deddf Llywodraeth Leol 1986.
Cod ar yr Arferion a Argymhellir o ran Cyhoeddusrwydd Awdurdodau Lleol
Cyhoeddir y Cod hwn o dan adran 4 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1986. Mae’n nodi’r egwyddorion y mae’n rhaid i gynghorau eu dilyn wrth sicrhau bod adnoddau’r cyngor yn cael eu defnyddio’n briodol yng nghyswllt cyhoeddusrwydd.
Darllenwch: Cod ar yr Arferion a Argymhellir o ran Cyhoeddusrwydd Awdurdodau Lleol.
Deddf Llywodraeth Leol a Thai 1989
Roedd hwn yn ddarn sylweddol o ddeddfwriaeth llywodraeth leol a wnaed i fynd i’r afael â nifer o faterion uchel eu proffil ar y pryd ac mae llawer ohoni wedi cael ei ddiddymu ers hynny. Fodd bynnag, mae’r adrannau sy’n ymwneud â chyfyngiadau gwleidyddol ar swyddogion a staff, dyletswyddau rhai swyddogion (y prif weithredwr a’r swyddog monitro), penodi a rheoli staff (gan gynnwys penodi staff ar sail teilyngdod), penodi cynorthwywyr i grwpiau gwleidyddol a chydbwysedd gwleidyddol pwyllgorau yn dal mewn grym ac yn ffurfio elfennau allweddol o’r fframwaith deddfwriaethol gwleidyddol a llywodraethu cyffredinol.
Darllenwch: Deddf Llywodraeth Leol a Thai 1989.
Rheoliadau Llywodraeth Leol (Pwyllgorau a Grwpiau Gwleidyddol) 1990
Mae’r rheoliadau hyn yn nodi sut y pennir grŵp gwleidyddol a sut y dylid dyrannu seddi ar bwyllgorau’r cyngor lle mae’n rhaid cael cydbwysedd gwleidyddol.
Darllenwch: Rheoliadau Llywodraeth Leol (Pwyllgorau a Grwpiau Gwleidyddol) 1990.
Rheoliadau Llywodraeth Leol (Pwyllgorau a Grwpiau Gwleidyddol) (Diwygio) (Cymru) 2014
Mae'r rheoliadau hyn yn diwygio rheoliadau 1990 i eithrio pwyllgorau ardal rhag y gofyniad i gael cydbwysedd gwleidyddol os nad yw'r ardal yn fwy na hanner cyfanswm ardal yr awdurdod neu ei phoblogaeth. Gall cynghorau gyfansoddi pwyllgorau ardal i gyflawni neu i gynghori ar swyddogaethau yng nghyswllt ardal ddaearyddol benodol o’r cyngor.
Darllenwch: Rheoliadau Llywodraeth Leol (Pwyllgorau a Grwpiau Gwleidyddol) (Diwygio) (Cymru) 2014.
Gorchymyn Llywodraeth Leol (Cynorthwywyr i Grwpiau Gwleidyddol) (Tâl) (Cymru) 2009
Roedd hyn yn gosod y raddfa gyflog ar gyfer cynorthwywyr grwpiau gwleidyddol. Y raddfa a ddefnyddir yw’r raddfa y cytunir arni’n genedlaethol (Y Cyd-gyngor Cenedlaethol) ar gyfer tâl gweithwyr cyngor sy’n is na’r prif swyddog.
Darllenwch: Gorchymyn Llywodraeth Leol (Cynorthwywyr i Grwpiau Gwleidyddol) (Tâl) (Cymru) 2009.
Gorchymyn Llywodraeth Leol (Cynorthwywyr i Grwpiau Gwleidyddol) (Tâl) (Cymru) (Diwygio) 2019
Mae’n diwygio’r raddfa gyflog ar gyfer cynorthwywyr gwleidyddol grwpiau gwleidyddol o bwynt graddfa 44 i bwynt graddfa 38, yn dilyn newid yn y ffordd y mae’r raddfa wedi’i strwythuro.
Darllenwch: Gorchymyn Llywodraeth Leol (Cynorthwywyr i Grwpiau Gwleidyddol) (Tâl) (Cymru) (Diwygio) 2019.
Rheoliadau Swyddogion Llywodraeth Leol (Cyfyngiadau Gwleidyddol) 1990
Specifies a number of matters to be set out in the terms and conditions of officers appointed to post deemed to be politically restricted.
Darllenwch: Rheoliadau Swyddogion Llywodraeth Leol (Cyfyngiadau Gwleidyddol) 1990.
Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Rheolau Sefydlog) (Cymru) 2006
Dyma'r prif reoliadau sy'n ymwneud â'r rheolau sefydlog y mae'n rhaid i gynghorau eu cael. Rheolau sefydlog sy’n creu’r llyfr rheolau y mae cyngor yn ei ddilyn. Mae’r rheoliadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol bod rhaid gwneud rheolau sefydlog yng nghyswllt prif swyddogion, cyfarfodydd a thrafodion, staff a chamau disgyblu.
Darllenwch: Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Rheolau Sefydlog) (Cymru) 2006.
Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Rheolau Sefydlog) (Cymru) (Diwygio) 2014
Roedd y rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 2006 i’w diweddaru ar gyfer newidiadau yn y gyfraith ac i’w gwneud yn ofynnol bod swyddi swyddogion sy’n cael cyflogau dros £100,000 yn cael eu hysbysebu’n allanol a bod penodi neu ddiswyddo’r prif weithredwr yn swyddogaeth i’r cyngor llawn a bod unrhyw newid i gyflog y swyddog hwnnw hefyd yn swyddogaeth i’r cyngor llawn.
Darllenwch: Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Rheolau Sefydlog) (Cymru) (Diwygio) 2014.
Deddf Llywodraeth Leol 2000
Roedd hon yn Ddeddf bwysig arall wrth ddatblygu trefn lywodraethu prif gynghorau. Roedd yn creu’r cysyniad o wahanu’r weithrediaeth oddi wrth y cyngor llawn. Nid oedd yn mynd mor bell â gwahanu staff ac adnoddau’r cyngor ac mae’r rhain yn dal i wasanaethu’r cyngor llawn a’r weithrediaeth. Roedd hefyd yn cyflwyno’r cysyniad o feiri etholedig. Mae'n cynnwys darpariaeth sy'n ei gwneud yn ofynnol bod gan brif gyngor gyfansoddiad, a’i fod yn ei gyhoeddi ac yn ei ddiweddaru. Cafodd hyn ei ddiwygio gan Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 a oedd yn galluogi cyhoeddi electronig ac yn cyflwyno’r gofyniad i gyhoeddi a diweddaru canllaw i’r cyfansoddiad.
Darllenwch: Deddf Llywodraeth Leol 2000.
Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Penderfyniadau, Dogfennau a Chyfarfodydd) (Cymru) 2001
Mae'r rheoliadau hyn yn nodi'r trefniadau ar gyfer rhoi hysbysiad o gyfarfodydd gweithrediaeth cyngor, cyhoeddi'r papurau ar gyfer cyfarfodydd o'r fath, cofnodi penderfyniadau a wneir gan y weithrediaeth (gan gynnwys pan fydd un o bwyllgorau'r weithrediaeth neu aelod unigol o'r weithrediaeth yn gwneud penderfyniad o’r fath) a hawliau mynediad ychwanegol (gan gynnwys gweld dogfennau sy'n ymwneud â busnes gweithrediaethau) ar gyfer cynghorwyr eraill ac aelodau pwyllgorau trosolwg a chraffu'r cyngor.
Darllenwch: Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Penderfyniadau, Dogfennau a Chyfarfodydd) (Cymru) 2001.
Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Penderfyniadau, Dogfennau a Chyfarfodydd) (Cymru) (Diwygio) 2021
Mae’r rheoliadau hyn yn diwygio prif reoliadau 2001 (gweler y cofnod blaenorol) er mwyn galluogi cynghorau i gyfarfod yn hyblyg wyneb yn wyneb, ar-lein neu drwy gyfuniad o’r rhain. Mae’r diwygiadau hefyd yn darparu ar gyfer cyhoeddi hysbysiadau cyfarfodydd, papurau cyfarfodydd a dogfennau cefndir yn electronig.
Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Cyflawni Swyddogaethau) (Cymru) 2002
Mae'r rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer cyflawni swyddogaethau gweithrediaeth gan weithrediaeth arall, cyngor arall, pwyllgor ardal neu gyd-bwyllgor.
Darllenwch: Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Cyflawni Swyddogaethau) (Cymru) 2002.
Gorchymyn Cod Ymddygiad (Cyflogeion Cymwys Llywodraeth Leol) (Cymru) 2001
Mae'r Gorchymyn hwn yn cynnwys y Cod Ymddygiad statudol ar gyfer swyddogion cymwys mewn prif gynghorau. Mae’r Cod yn nodi egwyddorion pwysig fel niwtraliaeth wleidyddol, cydymffurfio â pholisïau sy’n ymwneud â chydraddoldeb a stiwardiaeth adnoddau cyhoeddus.
Darllenwch: Gorchymyn Cod Ymddygiad (Cyflogeion Cymwys Llywodraeth Leol) (Cymru) 2001.
Rheoliadau Cod Ymddygiad (Cyflogeion Anghymwys Llywodraeth Leol) (Cymru) 2001
Mae’r rheoliadau hyn yn nodi pa weithwyr cyngor nad ydynt yn gymwys i gael eu rhwymo gan y Cod Ymddygiad. Athrawon a diffoddwyr tân yw’r gweithwyr hyn. Y rheswm am hyn yw eu bod yn rhwym wrth eu codau ymddygiad proffesiynol eu hunain.
Darllenwch: Rheoliadau Cod Ymddygiad (Cyflogeion Anghymwys Llywodraeth Leol) (Cymru) 2001.
Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Indemniadau ar gyfer Aelodau a Swyddogion) (Cymru) 2006
Mae'r rheoliadau hyn yn nodi'r telerau a'r amodau y caiff cynghorau eu defnyddio i gynnig indemniadau i'w haelodau a'u staff sy'n gweithredu ar ran y cyngor.
Darllenwch: Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Indemniadau ar gyfer Aelodau a Swyddogion) (Cymru) 2006.
Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Swyddogaethau a Chyfrifoldebau) (Cymru) 2007
Mae'r rheoliadau hyn yn nodi'n fanwl y swyddogaethau nad ydynt i fod yn gyfrifoldeb i'r weithrediaeth, y swyddogaethau a all fod, ond nad oes rhaid iddynt fod, yn swyddogaethau i'r weithrediaeth a'r swyddogaethau nad ydynt i fod yn gyfrifoldeb i'r weithrediaeth yn unig.
Darllenwch: Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Swyddogaethau a Chyfrifoldebau) (Cymru) 2007.
Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011
Deddfwriaeth sylfaenol i Gymru’n unig yw hon. Roedd y Mesur hwn yn dilyn llawer o ymgynghori ynghylch cefnogaeth i aelodau etholedig a sut y mae gwella’r craffu mewn prif gynghorau. Roedd yn creu rôl y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd a’r Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd. Mae’n newid y gweithdrefnau y mae’n rhaid i’r Cyngor eu dilyn wrth newid eu trefniadau gweithrediaeth. Mae’n darparu ar gyfer dirprwyo rhai swyddogaethau i bwyllgorau ardal a chynghorwyr unigol. Mae hefyd yn creu darpariaeth bellach ynghylch rôl pwyllgorau craffu ac yn galluogi creu cyd-bwyllgorau craffu. Mae’n gwahardd defnyddio’r chwip wleidyddol ar bwyllgorau craffu.
Darllenwch: Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011.
Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyd-bwyllgorau Trosolwg a Chraffu) (Cymru) 2013
Mae'r rheoliadau hyn yn nodi’r gweithdrefnau ar gyfer gweithredu cyd-bwyllgorau craffu gan gynnwys eu penodi a'u swyddogaethau, eu haelodaeth, eu trafodion a chyfethol aelodau arnynt.
Darllenwch: Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyd-bwyllgorau Trosolwg a Chraffu) (Cymru) 2013.
Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021
Roedd y Ddeddf hon (ymhlith pethau eraill) yn diwygio’r teitl pennaeth gwasanaeth cyflogedig i brif weithredwr yn Neddf Llywodraeth Leol a Thai 1989. Roedd hefyd yn dileu’r gwaharddiad ym Mesur 2011 a oedd yn datgan nad oedd y Swyddog Monitro yn cael bod yn Bennaeth Gwasanaethau Democrataidd hefyd. Roedd yn diwygio adran 37 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 i’w gwneud yn ofynnol bod cynghorau’n cyhoeddi fersiynau electronig o’u cyfansoddiadau a’r canllaw iddynt. Roedd hefyd yn diwygio Deddf Llywodraeth Leol 1972 er mwyn gallu cynnal cyfarfodydd cyngor yn rhithiol neu’n rhannol ar-lein ac i bapurau cyfarfodydd gael eu cyhoeddi ar ffurf electronig yn unig. Roedd hefyd yn creu cynorthwywyr gweithrediaeth ac yn galluogi aelodau etholedig i ddal hyd at dair swydd weithredol ar sail rhannu swydd. Roedd hefyd yn diwygio teitl, swyddogaethau a gweithdrefnau gweithredu pwyllgorau llywodraethu ac archwilio. Ar ben hynny, roedd yn cynnwys y dyletswyddau sy’n ymwneud â chyfranogiad y cyhoedd a chynlluniau deisebau.
Darllenwch: Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021.
Cyfarfodydd aml-leoliad awdurdodau lleol: canllawiau interim
Canllawiau statudol ar gyfarfodydd awdurdodau lleol a gyhoeddwyd o dan adran 47 o Ddeddf 2021. Mae hyn yn rhoi canllawiau ar gynnal cyfarfodydd aml-leoliad lle gall rhai aelodau fod yn mynychu drwy ddulliau electronig.
Darllenwch: Cyfarfodydd aml-leoliad awdurdodau lleol: canllawiau interim.