Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg

Diben yr ymgynghoriad hwn oedd ceisio barn ar osod cerrig milltir cenedlaethol i Gymru a fydd yn cynorthwyo Gweinidogion i asesu cynnydd tuag at gyflawni’r saith nod llesiant a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Roedd yr ymgynghoriad yn gofyn hefyd a oedd angen gwneud unrhyw ddiwygiadau i’r dangosyddion cenedlaethol presennol yn sgil y profiadau a gafwyd yn ystod pandemig COVID-19.

Cyflwyniad

Mae'r saith nod llesiant i Gymru sydd yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 (Y Ddeddf) yn rhoi disgrifiad o Gymru sy'n economaidd, yn gymdeithasol ac yn amgylcheddol gyfiawn. Fel llywodraeth, rydym yn ymrwymedig i gyfrannu at y nodau hyn, a sicrhau bod fframwaith llesiant cenedlaethau'r dyfodol yn parhau i ysgogi prosesau penderfynu gwell ar gyfer cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol.

Mae’r Ddeddf yn cynnwys tri mesur sy'n helpu i ddarparu dealltwriaeth a rennir o'n gwlad. Mae dangosyddion cenedlaethol sy'n mesur cynnydd, cerrig milltir cenedlaethol sy'n nodi graddfa newid a pha mor gyflym y mae'n digwydd, ac adroddiad tueddiadau'r dyfodol sy'n nodi'r ffactorau a all effeithio ar gynnydd tuag at gyflawni'r nodau llesiant. Gyda'i gilydd, bydd y tri dull hyn yn helpu i lywio dyfodol Cymru.

Diben yr ymgynghoriad hwn oedd ceisio barn ar osod cerrig milltir cenedlaethol i Gymru a fydd yn cynorthwyo Gweinidogion i asesu cynnydd tuag at gyflawni'r saith nod llesiant fel y'u nodir yn y Ddeddf. Roedd yr ymgynghoriad yn gofyn hefyd a oedd angen gwneud unrhyw ddiwygiadau i'r dangosyddion cenedlaethol presennol yn dilyn profiadau pandemig COVID-19.

Cyfnod ymgynghori

Fel sy'n ofynnol gan y Ddeddf, aeth Llywodraeth Cymru ati i ymgynghori â'r cyrff cyhoeddus penodedig, Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru a rhanddeiliaid ehangach.

Ymgynghoriad cyhoeddus

Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng 1 Medi 2021 a 26 Hydref 2021. Anfonwyd y papur ymgynghori yn electronig at amrywiaeth eang o randdeiliaid ac fe'i darparwyd ar wefan Llywodraeth Cymru hefyd. Anfonodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol lythyr ymgynghori at Brif Weithredwyr Cyrff Cyhoeddus (neu swyddogion cyfatebol) yn gwahodd eu safbwyntiau ynghylch y gwerthoedd arfaethedig ar gyfer y cerrig milltir cenedlaethol a'r newidiadau i'r dangosyddion cenedlaethol.

Cynhaliwyd amrywiaeth o weithgareddau ymgysylltu yn ystod y cyfnod ymgynghori ac, fel rhan o hyn, bu swyddogion Llywodraeth Cymru yn ymgymryd â'r canlynol:

  • Gweminarau cyhoeddus
  • Cyfarfod rhwydwaith Cydgysylltwyr Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus
  • Grŵp Cynghori ar Hawliau Plant
  • Sesiwn gyda phanel o bobl ifanc, a hwyluswyd gan fenter Cymru Ifanc
  • Pwyllgor Cyswllt Ystadegol Cymru
  • Fforymau Rhanddeiliaid Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol

Manylion yr ymatebion

Cafwyd cyfanswm o 94 o ymatebion, a oedd yn cynnwys:

  • 52 o ymatebion drwy e-bost
  • 42 o ymatebion a gyflwynwyd drwy'r ffurflen ar-lein

Comisiynodd Llywodraeth Cymru Wavehill Ltd i ddadansoddi'r ymatebion a gafwyd yn annibynnol. Mae eu hadroddiad cynhwysfawr yn cael ei gyhoeddi ochr yn ochr â'r ddogfen hon.

Mae Tabl 1 yn rhoi dadansoddiad o'r ymatebwyr. Neilltuwyd categori i'r ymatebwyr fel rhan o broses ddadansoddi'r ymgynghoriad. Bydd rhestr lawn o'r sefydliadau a ymatebodd ar gael yn yr adroddiad ar y dadansoddiad annibynnol o'r ymgynghoriad.

Tabl 1: Proffil yr ymatebwyr i’r ymgynghoriad
Sector Nifer yr ymatebion
Sector cyhoeddus Awdurdod lleol 13
Cyrff Cyhoeddus a Noddir gan Lywodraeth Cymru 6
Byrddau Iechyd 6
Sector cyhoeddus arall 2
Bwrdd partneriaeth 1
Cyfanswm 28
Y Trydydd Sector Elusen neu sefydliad nid er elw 19
Sefydliad aelodaeth 12
Cyfanswm 31
Eraill Unigolyn 23
Penodiad cyhoeddus 4
Addysg Uwch 1
Undebau Llafur 2
Swyddog etholedig 0
Plaid wleidyddol 0
Ddim yn gwybod 5
Cyfanswm 35
Cyfanswm 94

Hoffem achub ar y cyfle hwn i ddiolch i bawb a ymatebodd i'r ymgynghoriad ac i'r rhai a gymerodd ran yn y gweminarau, cyfarfodydd a digwyddiadau am eu cyfraniadau.

Y camau nesaf

Ar ôl ystyried yr ymatebion i'r ymgynghoriad, cam nesaf y gwaith fydd:

  • Mireinio a gosod y cerrig milltir cenedlaethol cyntaf i Gymru a'r dangosyddion cenedlaethol diwygiedig.
  • Pennu manylion o ran sut y caiff y dangosyddion cenedlaethol newydd eu mesur.
  • Darparu'r diweddariad cyntaf ar y dangosyddion newydd a chynnydd tuag at gyflawni'r cerrig milltir cenedlaethol yn adroddiad Llesiant Cymru yn 2022.
  • Mynd i'r afael â'r gwaith ar yr ail gyfres o gerrig milltir cenedlaethol yn 2022.

Ffurf ymateb y llywodraeth

Mae'r ddogfen hon yn rhoi ymateb Llywodraeth Cymru i'r ymgynghoriad, yn seiliedig ar y dadansoddiad annibynnol a gynhaliwyd gan Wavehill Ltd. Nid ymateb i bob awgrym unigol a wnaed yw diben y ddogfen hon.

Mae'r ddogfen wedi'i rhannu'n ddwy adran:

  • Adran 1: Ymateb i'r gwerthoedd arfaethedig ar gyfer y cerrig milltir cenedlaethol
  • Adran 2: Ymateb i'r newidiadau a'r ychwanegiadau arfaethedig i'r set o ddangosyddion cenedlaethol

Adran 1: Cerrig milltir cenedlaethol

Roedd yr ymgynghoriad yn gofyn am safbwyntiau ynghylch gwerthoedd arfaethedig ar gyfer naw carreg filltir genedlaethol. Mae'r adran hon yn crynhoi ymateb Llywodraeth Cymru i'r sylwadau a gafwyd.

Roeddem yn falch iawn o weld bod yr adroddiad ar y dadansoddiad annibynnol yn nodi'n glir bod cryn gefnogaeth o blaid ffocws sylweddol pob dangosydd cenedlaethol a charreg filltir genedlaethol yn y cynigion.

Yn gyffredinol, cafodd pob dangosydd cenedlaethol a charreg filltir genedlaethol groeso cadarnhaol gan yr ymatebwyr. Mae hyn yn awgrymu bod cytundeb cyffredinol o ran pwysigrwydd y materion a amlinellwyd yn y cynigion, a'r blaenoriaethau y maent yn ceisio ymdrin â nhw.

Fodd bynnag, rydym wedi mireinio rhai o'r cerrig milltir cenedlaethol yn seiliedig ar yr ymatebion a gafwyd, fel yr amlinellir isod.

Cymwysterau

Yn gyffredinol, cafwyd cryn gefnogaeth o blaid ffocws a bwriad sylweddol y ddwy garreg filltir genedlaethol arfaethedig mewn perthynas â chymwysterau. Roedd 92.4% o'r ymatebwyr a atebodd y cwestiwn hwn yn cytuno â'r dull cyffredinol.

Nododd nifer o ymatebwyr bwysigrwydd mynd i'r afael ag anghydraddoldebau sy'n gysylltiedig â chymwysterau a bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gydweithio â rhanddeiliaid i ystyried pa gymorth y gellir ei ddarparu i ddileu rhwystrau i addysg a hyfforddiant.

Hefyd, nododd rhai ymatebwyr bwysigrwydd gosod targed mwy uchelgeisiol mewn perthynas â chymwysterau. Sicrhau bod 75% o'r oedolion o oedran gweithio yng Nghymru yn gymwys hyd at lefel 3 yw'r uchelgais a osodwyd fel ein llinell sylfaen, ond bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda rhanddeiliaid i ystyried a ellid gosod carreg filltir hyd yn oed yn fwy uchelgeisiol.

Addysg, cyflogaeth a hyfforddiant

Cafwyd cryn gefnogaeth o blaid cynnwys y garreg filltir genedlaethol hon. Roedd 94% o'r rhai a ymatebodd yn cytuno â'r cynigion.

Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i ystyried sut y caiff y gwaith hwn ei ddatblygu gan ganolbwyntio ar leihau anghydraddoldeb a sicrhau y rhoddir y budd mwyaf i bobl ifanc sy'n symud drwy addysg, hyfforddiant ac ymlaen i gyflogaeth. Mae hyn yn cynnwys cysylltu â thargedau yn Strategaeth Cyflogadwyedd Llywodraeth Cymru sydd ar ddod, yn ogystal â sicrhau cydweddiad â'r Warant i Bobl Ifanc sydd wrth wraidd ein hymdrechion i gefnogi pobl ifanc i ymuno â'r farchnad lafur. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn ailwampio ac yn ail-lansio'r Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid er mwyn helpu i leihau nifer y bobl ifanc sy'n wynebu risg beidio ag ymgysylltu ag addysg, cyflogaeth na hyffordiant.

Cyflogaeth

Cafwyd cefnogaeth eang o blaid y garreg filltir a awgrymwyd ar gyfer cyflogaeth a dywedodd 89.4% o'r ymatebwyr eu bod yn cytuno â'r dull arfaethedig.

Yn dilyn awgrymiadau gan ymatebwyr a gwaith parhaus gyda rhanddeiliaid, mae Llywodraeth Cymru wedi ychwanegu cyfeiriad penodol at ‘waith teg’ yn y garreg filltir genedlaethol hon’. Mae Llywodraeth Cymru yn ymrwymedig i ddatblygu gwaith teg fel blaenoriaeth hanfodol.

Caiff Strategaeth Cyflogadwyedd newydd Llywodraeth Cymru ei chyhoeddi yn y gwanwyn a bydd yn amlinellu camau i gyflymu cynnydd mewn perthynas â'r garreg filltir genedlaethol hon â cherrig milltir eraill sy'n ymwneud â'r farchnad lafur. llwybrau dilyniant i bobl ifanc yn y farchnad lafur a datblygu ein huchelgeisiau gwaith teg.

Cyflog cyfartal

Cafwyd llawer iawn o gefnogaeth o blaid bwriad a ffocws y garreg filltir genedlaethol hon ac roedd 95.4% o'r ymatebion yn cytuno â'r dull cyffredinol.

Mae gosod yr uchelgais hon fel un o'r cerrig milltir cenedlaethol yn sicrhau bod ein dull gweithredu yn gyson ac mae'n cyd-fynd â'r dyheadau a nodir yn strategaethau a thasgluoedd gwaith teg a chydraddoldeb Llywodraeth Cymru, gan gynnwys: Gwaith Teg Cymru, y Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Rhywiol, y Tasglu Hawliau Pobl Anabl, y Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol a'r Strategaeth Amrywiaeth a Chynhwysiant.

Ymddygiadau ffordd iach o fyw

Cafwyd canfyddiadau cadarnhaol o'r garreg filltir genedlaethol arfaethedig hon a dywedodd 90 y cant o'r rhai a ymatebodd i'r cwestiwn eu bod yn cytuno â'r dull gweithredu cyffredinol.

Un thema bwysig a godwyd gan ymatebwyr oedd bod y garreg filltir genedlaethol (a dangosyddion cenedlaethol 3 a 5) wedi'i geirio mewn ffordd negyddol. Awgrymwyd y byddai troi'r geiriad o chwith a defnyddio cywair mwy cadarnhaol yn helpu i egluro'r garreg filltir (a'r dangosyddion) gan ei gwneud yn haws i'w dehongli ac y byddai hyn yn atgyfnerthu neges ffordd iach o fyw.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ystyried hyn ac wedi penderfynu newid gwerth y garreg filltir genedlaethol er mwyn adlewyrchu hyn – Cynyddu canran y plant sydd â dau ymddygiad iach neu fwy o ran ffordd o fyw i 94% erbyn 2035 a mwy na 99% erbyn 2050. Bydd geiriad y dangosyddion cenedlaethol cysylltiedig ar gyfer oedolion a phlant hefyd yn cael ei ddiwygio.

Ôl troed byd-eang

Cafwyd llawer o gefnogaeth o blaid y dangosydd a'r garreg filltir a gyflwynwyd, gydag atebion cadarnhaol gan 87.9% o'r ymatebwyr.

Fel rhan o weledigaeth Llywodraeth Cymru i gael Cymru gynaliadwy erbyn 2050 ac fel rhan o'n hymateb parhaus i'r argyfwng hinsawdd a natur, rydym am weld Cymru yn defnyddio ei chyfran deg o adnoddau'r ddaear yn unig.

Mae Llywodraeth Cymru wrthi'n gweithio gyda phartneriaid i ystyried dulliau addas o ddiweddaru'r ôl troed yn 2022.

Allyriadau sero net

Nododd 83% o'r ymatebwyr eu bod yn cefnogi'r garreg filltir genedlaethol hon.

Ym mis Mawrth 2021, gwnaeth y Senedd ymrwymiad ffurfiol y byddai gan Gymru allyriadau sero net erbyn 2050. Mae'r targed sero net yn adlewyrchu'r cyngor diweddaraf gan ein cynghorwyr arbenigol, y Pwyllgor ar Newid Hinsawdd, a grëwyd yn fwriadol i adlewyrchu ‘uchelgais uchaf posibl’ Cymru yn unol â'n galluoedd penodol, fel y ndwyd yng Nghytundeb Paris.

Mae gosod y garreg filltir genedlaethol hon yn cyd-fynd â'r targed deddfwriaethol a nodir yn Neddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016. Pe bai'r amodau'n cael eu bodloni ar gyfer newid y targed deddfwriaethol ar gyfer sero net yng Nghymru, byddai'r garreg filltir a osodwyd yma yn adlewyrchu'r newid hwnnw.

Yr Iaith Gymraeg

Cafwyd cefnogaeth eang (80%) gan yr ymatebwyr i'r ymgynghoriad o blaid y garreg filltir genedlaethol hon.

Mae targed Cymraeg 2050 o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 eisoes wedi'i ymgorffori yng ngwaith Llywodraeth Cymru a'i phartneriaid a bydd yn parhau i fod yn flaenoriaeth i ni.

Mae Llywodraeth Cymru o'r farn mai'r cyfrifiad yw'r ffynhonnell awdurdodol o wybodaeth am nifer y siaradwyr Cymraeg yng Nghymru, a dyma sut y byddwn yn parhau i fesur cynnydd tuag at wireddu ein huchelgais o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg. Bydd data o Gyfrifiad 2021 ar gael yng ngwanwyn 2022 a fydd yn helpu i lywio ein llwybr tuag at filiwn o siaradwyr Cymraeg.

Adran 2: Dangosyddion cenedlaethol

Mae'r adran hon wedi'i rhannu'n dair rhan:

  1. Ymateb i gynigion ynghylch dull teithio, safon ofynnol ar gyfer bywyd digidol a diwygio dangosydd cenedlaethol 33 – (canran yr anheddau â pherfformiad ynni digonol). 
  2. Ymateb i awgrymiadau ar gyfer newidiadau eraill i'r set o ddangosyddion cenedlaethol – cynigion a fydd yn cael eu rhoi ar waith.
  3. Ymateb i awgrymiadau ar gyfer newidiadau eraill i'r set o ddangosyddion cenedlaethol – cynigion na fyddant yn cael eu rhoi ar waith.

1. Ymateb i gynigion ynghylch dull teithio, safon ofynnol ar gyfer bywyd digidol a diwygio dangosydd cenedlaethol 33 – (canran yr anheddau â pherfformiad ynni digonol)

Gofynnodd yr ymgynghoriad am safbwyntiau ynghylch tri newid penodol a gynigiwyd i'r dangosyddion cenedlaethol. Mae'r adran hon yn crynhoi ymateb Llywodraeth Cymru mewn perthynas â'r pynciau hyn.

Dull teithio

Ar y cyfan, roedd 82% o'r ymatebwyr i'r cwestiwn ar ddull teithio yn cytuno'n gyffredinol â'r cynnig i'w gynnwys fel dangosydd cenedlaethol newydd.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ystyried yr ymateb hwn a bydd yn rhoi dangosydd cenedlaethol newydd ar waith mewn perthynas â chanran y siwrneiau a wneir drwy gerdded, beicio neu gan ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.

Bydd y dangosydd newydd hwn yn cynnwys trafnidiaeth gyhoeddus fel rhan o'r mesur, gan adlewyrchu diddordeb y cyhoedd yn y pwnc hwn.

Safon ofynnol ar gyfer bywyd digidol

Cafwyd cryn gefnogaeth o blaid cynnwys dangosydd sy'n ymwneud â safon ofynnol ar gyfer bywyd digidol, ac roedd 85% o'r rhai a ymatebodd i'r cwestiwn yn cytuno.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ystyried yr ymateb hwn a bydd yn rhoi dangosydd cenedlaethol newydd ar waith mewn perthynas â statws cynhwysiant digidol a gaiff ei ddatblygu ar y cyd â safon ofynnol ar gyfer bywyd digidol.

Bydd y dangosydd newydd hwn yn cynnwys cysyniadau megis cyflymder cysylltedd, mynediad i ddyfeisiau a sgiliau digidol, yr oedd pob un ohonynt yn themâu allweddol a godwyd yn yr ymgynghoriad.

Perfformiad ynni anheddau

Cafwyd cefnogaeth gyffredinol o blaid diwygio'r mesur ar gyfer dangosydd cenedlaethol 33 – canran yr anheddau gyda pherfformiad ynni digonol, ac roedd 70% o'r ymgyngoreion a ymatebodd i'r cwestiwn yn cytuno.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ystyried yr ymateb hwn ac mae'n ymrwymo i ddiweddaru'r mesur ynghyd â gwaith sydd wedi'i gynllunio ar gyfer 2022 ar Safon Ansawdd Tai Cymru er mwyn nodi mesur sy'n cydnabod ffactorau megis effeithlonrwydd ynni a gradd effaith amgylcheddol.

2. Ymateb i awgrymiadau ar gyfer newidiadau eraill i'r set o ddangosyddion cenedlaethol – cynigion a fydd yn cael eu rhoi ar waith

Gofynnodd yr ymgynghoriad i ymatebwyr am eu barn ynghylch a oedd pandemig COVID-19 wedi tynnu sylw at unrhyw fylchau ychwanegol yn y ffordd y caiff cynnydd tuag at y saith nod llesiant ei fesur, a chynigiwyd awgrymiadau gan oddeutu hanner yr ymatebwyr.

O ganlyniad i ymatebion i'r ymgynghoriad a gweithgareddau ymgysylltu ehangach â rhanddeiliaid, byddwn yn rhoi dau ddangosydd cenedlaethol newydd ar waith ac yn diwygio un dangosydd yn y set gyfredol.

Costau mewn perthynas â thai

Nodwyd bod bwlch pwysig yn y dangosyddion cenedlaethol mewn perthynas â'r gallu i fforddio rhywle i fyw, boed hynny drwy rentu neu brynu, a bod y mater hwn yn bwysicach fyth yn sgil y pandemig. Codwyd hyn gan nifer o’r rhai a ymatebodd i’r ymgynghoriad a thrwy'r gweithgareddau ymgysylltu ehangach hefyd. Nododd ymatebwyr yr effaith y mae fforddiadwyedd tai yn ei chael ar unigolion yn ogystal â chydlyniant cymunedau a'u diwylliant, gan gynnwys y Gymraeg.

Felly, bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi dangosydd cenedlaethol newydd ar waith mewn perthynas â chanran yr aelwydydd sy'n gwario 30% neu fwy o'u hincwm ar gostau mewn perthynas â thai. Mae 30% yn drothwy a ddefnyddir yn gyffredin mewn perthynas â chostau mewn perthynas â thai. Bydd ychwanegu'r dangosydd hwn yn atgyfnerthu'r ymdriniaeth o'r nodau ar gyfer Cymru lewyrchus, Cymru fwy cyfartal, Cymru o gymunedau cydlynus a Chymru â diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu.

Cyfiawnder a chydlyniant cymunedol

Roedd cyfiawnder wedi ei nodi o’r blaen fel bwlch yn y set o ddangosyddion ac eleni cafodd ei godi fel maes pwysig gan banel o bobl ifanc. Yn ogystal, gwelwyd diddordeb ehangach mewn atgyfnerthu i ba raddau yr ymdrinnir â chydlyniant cymunedol, ymgysylltu sifig a'r ffactorau a allai effeithio ar gysylltedd cymunedau. Y tu hwnt i'r ymgynghoriad, adlewyrchodd argymhellion gan y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru yn 2019 bwysigrwydd gwella mynediad at gyfiawnder yng Nghymru a gwella data ar gyfiawnder yn fwy cyffredinol.

Mae pynciau a godwyd gan ymatebwyr, megis dylanwad ar benderfyniadau lleol, diogelwch cymunedol a chanfyddiadau o gydlyniant cymunedol, eisoes yn cael eu hadlewyrchu yn y dangosyddion cenedlaethol, ond nid yw cyfiawnder wedi’i gynnwys. Mae hyder yn y system gyfiawnder yn ddangosydd o gydlyniant a chydraddoldeb cymunedau yng Nghymru. Felly, bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi dangosydd cenedlaethol newydd ar waith mewn perthynas â chanran y bobl sydd â hyder yn y system gyfiawnder. Bydd ychwanegu'r dangosydd hwn, sy'n ymwneud â hyder dinasyddion mewn system ddemocrataidd, yn helpu i atgyfnerthu'r ymdriniaeth o'r nodau ar gyfer Cymru fwy cyfartal, Cymru o gymunedau cydlynus a Chymru sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang.

Diogelwch swyddi

Yn y gorffennol, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i roi argymhellion y Comisiwn Gwaith Teg ar waith, gan gynnwys dangosydd cenedlaethol ar y Cyflog Byw gwirioneddol. O ganlyniad, gwnaethom ymrwymo i gael gwared ar y dangosydd presennol am ansawdd cyflogaeth (canran y bobl mewn cyflogaeth sydd ar gontractau parhaol (neu gontractau dros dro ac nad ydynt yn ceisio cyflogaeth barhaol) ac sy'n ennill mwy na 2/3 o gyflog canolrifol y DU) a chynnwys dangosydd am gyfran y cyflogeion sy'n ennill y Cyflog Byw gwirioneddol o leiaf yn ei le.

Yn yr ymgynghoriad hwn, nododd ymatebwyr fod yr angen i gynnal rhyw fath o sicrwydd swydd yn bwysicach fyth yn sgil y pandemig.

Felly, bydd Llywodraeth Cymru yn cadw elfen sicrwydd swydd y dangosydd gwreiddiol gan roi'r elfen newydd ar waith hefyd mewn perthynas â'r rhai sy'n ennill y Cyflog Byw gwirioneddol o leiaf. Y danbgosydd fydd canran y bobl mewn cyflogaeth sydd ar gontractau parhaol (neu gontractau dros dro ac nad ydynt yn ceisio cyflogaeth barhaol) ac sy'n ennill y Cyflog Byw gwirioneddol o leiaf

Bydd ychwanegu'r dangosydd hwn yn cynnal yr ymdriniaeth o'r nodau ar gyfer Cymru lewyrchus, Cymru iachach, Cymru fwy cyfartal a Chymru sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang.

3. Ymateb i awgrymiadau ar gyfer newidiadau eraill i'r set o ddangosyddion cenedlaethol – cynigion na fyddant yn cael eu rhoi ar waith

Mae'r adran hon yn ymateb i'r awgrymiadau mwy cyffredin a gafwyd ar gyfer dangosyddion newydd lle rydym wedi penderfynu peidio â gwneud newid. Gwnaed nifer mawr o awgrymiadau ac nid ydym wedi ceisio ymateb i bob dangosydd newydd a gynigiwyd.

Dangosyddion iechyd ychwanegol

Rydym yn cydnabod pwysigrwydd ac ehangder crynhoi agweddau ar iechyd y cyhoedd yn llawn. Nid oedd sawl un o'r awgrymiadau a gafwyd ar gyfer dangosyddion iechyd yn bodloni'r meini prawf ar gyfer dangosydd cenedlaethol, er enghraifft, nid oeddent yn canolbwyntio ar ganlyniadau neu roeddent yn adlewyrchu perfformiad un sefydliad. Teimlwyd bod y cydbwysedd o ddangosyddion iechyd sydd yn y set o ddangosyddion cenedlaethol ar hyn o bryd yn ddigonol. Ar hyn o bryd, mae 31 o'r 50 o ddangosyddion yn gysylltiedig â'r nod o gael Cymru iachach.

Dangosyddion llesiant meddyliol

Teimlid bod llesiant meddyliol eisoes wedi'i gynnwys mewn sawl dangosydd cenedlaethol, gan gynnwys y sgôr llesiant meddyliol cymedrig a chanran y bobl sy'n unig. Bydd adroddiad blynyddol Llesiant Cymru yn parhau i adrodd ar wybodaeth gyd-destunol ychwanegol mewn perthynas â llesiant meddyliol, ar y cyd â'r dangosydd cenedlaethol hwn.

Mynediad i'r awyr agored

Cydnabyddir bod y maes hwn wedi dod yn bwysicach fyth yn ystod y pandemig, ond mae eisoes wedi'i gynnwys fel rhan o ddangosydd 24 mewn perthynas â mynediad at gyfleusterau a gwasanaethau. Bydd adroddiad blynyddol Llesiant Cymru yn parhau i adrodd ar fynediad i fannau gwyrdd, ar y cyd â'r dangosyddion cenedlaethol.

Plant a phobl ifanc

Cafodd cynyddu'r pwyslais ar blant a phobl ifanc ei nodi gan ymatebwyr fel dangosydd newydd posibl yn ogystal ag fel elfen bwysig wrth ddadansoddi'r dangosyddion presennol. Mae dangosyddion cenedlaethol sy'n casglu profiadau plant a phobl ifanc yn benodol eisoes yn bodoli ac nid oes cynlluniau i ychwanegu rhagor o ddangosyddion yn y maes hwn. Fodd bynnag, rydym yn cytuno ei bod yn bwysig ymdrin â phlant a phobl ifanc yn llawnach yn y set o ddangosyddion cenedlaethol ac rydym wedi ymrwymo ystyried sut y gellir isrannu’r dangosyddion presennol er mwyn sicrhau y caiff llesiant plant a phobl ifanc ei fesur.