Neidio i'r prif gynnwy

Bydd y bobl sy’n cael cyfarwyddyd i hunanynysu gan ap COVID-19 y GIG nawr yn gymwys i wneud cais am y taliad cymorth hunanynysu o £500. Dyna gyhoeddiad y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, Julie James heddiw.

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Chwefror 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

O heddiw, bydd defnyddwyr yr ap sy’n cael gwybod eu bod wedi dod i gysylltiad â’r feirws, ac sydd ar incwm isel ac mewn perygl o ddioddef caledi ariannol yn gymwys ynghyd â’r bobl sydd wedi cael cyfarwyddyd i hunanynysu gan y gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu, neu rieni y mae lleoliad addysg wedi gofyn i’w plentyn hunanynysu.

I fod yn gymwys i wneud cais, bydd angen i ddefnyddwyr yr ap fodloni meini prawf y prif gynllun. Rhaid iddynt fod:

  • yn gyflogedig neu’n hunangyflogedig;
  • ddim yn gallu gweithio gartref ac yn mynd i golli incwm o ganlyniad; ac
  • (yr ymgeisydd neu eu partner) yn derbyn Credyd Cynhwysol, Credyd Treth Gwaith, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth seiliedig ar incwm, Lwfans Ceisio Gwaith seiliedig ar incwm, Cymhorthdal Incwm, Budd-dal Tai a/neu Gredyd Pensiwn ar hyn o bryd; neu
  • Bod eu cais wedi’i dderbyn o dan elfen ddewisol y Cynllun Taliadau Cymorth Hunanynysu.

I ganiatáu i gymaint o bobl â phosibl sy’n cael hysbysiad gan yr ap i wneud cais yn brydlon, mae trefniadau dros dro ar waith nes y bydd ateb digidol ar gael. Gall defnyddwyr wneud cais am y taliad drwy gysylltu â’u hawdurdod lleol. Fodd bynnag, nes bydd yr ap yn cael ei ddiweddaru i ddilysu unigolion sydd wedi cael cais i hunanynysu, bydd angen i ddefnyddwyr hefyd ddangos tystiolaeth bod yr ap wedi gofyn iddynt hunanynysu yn ogystal â thystiolaeth o incwm isel wrth wneud cais. Bydd awdurdodau lleol yn gallu derbyn a phrosesu ceisiadau am daliadau o ddydd Gwener 5 Chwefror a bydd ymgeiswyr yn gallu gwneud cais hyd at dair wythnos o ddiwrnod olaf eu cyfnod hunanynysu.

Dywedodd y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, Julie James:

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddiogelu iechyd a llesiant pobl a byddwn yn parhau i gefnogi pobl Cymru yn ystod y cyfnod anodd hwn. Mae’r taliad o £500 eisoes wedi rhoi diogelwch ariannol i bobl sydd wedi cael cyfarwyddyd i hunanynysu, gan helpu i dorri’r cylch trosglwyddo a sicrhau nad oes rhaid i unrhyw un ddewis rhwng aros gartref a methu bwydo eu teulu, neu fynd i’r gwaith ac, o bosib, lledaenu’r feirws.

Mae Awdurdodau Lleol unwaith eto wedi wynebu’r her o sicrhau bod pawb sydd angen cymorth ariannol drwy gydol y pandemig yn ei gael wrth inni gwblhau’r gwaith o alluogi i bobl wneud cais yn uniongyrchol drwy’r ap. Maent eisoes wedi bod yn gweithio’n ddiflino a hoffwn ddiolch iddynt unwaith eto am eu gwaith caled a’u hymroddiad.

Byddaf yn parhau i adolygu’r cynllun i sicrhau bod y bobl sydd â’r angen mwyaf yn cael y cymorth y maent ei angen i hunanynysu a lleihau trosglwyddiad y feirws.