Sut i ddefnyddio’r prawf gartref coronafeirws os ydych yn credu bod gyda chi’r coronafeirws.
Mae angen i chi gymryd y prawf o fewn y 5 diwrnod cyntaf o gael y symptomau canlynol:
- peswch parhaus newydd
- tymheredd uchel
- methu ag arogli neu flasu
Mae angen i chi wneud y prawf cyn gynted ag y byddwch yn ei dderbyn. Nid yw’r prawf yn dangos a ydych wedi cael y coronafeirws eisoes.
Cyn i chi ddechrau
- chwythwch eich trwyn i wneud yn siŵr nad oes dim yn amharu â'r prawf
- golchwch eich dwylo gyda dŵr a sebon am 20 eiliad neu defnyddiwch ddiheintydd dwylo
- rhowch y pecyn ar arwyneb glân fel bwrdd
Cynnwys y pecyn
- 1 swab
- 2 diwb casglu sampl plastig (efallai mai dim ond 1 tiwb fydd mewn rhai pecynnau, peidiwch â phoeni defnyddiwch y tiwb hwnnw i roi eich sampl i'w ddychwelyd)
- 1 bag i anfon y sampl yn ôl
- cyfarwyddiadau
- 3 sticer gyda rhif a chod bar
Gwneud y prawf
Cam 1.
Agorwch becyn y swab wrth y ffon, mae'n bwysig nad ydych chi'n cyffwrdd â phen ffabrig y swab. Ni ddylai’r pen ffabrig gyffwrdd ag unrhyw beth arall neu efallai na fydd y labordy yn gallu prosesu'r canlyniadau ac mae’n bosib bydd angen i chi gael eich ailbrofi.
Cam 2.
Dechreuwch gyda'r llwnc. Gan ddefnyddio drych, edrychwch ar gefn eich llwnc tuag at ardal y tonsil, mae'r darn yma’n bwysig iawn. Mae'n hanfodol eich bod yn osgoi unrhyw germau diangen neu ychwanegol ar y swab trwy gyffwrdd â’ch dannedd, eich tafod neu gig y dannedd yn ddamweiniol.
Gan ddal ffon y swab, agorwch eich ceg a rhwbiwch y darn ffabrig ar draws eich tonsiliau bum gwaith. Os ydych chi wedi cael gwared â'ch tonsiliau, gwnewch hyn lle byddai'ch tonsiliau wedi bod. Tynnwch y swab allan yn ofalus heb gyffwrdd ag unrhyw beth arall y tu mewn i'ch ceg.
Cam 3.
Gan ddefnyddio'r un swab ag y gwnaethoch yn eich ceg, mae angen i chi swabio tu mewn i'ch trwyn nawr. I wneud hyn mae angen i chi osod y swab y tu mewn i'r ffroen gan sicrhau nad ydych chi'n cyffwrdd ag unrhyw ran arall o'ch wyneb. Mae angen i chi osod y swab yn eich ffroen nes eich bod yn teimlo gwrthiant, mae hyn o amgylch dau gentimedr a hanner fel arfer. Unwaith y tu mewn, trowch y swab bum gwaith yn erbyn y tu mewn i'r trwyn. Yna tynnwch y swab yn ofalus. Daliwch eich gafael ar y swab a pheidiwch â gadael iddo gyffwrdd ag unrhyw beth arall.
Peidiwch â gadael i'r darn ffabrig gyffwrdd ag unrhyw beth heblaw y tu mewn i'ch gwddf a'ch trwyn.
Cam 4.
Dadsgriwiwch gaead eich tiwb sampl a gosodwch ben ffabrig y swab mewn yn y tiwb yn gyntaf. Torrwch y ffon yn y man torri, er mwyn sicrhau nad oes germau o'ch dwylo yn cymysgu â'ch sampl. Sgriwiwch y caead yn ddiogel a sicrhewch ei fod wedi ei gau yn dynn.
Nawr golchwch eich dwylo eto.
Cam 5.
Gosodwch y label cod bar dros hyd y tiwb (os oes labeli ar eich tiwb yn barod, gosodwch label y cod bar dros y rhain). Os oes tiwb cludo yn eich pecyn, rhowch y tiwb sampl y tu mewn iddo gan ei selio â'r caead. Os nad oes gennych diwb cludo, rhowch ef yn syth yn yr amlen a ddarperir.
Caiff eich prawf ei gasglu gan negesydd, 24 awr ar ôl i chi ei dderbyn.