Adroddiad blynyddol yn edrych ar gyflawniadau disgyblion mewn Saesneg, Cymraeg, Mathemateg a Gwyddoniaeth, gan gynnwys gwybodaeth yn ôl rhyw a lefel cyflawniad.

Newidiadau i Feysydd Dysgu y Cyfnod Sylfaen

Cafodd y Meysydd Dysgu diwygiedig eu cyflwyno ar sail statudol o fis Medi 2015 ymlaen. Golyga hyn mai’r cohort o blant a ddechreuodd yn y Derbyn ym mis Medi 2015 fydd yr un cyntaf i gael ei asesu’n ffurfiol yn erbyn y deilliannau ar eu newydd wedd ar ddiwedd y Cyfnod Sylfaen yn haf 2018.

Felly, dylai cymariaethau o ganlyniadau'r Cyfnod Sylfaen gyda blynyddoedd blaenorol gael eu hosgoi gan nad ydynt yn cael eu mesur ar sail gymharol.

Newidiadau i gyhoeddi’r ystadegau yma ar lefel is na Chymru

Yn dilyn ymgynghoriad ar gyhoeddiadau asesiadau athrawon yn y dyfodol, ni fydd y adroddiad ystadegol hwn bellach yn cyhoeddi data'r Cyfnod Sylfaen, Cyfnod Allweddol 2 a Chyfnod Allweddol 3 ar lefel ysgol, awdurdod na chonsortia.

Pwyntiau allweddol

Deilliannau’r Cyfnod Sylfaen

Mae’r mwyafrif o ddisgyblion yn cyflawni'r deilliant disgwyliedig o 5 neu’n uwch ym mhob maes dysgu, o 93.4 y cant yn “Natblygiad personol a chymdeithasol, lles ac amrywiaeth ddiwylliannol” i  84.0 y cant  yn  “Sgiliau iaith, llythrennedd a chyfathrebu (Saesneg)” yn 2018.

Cyfnod Allweddol 2

Cyflawnodd y mwyafrif o ddisgyblion o leiaf y lefel disgwyliedig (Lefel 4) neu’n uwch ym mhob pwnc, o 92.1 y cant yng Ngwyddoniaeth i 89.7 y cant yng Nghymraeg yn 2018.

Cyfnod Allweddol 3

Mae mwy na 9 allan o bob 10 disgybl yn cyflawni o leiaf y lefel disgwyliedig (lefel 5) neu’n uwch ym mhob pwnc yn 2018, o 93.8 y cant yng Nghymraeg i 91.2 y cant yn Saesneg.

Gwahaniaethau Rhyw

Perfformiodd merched yn well na bechgyn ym mhob pwnc craidd/maes dysgu ar ddiwedd y Cyfnod Sylfaen ac ar ddiwedd y ddau Gyfnod Allweddol.

Data pellach

Bydd dadansoddiad pellach o'r canlyniadau a ddangosir yn y datganiad yma yn ôl rhyw a lefel cyrhaeddiad ar gael ar StatsCymru.

Adroddiadau

Deilliannau’r cyfnod syflaen ac asesiadau athrawon o cynciau craidd y Cwricwlwm Cenedlaethol ar gyfer Cyfnodau Allweddol 2 a 3, 2018
, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 884 KB

PDF
884 KB
Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Cais am fformat gwahanol. Os mae arnoch chi angen fersiwn o’r ddogfen hon mewn fformat mwy hygyrch, e-bostiwch digital@llyw.cymru. Cofiwch ddweud wrthym y math o fformat sydd ei angen arnoch chi. Byddai’n help mawr i ni os gallech chi ddweud wrthym ba fath o dechnoleg gynorthwyol rydych yn ei defnyddio hefyd.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Ffôn: 0300 025 5050

Cyfryngau

Ffôn: 0300 025 8099