Neidio i'r prif gynnwy

Pryd i ddefnyddio delweddau a sut i’w disgrifio ar LLYW.CYMRU.

Cyhoeddwyd gyntaf:
31 Mawrth 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Pryd i ddefnyddio delweddau

Dylech ond defnyddio delweddau os ydynt:

  • yn angenrheidiol er mwyn egluro rhywbeth na ellid ei egluro drwy ddefnyddio testun, map er enghraifft
  • yn helpu defnyddwyr i ddeall gwybodaeth mewn ffordd wahanol, graff er enghraifft

Caiff testun ei ffafrio oherwydd:

  • mae’n fwy hygyrch, er enghraifft mae’n haws i’w ddarllen gan ddefnyddio chwyddwydr sgrin
  • mae’n haws newid maint testun rhwng gwahanol ddyfeisiau
  • mae’n dueddol o fod yn fwy amlwg wrth wneud chwiliad

Dylech osgoi delweddau sy’n cynnwys testun. Ysgrifennwch yn y corff yn hytrach.

Mae’n bosibl y bydd angen testun amgen ar ddelweddau i roi dewis arall i bobl sy'n defnyddio technoleg gynorthwyol, er enghraifft meddalwedd darllen sgrin.

Delweddau addurniadol

Nid yw delweddau addurniadol yn ychwanegu gwybodaeth at gynnwys tudalen, er enghraifft:

  • os yw’r wybodaeth a ddarperir gan y ddelwedd ar gael fel testun
  • os yw’r llun yno ddim ond i wneud y dudalen yn fwy deniadol i’r llygad

Yr unig ddelweddau y dylech eu hychwanegu i wneud y dudalen yn fwy deniadol i’r llygad yw rhai ar gyfer deunydd hyrwyddo, er enghraifft datganiadau i'r wasg ac ymgyrchoedd.

Rhaid i'r priodoledd amgen fod yn farciau dyfynnu gwag (alt=""). I fodloni’r gofyniad hwn yn LLYW.CYMRU rhaid i olygyddion cynnwys craidd adael y maes testun amgen yn wag.

Delweddau gwybodaeth

Mae delweddau gwybodaeth yn cyfleu cysyniad neu wybodaeth syml y gellir ei mynegi mewn ymadrodd neu frawddeg fer. 

Peidiwch â defnyddio delweddau gwybodaeth os oes modd defnyddio testun. Er enghraifft,  yn lle tic efallai y bydd modd defnyddio'r testun 'ie'. 

Dylai'r testun amgen gyfleu ystyr cynnwys sy'n cael ei arddangos yn weledol. Mae’n bosibl na fydd hwn yn ddisgrifiad llythrennol o'r ddelwedd.

Delweddau cymhleth

Mae delweddau cymhleth yn cynnwys siartiau, diagramau a ffeithluniau.

Dylai delwedd o siartiau, diagramau neu ffeithluniau ddefnyddio'r fformat SVG. Mae SVG yn caniatáu i ddefnyddwyr chwyddo delweddau heb golli ansawdd.

Disgrifio delwedd gymhleth yng nghorff y testun

Mae'n well disgrifio cynnwys delweddau cymhleth yng nghorff y testun.

Rhaid i'r priodoledd amgen fod yn farciau dyfynnu gwag (alt=""). I fodloni’r gofyniad hwn yn LLYW.CYMRU rhaid i olygyddion cynnwys craidd adael y maes testun amgen yn wag.

Rhaid i'r disgrifiad esbonio cynnwys y ddelwedd. Yn achos siart, rhowch grynodeb o’r prif bwynt; gallai hyn gynnwys tuedd bwysig neu werth eithafol. Efallai y bydd yn help dychmygu eich bod yn disgrifio'r ddelwedd i rywun dros y ffôn.

Disgrifio delwedd gymhleth mewn testun amgen

Yr unig bryd y dylech ddefnyddio testun amgen ar gyfer delweddau cymhleth  yw pan nad yw hi’n bosibl disgrifio'r cynnwys yng nghorff y testun.

Ni ddylai testun amgen fod yn hirach na tua 125 nod. Mae hyn yn golygu ei bod yn annhebygol y gall testun amgen ddisgrifio delweddau cymhleth yn ddigonol, a dyna un rheswm pam mae gwneud hynny yng nghorff y testun yn well. 

Peidiwch â dechrau testun amgen gyda ‘delwedd o’ neu rywbeth tebyg, bydd darllenydd sgrin yn dweud wrth y defnyddiwr bod delwedd yno, ac nid oes angen dweud ddwywaith.

Dylai testun amgen ar gyfer siartiau gynnwys:

  • y math o siart a ddefnyddir (er enghraifft, siart bar, siart linell)
  • y math o ddata a ddefnyddir yn y siart (er enghraifft, cyfraddau priodi, cyfraddau marwolaeth, lefel cynnyrch domestig gros (GDP), faint o oriau a weithir bob wythnos)
  • crynodeb o’r prif bwynt; gallai hyn gynnwys tuedd bwysig neu werth eithafol

Er enghraifft, wrth ddisgrifio’r siart ganlynol, dylai’r testun amgen fod yn:

Siart linell yn dangos bod nifer y triniaethau yn weddol sefydlog ar tua 9,500 y flwyddyn ac wedyn wedi gostwng yn sylweddol i tua 1,500 yn 2020 i 2021.

Image
Enghraifft o siart llinell sy'n dangos bod nifer y triniaethau yn weddol sefydlog ar tua 9,500 y flwyddyn ond wedyn wedi gostwng sylweddol i tua 1,500 yn 2020 i 2021.