Neidio i'r prif gynnwy

Nodiadau adolygu

Nododd HESA anghysondebau gyda'u data cyhoeddedig ar gyfer Dosbarthiad Galwedigaethol Safonol (SOC), Dosbarthiad Diwydiannol Safonol (SIC) a Lleoliad Cyflogaeth. Wrth gywiro'r gwall, cywirwyd mater yn y cyfrifiadau o gyflogau canolrifol. Mae'r anghysondebau hyn wedi'u cywiro a'u diweddaru yn y cyhoeddiad hwn.

Cyflwyniad

Mae’r cofnod Deilliannau Graddedigion yn cynnwys arolwg o raddedigion tua 15 mis ar ôl iddynt gwblhau eu hastudiaethau. Yr Awdurdod Ystadegau Addysg Uwch (HESA) sy’n cynnal yr arolwg hwn.

Mae cofnod Deilliannau Graddedigion 2021/22 yn ymwneud â myfyrwyr a gwblhaodd raglenni astudio cymwys rhwng 1 Awst 2021 a 31 Gorffennaf 2022 ac a aeth ati i gwblhau’r arolwg (neu o leiaf y lleiafswm angenrheidiol ohono).

Mae’r datganiad hwn yn cynnwys gwybodaeth am raddedigion gan ddarparwyr a reoleiddir neu a ariennir yn gyhoeddus, sy’n cyflwyno data ar gyfer cofnodion myfyrwyr (HESA) a chofnodion myfyrwyr amgen HESA. Mae hefyd yn cynnwys data ar gyfer graddedigion o gyrsiau lefel addysg uwch mewn colegau addysg bellach yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.

Ymatebodd 351,220 o raddedigion i arolwg Deilliannau Graddedigion 2021/22, o’r boblogaeth darged o 870,295. Mae hynny’n gyfradd ymateb llawn o 40%. Wrth gynnwys graddedigion a gwblhaodd yr arolwg yn rhannol, mae’r gyfradd ymateb hon yn codi i 44%, gan gynyddu nifer yr ymatebion defnyddiadwy i 381,945. Ymatebodd 47% o raddedigion o ddarparwyr yng Nghymru a 54% o raddedigion sy’n hanu o Gymru o ddarparwyr yn y DU i’r arolwg Deilliannau Graddedigion ar gyfer 2021/22 (gan gynnwys ymatebion rhannol).

Graddedigion o ddarparwyr addysg uwch yng Nghymru

  • Roedd 58% o'r graddedigion o ddarparwyr yng Nghymru a holwyd mewn cyflogaeth amser llawn (61% o ddarparwyr yn Lloegr, 63% o ddarparwyr yn yr Alban a 63% o ddarparwyr yng Ngogledd Iwerddon).
  • Roedd 11% o'r graddedigion o ddarparwyr yng Nghymru a holwyd mewn cyflogaeth ran-amser, 6% mewn astudiaethau pellach amser llawn, llai nag 1% mewn astudiaethau pellach rhan-amser a 5% yn ddi-waith.

Graddedigion sy’n hanu o Gymru

  • Roedd 60% o’r graddedigion sy’n hanu o Gymru a holwyd mewn cyflogaeth amser llawn (61% o’r rhai yn hanu o Loegr, 64% o’r rhai yn hanu o’r Alban a 64% o’r rhai sy’n hanu o Ogledd Iwerddon). 
  • Roedd 12% o’r graddedigion sy’n hanu o Gymru a holwyd mewn cyflogaeth ran-amser. Roedd 5% mewn astudiaethau pellach amser llawn, llai na 1% mewn astudiaethau pellach rhan-amser a 4% yn ddi-waith.
  • Roedd 51% o’r israddedigion amser llawn ac sy’n hanu o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru (Cwintel 1 Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru) mewn cyflogaeth amser llawn, tra roedd 56% o’r ardaloedd lleiaf difreintiedig (Cwintel 5 Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru) mewn cyflogaeth amser llawn.

Graddedigion sy'n hanu o’r Deyrnas Unedig sy'n gweithio yn y Deyrnas Unedig

Daw’r data canlynol gan ymatebwyr a nododd mai gwaith oedd eu prif weithgaredd.

Prif bwyntiau

  • O'r ymatebwyr yn hanu o Gymru a oedd yn gweithio yn y DU, roedd 72% yn gweithio yng Nghymru, roedd 27% yn gweithio yn Lloegr, 1% yn gweithio yn yr Alban, a llai nag 1% yn gweithio yng Ngogledd Iwerddon.
  • O'r ymatebwyr yn hanu o Gymru a adawodd Gymru i astudio, dychwelodd 43% i weithio yng Nghymru, ond ni ddychwelodd 57%.
  • O'r ymatebwyr yn hanu o Gymru a arhosodd yng Nghymru i astudio, arhosodd 89%(r) yng Nghymru i weithio, gyda 11%(r) wedi gadael i weithio y tu allan i Gymru.
  • O'r ymatebwyr nad oeddent yn hanu o Gymru a fu’n astudio yng Nghymru, arhosodd 21% yng Nghymru i weithio a gadawodd 79% i weithio y tu allan i Gymru.

(r) Diwygiedig ar 11 Gorffennaf 2024

Cyflogau graddedigion amser llawn o'r DU a enillodd gymwysterau gradd dosbarth cyntaf ac a aeth ymlaen i gyflogaeth â thâl amser llawn

Daw’r data canlynol gan ymatebwyr a nododd mai gwaith oedd eu prif weithgaredd.

Prif bwyntiau

  • Cyflog canolrif ymatebwyr o ddarparwyr yng Nghymru oedd £26,990 (£28,000(r) o ddarparwyr yn Lloegr, £27,999 o ddarparwyr yn yr Alban a £25,975 o ddarparwyr yng Ngogledd Iwerddon).

(r) Diwygiedig ar 11 Gorffennaf 2024

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Sedeek Ameer
E-bost: addysguwchachyllidmyfyrwyr.yst@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099