Democratiaeth leol yng Nghymru - Rhan 1: cyflwyniad i lywodraeth leol
Yn esbonio beth yw llywodraeth leol a sut mae'n gweithio yng Nghymru.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Bydd y cyflwyniad hwn i lywodraeth leol yn eich helpu i ddeall sut y mae penderfyniadau lleol sy’n effeithio ar fywydau pobl yng Nghymru yn cael eu gwneud a phwy sy’n eu gwneud. Bydd yn egluro pwysigrwydd cynnwys pobl leol yn y broses hon o wneud penderfyniadau a sut y mae’r broses o wneud penderfyniadau yng Nghymru yn cyd-fynd â system gyfreithiol a gwleidyddol ehangach y Deyrnas Unedig.
Beth yw llywodraeth leol?
Mae Llywodraeth Leol yn derm a ddefnyddir i ddisgrifio rhan o’r llywodraeth sy’n rheoli ac yn gwneud penderfyniadau ar gyfer ardal leol, megis tref, dinas, sir neu fwrdeistref sirol. Mae’n darparu amryw o wasanaethau pwysig ac angenrheidiol i’r bobl sy’n byw yn yr ardal honno. Ceir dwy ran i lywodraeth leol, sef Cynghorau Sir neu Fwrdeistref Sirol, a elwir hefyd yn Brif Gynghorau a Chynghorau Cymuned a Thref.
Prif gynghorau
Mae 22 o’r cynghorau hyn. Mae pob un yn gyfrifol am ddarparu gwasanaethau llywodraeth leol yn ei ardal. Yn ôl y gyfraith mae ganddynt ddyletswydd gyfreithiol i ddarparu gwasanaethau gofal cymdeithasol, tai, cynllunio, sbwriel ac ailgylchu i bobl eu hardal.
Cynghorau cymuned a thref
Mae 734 o gynghorau cymuned a thref yng Nghymru. Nid oes rhaid iddynt ddarparu unrhyw wasanaethau penodol yn ôl y gyfraith, ac nid oes gan rai ardaloedd gyngor cymuned neu gyngor tref. Ymhlith y gwasanaethau y gallent fod yn gyfrifol amdanynt mae darparu a chynnal neuaddau pentref, meysydd chwarae a mannau agored, seddi, llochesi, goleuadau stryd a llwybrau troed.
Mae pob cyngor yn cynnwys cynghorwyr. Yng Nghymru, mae llawer o gynghorwyr yn cynrychioli pobl ym mhob rhan o Gymru. Cânt eu dewis fel cynghorwyr drwy etholiadau. Pan fydd pobl yn sefyll mewn etholiad maent yn cyflwyno’u hunain i gynrychioli pobl eu hardal yn y cyngor. Gelwir y rhain yn ymgeiswyr. Mewn etholiad, bydd y cyhoedd yn dewis yr ymgeiswyr y maent am iddynt eu cynrychioli. Mae’r cyhoedd yn gwneud hyn drwy bleidleisio dros yr ymgeisydd y maent yn credu sy’n eu cynrychioli nhw a’u buddiannau orau. Mae rhai ymgeiswyr yn aelodau o bleidiau gwleidyddol. Mae ymgeiswyr eraill yn annibynnol ac nid ydynt yn cynrychioli pleidiau gwleidyddol. Nid yw rhai pobl yn cael eu cynrychioli’n ddigonol mewn llywodraeth. Mae hyn yn golygu nad oes llawer o bobl fel nhw mewn rolau etholedig, ac un nod allweddol yw newid hyn drwy hybu rhagor o amrywiaeth mewn democratiaeth leol.
Darllenwch fwy am pryd a sut mae cynghorau'n cael eu hethol.
Strwythur y Deyrnas Unedig ar gyfer deddfu
Mae llywodraeth leol yn rhan o fframwaith cyfreithiol cyffredinol yn y DU sy’n cynnwys Senedd y Deyrnas Unedig a Senedd Cymru.
Mae Senedd y DU yn cynnwys tair rhan:
- y Goron, sy'n cyfeirio at swyddogaethau'r llywodraeth a'r rheini sy'n cael eu cyflogi i weithio i’r llywodraeth. Y gwasanaeth sifil yw’r gweithwyr hyn;
- tŷ’r Cyffredin yw siambr gyntaf y Senedd. Mae’n cynnwys aelodau sydd wedi’u hethol gan y cyhoedd yn y DU i gynrychioli eu buddiannau a’u pryderon. Gallant gynnig deddfau newydd a chodi materion ynghylch cynigion y llywodraeth. Gelwir nhw’n aelodau seneddol neu ASau;
- tŷ’r Arglwyddi yw ail siambr y Senedd. Caiff aelodau eu penodi gan y Llywodraeth, neu maent yn etifeddu aelodaeth drwy enedigaeth-fraint, neu maent yn dod yn aelodau oherwydd eu safle mewn cymdeithas megis deiliaid swyddi eglwysig penodol.
Prif swyddogaethau’r Senedd yw cynnal dadleuon, gwneud a newid deddfwriaeth (cyfreithiau) ac adolygu gwaith y llywodraeth i sicrhau bod y cyfreithiau a gaiff eu pasio yn deg ac yn angenrheidiol. Senedd y DU sy’n penderfynu pa gyfreithiau a rolau sy’n cael eu rhoi i Senedd Cymru i’w gweithredu yng Nghymru.
Y strwythur yng Nghymru
Yng Nghymru, mae’r Senedd yn grŵp o 60 o aelodau etholedig o wahanol rannau o Gymru. Gelwir y rhain yn aelodau o’r Senedd neu'n ASau Cymru. Mae 40 o aelodau etholaethol ac 20 o aelodau rhanbarthol. Bydd cynlluniau i ddiwygio’r Senedd yn golygu newidiadau i nifer aelodau’r Senedd a’r system bleidleisio. Bydd yr adran hon o’r canllawiau yn cael ei diweddaru wrth i newidiadau gael eu gwneud. Mae Senedd Cymru:
- yn gwneud deddfau newydd i Gymru yn y meysydd y mae’n gyfrifol amdanynt
- mae’r aelodau’n siarad ar ran y bobl yn eu rhan nhw o Gymru
Mae’r aelodau’n gyfrifol am holl bobl Cymru ac yn sicrhau bod ei chymunedau’n cael eu trin yn deg o fewn y gyfraith mae'n ei llunio.
Mae’r cyfreithiau sy’n cael eu gwneud gan Senedd Cymru a Gweinidogion Cymru yn cael eu gwneud yn benodol ar gyfer Cymru.
Mae Llywodraeth Cymru yn cynnwys y Prif Weinidog, Gweinidogion Cymru a’r Cwnsler Cyffredinol. Maent yn cael eu cefnogi gan weision sifil sy’n gweithio ar draws meysydd datganoledig sy’n cynnwys meysydd allweddol o fywyd cyhoeddus fel iechyd, addysg a’r amgylchedd.
Y fframwaith ar gyfer llywodraeth leol yng Nghymru yw Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r Ddeddf hon wedi cael ei diwygio gryn dipyn ers iddi gael ei gwneud yn wreiddiol. Cafodd ei diwygio’n sylweddol gan Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 a sefydlodd y system bresennol o brif gynghorau a chynghorau tref a chymuned.
Mae gan Weinidogion Cymru rôl oruchwylio gyffredinol yng nghyswllt llywodraeth leol yng Nghymru, a nhw sy’n pennu ac yn ariannu’r rhan fwyaf o’r setliadau refeniw a chyfalaf blynyddol ar gyfer llywodraeth leol. O dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 rhaid i Weinidogion Cymru greu cynllun sy’n dangos sut y maent yn cynnig cynnal a hyrwyddo llywodraeth leol yng Nghymru wrth arfer eu swyddogaethau.
Beth yw ystyr y term teulu llywodraeth leol?
Mae’r term teulu llywodraeth leol yn derm torfol a ddefnyddir ar gyfer y canlynol:
- prif gynghorau
- cynghorau cymuned a thref
- awdurdodau tân ac achub
- awdurdodau parc cenedlaethol
- cyd-bwyllgorau corfforedig
Awdurdodau tân ac achub
Mae tri awdurdod tân ac achub yng Nghymru:
- Awdurdod Tân Gogledd Cymru
- Awdurdod Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru
- Awdurdod Tân De Cymru
Mae pwerau a dyletswyddau'r awdurdodau tân ac achub wedi’u nodi yn Rhan 2 o Ddeddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004. Eu swyddogaethau craidd yw:
- hyrwyddo diogelwch rhag tân
- diffodd tanau
- ymateb i ddamweiniau ffordd
- delio ag argyfyngau eraill a nodir
Awdurdodau parc cenedlaethol
Mae tri awdurdod parc cenedlaethol yng Nghymru:
- Bannau Brycheiniog
- Arfordir Penfro
- Eryri
Mae gan yr Awdurdodau Parc Cenedlaethol ddau bwrpas:
- gwarchod a gwella harddwch naturiol, bywyd gwyllt a threftadaeth ddiwylliannol y Parciau Cenedlaethol
- hyrwyddo cyfleoedd i’r cyhoedd ddeall a mwynhau nodweddion arbennig y parciau
Cyd-bwyllgorau corfforedig
arfer swyddogaethau sy'n ymwneud â chynllunio datblygu strategol a chynllunio trafnidiaeth ranbarthol. Maent hefyd yn gallu gwneud pethau i hyrwyddo llesiant economaidd eu hardaloedd. Mae 4 cyd-bwyllgor corfforedig:
- Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd
- Cyd-bwyllgor Corfforedig y Canolbarth
- Cyd-bwyllgor Corfforedig y De-ddwyrain
- Cyd-bwyllgor Corfforedig y De-orllewin
Beth yw partneriaethau strategol a beth maent yn ei wneud?
Mae nifer o bartneriaethau strategol gydag aelodau o bob rhan o’r gwasanaethau cyhoeddus, ee prif gynghorau, byrddau iechyd lleol, awdurdodau tân ac achub, awdurdodau parciau cenedlaethol a chynghorau tref a chymuned.
Mae enghreifftiau o bartneriaethau’n cynnwys:
- Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol
- Bargen Ddinesig / Bwrdd Twf/Uchelgais
- Partneriaeth Diogelwch Cymunedol
- Partneriaethau Diogelu Oedolion a Phlant
- Grwpiau Cydweithredol Cymorth Tai Rhanbarthol
- Byrddau Cynllunio Ardal (camddefnyddio sylweddau)
Ar ben hynny, fe wnaeth Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 sefydlu bwrdd statudol, o’r enw bwrdd gwasanaethau cyhoeddus, ym mhob awdurdod lleol. Mae byrddau gwasanaethau cyhoeddus yn gwella’r cydweithio ar draws pob gwasanaeth cyhoeddus ym mhob ardal awdurdod lleol yng Nghymru.
Pedwar aelod statudol pob bwrdd yw’r awdurdod lleol, y bwrdd iechyd lleol, yr awdurdod tân ac achub ar gyfer yr ardal a Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae’r gwahoddedigion statudol yn cynnwys y Prif Gwnstabl a’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu perthnasol, gwasanaethau prawf a chynrychiolydd o’r sector gwirfoddol.
Ar hyn o bryd mae 15 o Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus. Mae Blaenau Gwent, Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd a Thorfaen wedi uno i ffurfio Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwent, mae Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful wedi uno i ffurfio Cwm Taf, ac mae Conwy a Sir Ddinbych wedi dod at ei gilydd i greu un bwrdd gwasanaethau cyhoeddus. Mae Ynys Môn a Gwynedd yn cydweithio’n ffurfiol ar eu cynlluniau llesiant.
Beth yw Cyngor Partneriaeth Cymru?
Mae Cyngor Partneriaeth Cymru (sy’n statudol o dan adran 72 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006) yn hybu cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol. Mae ei aelodau’n cynnwys y Prif Weinidog a holl Aelodau Cabinet Llywodraeth Cymru, arweinwyr awdurdodau lleol (prif gynghorau a chynghorau tref a chymuned) a chynrychiolwyr gwasanaethau cyhoeddus ehangach. Mae partneriaid diwygio gwasanaethau cyhoeddus fel Archwilydd Cyffredinol Cymru, a chynrychiolwyr o TUC Cymru a Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru yn arsylwyr yn y cyfarfodydd.
Prif gyfrifoldebau Cyngor Partneriaeth Cymru yw hybu deialog a chydweithio ar faterion sy’n effeithio ar lywodraeth leol yng Nghymru, a darparu atebolrwydd gwleidyddol ar y cyd i wella canlyniadau i ddinasyddion.
A oes unrhyw gyrff eraill sy’n cyfrannu at sut y mae llywodraeth leol yn gweithio?
Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol
Cyfeirir ato'n aml fel ‘y Panel’ ac mae'n gyfrifol am benderfynu ar lefel y taliadau cydnabyddiaeth i aelodau etholedig pob math o gynghorau, awdurdodau parciau cenedlaethol ac awdurdodau tân ac achub yng Nghymru.
Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru
Cyfeirir ato’n aml fel ‘y Comisiwn’ ac mae’n gyfrifol am benderfynu faint o wardiau etholiadol y rhennir pob sir neu fwrdeistref sirol yng Nghymru iddynt a faint o gynghorwyr sy’n cael cynrychioli pob ward etholiadol. Pwrpas adolygiadau rheolaidd o drefniadau etholiadol yw ystyried effaith newid cyson mewn cymunedau drwy sicrhau bod pob cynghorydd lleol yn cynrychioli tua’r un nifer o bobl.
Sut ydw i’n gwybod a yw’r cyngor yn perfformio ac yn gwella fel y dylai?
Mae Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 yn darparu fframwaith deddfwriaethol newydd a diwygiedig ar gyfer perfformiad a llywodraethu llywodraeth leol.
Mae’r dull gweithredu newydd a nodir yn y Ddeddf wedi’i gynllunio i fod yn ddull mwy syml a hyblyg, sy’n cael ei arwain gan y sector, o ymdrin â pherfformiad, llywodraethu da a gwella. Y bwriad yw i gynghorau fod yn rhagweithiol wrth ystyried sut y dylai prosesau a gweithdrefnau mewnol newid er mwyn galluogi cynllunio, cyflawni a gwneud penderfyniadau mwy effeithiol i sicrhau gwell canlyniadau.
Pwrpas y darpariaethau ar berfformiad a llywodraethu yn y Ddeddf yw cefnogi ac adeiladu ar ddiwylliant sy’n datblygu lle mae cynghorau’n mynd ati i chwilio am heriau a mynd i’r afael â nhw, boed y rhain yn dod i’r amlwg o fewn y cyngor, er enghraifft drwy weithdrefnau craffu, neu’n allanol. Cynlluniwyd y darpariaethau i roi fframwaith sy’n helpu cynghorau i feddwl am eu perfformiad a’u heffeithiolrwydd yn awr ac i’r dyfodol, drwy broses barhaus o adolygu; i annog sefydliadau mwy chwilfrydig sy’n barod i herio eu hunain i wneud rhagor; ac i fod yn fwy arloesol ac uchelgeisiol yn yr hyn a wnânt.
Mae’r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i bob cyngor yng Nghymru adolygu i ba raddau y mae’n cyflawni ei ‘ofynion perfformiad’, hynny yw, i ba raddau:
- y mae’n arfer ei swyddogaethau yn effeithiol
- y mae’n defnyddio ei adnoddau mewn modd darbodus, effeithlon ac effeithiol
- y mae ei drefniadau llywodraethu yn effeithiol er mwyn sicrhau’r uchod
Mae cyngor yn adolygu ei berfformiad trwy ddull a elwir yn hunanasesiad, ac mae ganddo ddyletswydd i gyhoeddi adroddiad sy’n nodi casgliadau’r hunanasesiad, a hynny unwaith ar gyfer pob blwyddyn ariannol. Bydd yr hunanasesiad yn cael ei ategu gan asesiad perfformiad gan banel unwaith ym mhob cylch etholiadol, sy’n rhoi cyfle i gael gwybodaeth allanol (ac eithrio gan archwilwyr, rheoleiddwyr neu arolygwyr) am sut y mae’r cyngor yn bodloni’r gofynion o ran perfformiad.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau statudol sy’n nodi sut y dylai prif gynghorau gyflawni eu dyletswyddau fel y nodir yn Rhan 6, Pennod 1, o’r Ddeddf sy’n ymwneud â pherfformiad a llywodraethu prif gynghorau.
Mae Pennod 1 y canllawiau statudol ar gyfer perfformiad a llywodraethu prif gynghorau hefyd yn nodi’r cyd-destun ehangach a’r amgylchedd y mae’r drefn perfformiad a llywodraethu yn gweithredu ynddo, gan gynnwys rôl rheoleiddio ac arolygu allanol.
Disgwylir y bydd llywodraeth leol, Llywodraeth Cymru, archwilwyr, arolygwyr, rheoleiddwyr a chomisiynwyr yn dal i gydweithio i rannu gwybodaeth, codi pryderon posibl a chytuno ar ddulliau i gefnogi gwelliannau.
Beth yw democratiaeth leol a pham ei bod yn bwysig?
Yr egwyddor sydd wrth wraidd democratiaeth yw bod pob unigolyn yn gyfartal ac y dylai gael cyfle cyfartal i ddylanwadu ar newid drwy’r system ddemocrataidd. Mae hyn yn sylfaenol i wleidyddiaeth a chymdeithas yng Nghymru. Mae democratiaeth leol yn sicrhau bod polisïau a gwasanaethau lleol yn adlewyrchu anghenion a dewisiadau cymunedau lleol. Mae democratiaeth leol effeithiol yn cefnogi cyfranogiad y cyhoedd, yn gwella’r modd y darperir gwasanaethau, yn cryfhau cymunedau, yn defnyddio adnoddau’n effeithiol ac yn adlewyrchu amrywiaeth y cymunedau y mae’n eu gwasanaethu.
Mae democratiaeth leol yn seiliedig ar bobl leol yn gwneud penderfyniadau am y ffordd y maent yn cael eu llywodraethu, sut y mae’r gyfraith yn cael ei dehongli a sut y mae’r gwasanaethau y maent yn dibynnu arnyn nhw bob dydd yn cael eu darparu. Er mwyn i ddemocratiaeth leol weithio’n effeithiol, mae’n bwysig bod pob rhan o gymdeithas yn cael ei chynrychioli fel bod y gwasanaethau a’r cyfreithiau yn ystyried y gwahanol gefndiroedd, arferion a diwylliannau mewn ardal a’r heriau sy’n wynebu pobl yr ardal.
Mae’n bwysig bod pobl yn cael cyfle i ddeall pam y mae angen gwneud penderfyniadau a sut y cânt eu gwneud. Mae’n bwysig eu bod yn hyderus bod y pethau iawn wedi cael eu hystyried a bod y rhai sy’n gwneud y penderfyniadau wedi ystyried yr effaith ar fywydau a chyfleoedd y bobl y cawsant eu hethol i’w cynrychioli.
Os na fydd pobl yn gallu uniaethu â’r rheini sy’n gwneud penderfyniadau am eu dyfodol, mae’n anoddach iddynt ddeall pam y dewiswyd dull penodol o weithredu. Mae cynghorwyr sy’n cynrychioli pobl mewn cymunedau yng Nghymru yn gweithredu ar sail ymddiriedaeth ac ewyllys da’r bobl ac yn gorfod gwneud hyn yn ofalus.
Yng Nghymru, mae nifer o gyfreithiau Cymreig sy’n cynnwys Mesurau a Deddfau’r Senedd, gan gynnwys, yn fwyaf diweddar, Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, (Deddf 2021) wedi nodi trefniadau ar gyfer cryfhau democratiaeth leol.
Mae Deddf 2021 yn rhoi rhagor o gyfleoedd i bobl ymwneud â llywodraeth leol a chymryd rhan mewn democratiaeth leol. Mae gan bobl ifanc 16 a 17 oed a dinasyddion tramor sy’n byw’n gyfreithlon yng Nghymru hawl i bleidleisio. Bydd hefyd yn haws i ystod ehangach o bobl sefyll fel ymgeisydd mewn etholiad llywodraeth leol.
Mae ymgysylltu â’r cyhoedd a chymryd rhan mewn democratiaeth leol yn bwysig. Rhaid i brif gynghorau yng Nghymru annog pobl leol i gymryd rhan ym mhrosesau gwneud penderfyniadau a chraffu llywodraeth leol. Ar ben hynny, rhaid i gynghorau baratoi ‘strategaeth cyfranogiad y cyhoedd’, ymgynghori yn ei chylch, ei chyhoeddi a’i hadolygu, gyda’r nod o’i gwneud yn haws i’r cyhoedd ddeall sut y mae llywodraeth leol yn gweithredu; sut y mae’n gwneud penderfyniadau; a sut y gall pobl leol ddilyn trafodion, rhoi eu barn arnynt, a sicrhau bod atebolrwydd amdanynt.
Mae rhagor o wybodaeth am gymryd rhan mewn democratiaeth leol ar gael yn Rhan 3.
Pam mae amrywiaeth mewn democratiaeth mor bwysig?
Mae cymdeithas yn cynnwys amrywiaeth o bobl. Nid yw rhai o’r bobl hyn yn cael eu cynrychioli gystal ag eraill. Gall hyn arwain at wneud gwasanaethau, cyfreithiau a phenderfyniadau am fywyd bob dydd heb ddeall anghenion rhai pobl. Mae’r Ddeddf Cydraddoldeb, a ddaeth i rym ar 1 Hydref 2010, yn disodli deddfwriaeth gwrth-wahaniaethu flaenorol megis Deddf Cysylltiadau Hiliol 1976 a Deddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995. Cyflwynodd y Ddeddf ‘nodweddion gwarchodedig’ ac mae’n ceisio sicrhau nad yw pobl yn y categorïau hynny dan anfantais.
Dyma’r nodweddion sy’n cael eu gwarchod gan Ddeddf Cydraddoldeb 2010:
- oedran
- anabledd
- ailbennu rhywedd
- priodas neu bartneriaeth sifil (mewn cyflogaeth yn unig)
- beichiogrwydd a mamolaeth
- hil
- crefydd neu gred
- rhyw
- cyfeiriadedd rhywiol
Mae gan Lywodraeth Cymru gyfres o gynlluniau i hyrwyddo a chefnogi amrywiaeth ym mhob agwedd ar fywyd yng Nghymru. Mae’r cynlluniau hyn yn cynnwys:
- Y Cynllun Cydraddoldeb Strategol
- Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol
- Cynllun Gweithredu Strategol Anabledd Dysgu 2022 i 2026
- Cynllun Hyrwyddo Cydraddoldeb rhwng y Rhywiau yng Nghymru
- Trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol: strategaeth 2022 i 2026
- Strategaeth cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant y gweithlu Llywodraeth Cymru: 2021 i 2026
Beth yw’r Model Cymdeithasol o Anabledd?
Ers 2002 mae Llywodraeth Cymru wedi dilyn y Model Cymdeithasol o Anabledd. Mae’r Model Cymdeithasol o Anabledd yn ffordd o weld y byd. Mae’n dweud mai rhwystrau mewn cymdeithas sy’n golygu bod pobl yn anabl, nid amhariad yr unigolyn ei hun. Gall y rhwystrau hyn gynnwys:
- agweddau negyddol fel meddwl na all pobl anabl wneud pethau
- rhwystrau ffisegol fel grisiau
Mae’r Model Cymdeithasol o Anabledd yn ein helpu i adnabod y rhwystrau sy’n gwneud bywyd yn anoddach i bobl anabl. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i weithio gyda phartneriaid i chwalu’r rhwystrau hyn yn y ffordd rydym yn gweithio, a bydd yn disgwyl i egwyddorion y Model Cymdeithasol o Anabledd gael eu hadlewyrchu yn nulliau gweithredu llywodraeth leol. Rydym hefyd yn helpu gwasanaethau a sefydliadau eraill i feddwl fel hyn. Rydym am wneud yn siŵr bod pobl anabl yn gallu gwneud pethau y gall pobl nad ydynt yn anabl eu gwneud.
Beth yw Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru)?
Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) (y Ddeddf) yn canolbwyntio ar wella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru.
Mae’r Ddeddf yn rhoi diben cyffredin sy’n rhwymo’n gyfreithiol, y saith nod llesiant, ar gyfer llywodraeth genedlaethol, llywodraeth leol, byrddau iechyd lleol a chyrff cyhoeddus penodol eraill. Mae’n manylu ynghylch sut y mae’n rhaid i gyrff cyhoeddus penodol weithio a chydweithio i wella llesiant Cymru.
Bydd yn gwneud i’r cyrff cyhoeddus a restrir yn y Ddeddf feddwl mwy am y tymor hir, gweithio’n well gyda phobl a chymunedau a chyda’i gilydd, ceisio atal problemau a mabwysiadu dull gweithredu mwy cydgysylltiedig. Mae prif gynghorau wedi'u cynnwys yn y Ddeddf.
Bydd hyn yn ein helpu i greu’r Gymru rydym i gyd am fyw ynddi, nawr ac yn y dyfodol. Er mwyn sicrhau ein bod ni gyd yn gweithio tuag at yr un weledigaeth, mae’r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant.
Dyma’r saith nod llesiant:
- llewyrchus
- cydnerth
- iachach
- mwy cyfartal
- cyfrifol ar lefel fyd-eang
- diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu
- cymunedau cydlynus
Sut gallaf gael rhagor o wybodaeth?
Darllenwch ragor o wybodaeth am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.