Neidio i'r prif gynnwy

Data yn ôl modd, lefel a phwnc astudio, gweithgaredd, cyflog a rhanbarth cyflogaeth Awst 2017 i Gorffennaf 2018.

Mae’r cofnod Deilliannau Graddedigion yn cynnwys arolwg o raddedigion tua 15 mis ar ôl iddynt gwblhau eu hastudiaethau. Cynhelir yr arolwg gan HESA. Mae’r cofnod Canlyniadau Arolwg o Ddeilliannau Graddedigion 2017/18 yn ymwneud â myfyrwyr a gwblhaodd rhaglenni astudio cymwys rhwng 1 Awst 2017 a 31 Gorffennaf 2018 ac a wnaeth gwblhau’r arolwq (neu’r ymateb gofynnol).

Ymatebodd 361,215 o raddedigion i arolwg Deilliannau Graddedigion 2017/18 o’r boblogaeth darged o 769,735, sef cyfradd o 47% o ymatebion cyflawn. O gynnwys yr ymatebion a gwblhawyd yn rhannol, mae’r gyfradd ymateb yn codi i 50% (388,570 o ymatebion).

Graddedigion sydd â gradd israddedig o brifysgol yng Nghymru

Mae 6,515 (52%) o raddedigion hysbys a astudiodd yn llawnamser mewn cyflogaeth lawn-amser ac mae 1,250 (10%) mewn cyflogaeth ran-amser. Mae 1,635 (13%) o raddedigion hysbys mewn astudiaethau pellach llawnamser ac mae 85 (1%) mewn astudiaethau pellach rhan-amser.

Mae 885 (59%) o raddedigion hysbys a astudiodd yn rhan-amser mewn cyflogaeth lawnamser ac mae 185 (12%) mewn cyflogaeth ran-amser. Mae 50 (3%) o raddedigion hysbys mewn astudiaethau pellach llawnamser neu ran-amser.

Yn gyffredinol, roedd canran debyg o raddedigion hysbys prifysgolion yng Nghymru mewn cyflogaeth lawnamser (53%) a mewn cyflogaeth ran-amser (10%) o gymharu â gweddill y DU (56% ac 11%).

Mae 755 (5%) o raddedigion yn ddi-waith, ac mae 185 o'r rhain ar fin dechrau gweithio neu astudiaethau pellach.

Roedd 820 (52%) o raddedigion hysbys o gymdogaethau lle ceir cyfranogiad isel (cwintel 1 POLAR4) mewn cyflogaeth lawnamser o gymharu â 5,110 (55%) o raddedigion hysbys o gymdogaethau eraill lle ceir cyfranogiad isel.

Roedd canran is o raddedigion o brifysgolion yng Nghymru (tua 29%) ar gyflog o £27,000 ac uwch o gymharu â gweddill y DU (34%).

Graddedigion o bynciau meddygaeth a deintyddiaeth oedd â'r cyflog canolrifol uchaf, sef £32,000.

Graddedigion sydd â gradd ôl-raddedig o brifysgol yng Nghymru

Mae 2,045 (62%) o raddedigion hysbys a astudiodd yn llawnamser mewn cyflogaeth lawnamser ac mae 265 (8%) mewn cyflogaeth ran-amser. Mae 240 (7%) o raddedigion hysbys mewn astudiaethau pellach llawnamser ac mae 15 (llai na 1%) mewn astudiaethau pellach rhan-amser.

Mae 1,140 (64%) o raddedigion hysbys a astudiodd yn rhan-amser mewn cyflogaeth lawnamser ac mae 235 (13%) mewn cyflogaeth ran-amser. Mae 35 (2%) o raddedigion hysbys mewn astudiaethau pellach llawnamser neu ran-amser).

Yn gyffredinol, roedd canran debyg o raddedigion hysbys prifysgolion yng Nghymru mewn cyflogaeth lawnamser (63%) a chyflogaeth ran-amser (10%) o gymharu â gweddill y DU (66% a 9%).

Roedd 170 (4%) o raddedigion yn ddi-waith, ac roedd 35 (1%) o'r rhain ar fin dechrau gweithio neu astudiaethau pellach.

Roedd canran debyg o raddedigion o brifysgolion yng Nghymru (20%) ar gyflog o £39,000 ac uwch o gymharu â gweddill y DU (21%).

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.