Neidio i'r prif gynnwy

Data yn ôl modd, lefel a phwnc astudio, gweithgaredd, cyflog a rhanbarth cyflogaeth Awst 2018 i Orffennaf 2019.

Mae’r cofnod Deilliannau Graddedigion yn cynnwys arolwg o raddedigion tua 15 mis ar ôl iddynt gwblhau eu hastudiaethau. Cynhelir yr arolwg gan HESA. Mae’r cofnod Canlyniadau Arolwg o Ddeilliannau Graddedigion 2018/19 yn ymwneud â myfyrwyr a gwblhaodd raglenni astudio cymwys rhwng 1 Awst 2018 a 31 Gorffennaf 2019 ac a wnaeth gwblhau’r arolwq (neu’r ymateb gofynnol).

Ymatebodd 380,970 o raddedigion i arolwg Deilliannau Graddedigion 2018/19 o’r boblogaeth darged o 793,445, sef cyfradd o 48% o ymatebion cyflawn. O gynnwys yr ymatebion a gwblhawyd yn rhannol, mae’r gyfradd ymateb yn codi i 52% (409,380 o ymatebion).

Graddedigion sydd â gradd israddedig o brifysgol yng Nghymru

  • Mae 5,970 (47%) o raddedigion a astudiodd yn llawnamser mewn cyflogaeth lawn-amser ac mae 1,405 (11%) mewn cyflogaeth ran-amser. Mae 1,685 (13%) o raddedigion mewn astudiaethau pellach llawnamser ac mae 85 (1%) mewn astudiaethau pellach rhan-amser.
  • Mae 820 (57%) o raddedigion a astudiodd yn rhan-amser mewn cyflogaeth lawnamser ac mae 165 (12%) mewn cyflogaeth ran-amser. Mae 55 (4%) mewn astudiaethau pellach llawnamser neu ran-amser.
  • Yn gyffredinol, roedd canran is o raddedigion prifysgolion yng Nghymru mewn cyflogaeth lawnamser (48%) ac mewn cyflogaeth ran-amser (11%) o gymharu â’r DU gyfan (52% a 12%).
  • Mae 1,065 (8%) o raddedigion yn ddi-waith, ac mae 240 o'r rhain ar fin dechrau gweithio neu astudiaethau pellach.
  • Roedd 785 (50%) o raddedigion o gymdogaethau lle ceir cyfranogiad isel (cwintel 1 POLAR4) mewn cyflogaeth lawnamser o gymharu â 4,725 (49%) o raddedigion o gymdogaethau eraill. 
  • Roedd canran is o raddedigion o brifysgolion yng Nghymru (tua 28%) ar gyflog o £27,000 ac uwch o gymharu â’r DU gyfan (tua 34%).
  • Graddedigion o'r pynciau meddygaeth a deintyddiaeth oedd â'r cyflog canolrifol uchaf, sef £35,000.

Graddedigion sydd â gradd ôl-raddedig o brifysgol yng Nghymru

  • Mae 2,425 (62%) o raddedigion a astudiodd yn llawnamser mewn cyflogaeth lawnamser ac mae 355 (9%) mewn cyflogaeth ran-amser. Mae 225 (6%) o raddedigion mewn astudiaethau pellach llawnamser ac mae 20 (llai nag 1%) mewn astudiaethau pellach rhan-amser.
  • Mae 925 (59%) o raddedigion a astudiodd yn rhan-amser mewn cyflogaeth lawnamser ac mae 245 (16%) mewn cyflogaeth ran-amser. Mae 25 (2%) mewn astudiaethau pellach llawnamser neu ran-amser).
  • Yn gyffredinol, roedd canran is o raddedigion prifysgolion yng Nghymru mewn cyflogaeth lawnamser (61%), ond canran uwch mewn cyflogaeth ran-amser (11%) o gymharu â’r DU gyfan (65% ac 9%).
  • Mae 215 (4%) o raddedigion yn ddi-waith, ac mae 40 (llai nag 1%) o'r rhain ar fin dechrau gweithio neu astudiaethau pellach.
  • Roedd canran is o raddedigion o brifysgolion yng Nghymru (tua 23%) ar gyflog o £39,000 ac uwch o gymharu â’r DU gyfan (tua 25%).

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.