Neidio i'r prif gynnwy

Canllawiau ar ailagor a defnyddio canolfannau cymunedol amlbwrpas yn ddiogel.

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Gorffennaf 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Canllawiau cenedlaethol yw’r rhain sy’n berthnasol i Gymru gyfan. 

Ystyriwch a oes cyfyngiadau lleol yn eu lle wrth ddarllen a rhoi’r canllawiau hyn ar waith.

Canllawiau yw’r rhain ar gyfer pobl sy'n rheoli canolfannau cymunedol, neuaddau pentref, neuaddau eglwysi a chanolfannau cymunedol eraill, i roi arweiniad iddynt ar ailagor adeiladau amlbwrpas yn ddiogel. Fodd bynnag, byddant hefyd yn berthnasol i’r rheini sy’n llogi neu’n defnyddio canolfan gymunedol. Nid oes diffiniad o ganolfan gymunedol yn y Rheoliadau Cyfyngiadau Coronafeirws, ond at ddibenion y canllawiau hyn, fe’i hystyrir yn adeilad neu le sydd ym mherchnogaeth neu o dan reolaeth awdurdod cyhoeddus neu gorff o bersonau ac sy’n gallu darparu ar gyfer datblygiad corfforol, cymdeithasol, diwylliannol neu ddeallusol y gymuned, neu ar gyfer ei lles.

Cefndir

Mae canolfannau cymunedol, neuaddau pentref, a chyfleusterau cymunedol amlddefnydd eraill yn cael eu defnyddio ar gyfer amrywiaeth o weithgarwch lleol. Ond mae eu natur gymunedol hefyd yn eu gwneud yn lleoedd sy'n agored i ledaeniad y coronafeirws.

Mae Rheoliad 12 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) 2020 (fel y’i diwygiwyd) yn caniatáu ailagor Canolfannau Cymunedol, ond mae’n rhoi dyletswydd ar y personau hynny sy’n gyfrifol am y ganolfan i gymryd mesurau rhesymol i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws yn yr eiddo, a’r risg bod y rheini sydd wedi bod yn yr eiddo yn lledaenu’r coronafeirws. Bydd methu âgwneud hyn yn drosedd. Mae’r ddyletswydd hon yn cynnwys casglu gwybodaeth gyswllt.

Mae canllawiau manwl ar gael ar sut i gymryd mesurau rhesymol i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws mewn gweithleoedd a mangreoedd sy’n agored i’r cyhoedd. Maent wedi’u rhannu’n fras i 3 maes:

  1. cymryd pob mesur rhesymol i sicrhau y cedwir pellter o 2 fetr rhwng pob person mewn mangre benodol
  2. sicrhau y caiff unrhyw fesurau rhesymol eraill eu cymryd i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r feirws, yn arbennig drwy gyfyngu ar ryngweithio agos wyneb yn wyneb a gwella hylendid
  3. darparu gwybodaeth i’r rheini sy’n mynd mewn i fangre neu’n gweithio mewn iddi ynglŷn â sut i leihau risg.

Er mwyn deall pa weithgareddau y caniateir eu cynnal, rhaid i’r rheini sy’n gyfrifol am y ganolfan hefyd ymgyfarwyddo â rheoliad 14 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) 2020, a glynu ato. Mae’r rheoliad hwn yn rhoi manylion am y cyfyngiadau ar gynulliadau dan do, ac mae rheoliad 14A yn rhoi manylion am gynulliadau yn yr awyr agored, a’r esgusodion rhesymol dros wneud hynny yn y ddau achos.

Mae nifer o gyfleusterau cymunedol hefyd yn weithfannau, ac felly, dylai’r rheini sy’n gyfrifol am yr eiddo fod yn ymwybodol o’u cyfrifoldebau fel cyflogwyr.

O fewn y cyd-destun rheoleiddiol a nodir uchod, bwriad y canllawiau hyn yw cefnogi canolfannau cymunedol i ailddechrau cynnal gweithgareddau mewn ffordd sy’n ddiogel o ran COVID. Mae’r canllawiau’n adlewyrchu’r amrywiaeth eang o wahanol ganolfannau cymunedol sydd i’w cael ledled Cymru, a’r effeithiau cadarnhaol a ddaw yn sgil ymestyn gweithgareddau a gwasanaethau cyhoeddus gwerthfawr yn y gymuned. Mae hyn yn cynnwys cefnogi ymdrechion diogelu i ymateb i’r problemau niferus sydd o bosibl wedi’u cuddio neu wedi gwaethygu yn ystod cyfnod y cyfyngiadau symud yn anffodus.

Mae’r canllawiau wedi’u bwriadu yn bennaf ar gyfer y rheini sy’n rheoli canolfannau cymunedol amlddefnydd, er mwyn iddynt allu paratoi ar gyfer ailagor pan fydd y cyfyngiadau wedi codi. Mae’n eu cyfeirio at ganllawiau perthnasol ar ystod o wahanol weithgareddau y gellid eu cynnal yn y lleoliadau hyn. Fodd bynnag, maent hefyd yn berthnasol i’r rheini sy’n dymuno llogi canolfan gymunedol.

Caiff y canllawiau hyn eu diweddaru wrth i Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020 gael eu diwygio, a phan y caiff canllawiau eraill sy’n berthnasol i gyfleusterau amlddefnydd eu llunio. Mae gwahanol weithgareddau yn ddarostyngedig i adolygiadau a chanllawiau penodol ynghylch pryd a sut y caniateir iddynt ailddechrau.

Os yw safle yn darparu cymysgedd o wasanaethau, dim ond y gwasanaethau hynny y gellid eu gynnal yn unol âr Rheoliadau Cyfyngiadau Coronafeirws a ganiateir. Bydd angen i’r rheini sy’n gyfrifol am ganolfannau cymunedol sicrhau bod unrhyw un sy’n mynychu yn gallu gwneud hynny yn unol â’r rheolau ar gynulliadau. Mae’n bwysig nodi bod cyfyngiadau a gofynion o dan y Rheoliadau yn cael eu diwygio’n aml. Dylech sicrhau eich bod gennych yr wybodaeth ddiweddaraf bob tro.

Camau ar gyfer ailagor

Mae canolfannau cymunedol eisoes wedi chwarae rhan hanfodol wrth gefnogi ein dinasyddion mwyaf agored i niwed a byddant yn parhau i wneud hynny. Gallant hefyd chwarae rhan hanfodol o ran galluogi pobl o bob oed i gysylltu ag eraill a theimlo eu bod yn cael eu cynnwys yn eu cymunedau mewn ffordd ystyrlon. I gydnabod hyn, rydym yn annog y rhai sy'n rheoli canolfannau i gysylltu â'u Hawdurdod Lleol i benderfynu pa wasanaethau cyhoeddus ychwanegol y gallent eu darparu.

Wrth i chi fynd ati i ailagor eich canolfan gymunedol drwy gymryd mesurau rhesymol i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws a’i ledaenu (gan gynnwys cadw pellter corfforol o 2m, hylendid, defnyddio Cyfarpar Diogelu Personol (PPE), ac o bosibl casglu gwybodaeth gyswllt), gall fod yn ddefnyddio ystyried rhai materion ychwanegol:

  • Cam 1: Pa weithgareddau rydych chi’n bwriadu eu cynnal? Os nad chi sy’n berchen ar y lleoliad, a ydych chi wedi siarad â’r perchennog? A oes gennych gytundeb/siarter gyda’r perchennog?
  • Cam 2: Ydych chi’n gwybod beth fydd angen i chi ei wneud? Ee newid yswiriant neu gytundebau llogi. Mae CGGC wedi llunio canllawiau ymarferol ar gyfer canolfannau cymunedol sy’n ailagor, ac efallai y byddant o ddefnydd i chi.
  • Cam 3: Ydych chi wedi cynnal asesiad risg? Bydd gan y rhai sy'n gyfrifol am y ganolfan gymunedol (y rheolwyr) ddisgresiwn o hyd ynghylch pryd y byddant yn ystyried ei bod yn ddiogel agor ar gyfer unrhyw weithgaredd a ganiateir gan ddeddfwriaeth. Fel rhan o’ch asesiad risg, dylech ystyried sut y byddech yn ymateb pe bai cyfyngiadau symud yn cael eu gorfodi ar lefel leol. Mae Templedi Asesu Risg ac enghreifftiau ar gael ar wefan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch.
  • Cam 4: Pwy sy'n cynnal y gweithgaredd? Ydy’r rhai sy’n cynnal y gweithgareddau hynny yn deall gofynion y rheoliadau? Ydyn nhw wedi gweld yr asesiad risg ar gyfer y lleoliad? Ydyn nhw wedi cynnal asesiad risg ar gyfer y gweithgaredd? Ydyn nhw’n ymwybodol o'r canllawiau hyn? Ydyn nhw’n ymwybodol bod CGGC yn cynnig cymorth ychwanegol? Cofiwch fod rhai gweithgareddau na ellir eu cynnal o hyd, ee ymgynnull o dan do heb esgus rhesymol. Bydd gan weithgareddau a ganiateir eu canllawiau penodol eu hunain ynghylch pryd a sut y caniateir iddynt ail-ddechrau; gweler adran D isod. Os na all gweithgaredd ddilyn yn ddiogel y cyngor yn y canllawiau perthnasol ar gyfer y gweithgaredd hwnnw, argymhellir nad yw'n cael ei gynnal.
  • Cam 5: Pa addasiadau fydd angen ichi eu gwneud? Os oes angen ichi wneud addasiadau er mwyn lleihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws yn y ganolfan, a ydych wedi ystyried faint y bydd y rhain yn ei gostio? Ceir dolenni at gymorth ychwanegol yn Adran isod.
  • Cam 6: A ydych chi mewn cysylltiad â’ch seilwaith cymorth lleol? Mae trefniadau cymorth gwahanol ar gael ym mhob sir. Os oes gennych gyswllt eisoes yn eich Awdurdod Lleol, awgrymwn eich bod yn cadw mewn cysylltiad rheolaidd i drafod unrhyw newidiadau mewn rheoliadau a chanllawiau. Rydym hefyd yn argymell eich bod yn cysylltu â’r Cyngor Gwirfoddol Sirol lleol all ddarparu cymorth o bosibl. Byddant hefyd yn gallu rhoi gwybod i chi a oes unrhyw gyfyngiadau lleol yn berthnasol.

Os ydych yn llogi canolfan gymunedol, mae camau 4 i 6 yn berthnasol i chi.

Cyfrifoldebau allweddol

Dylai'r rhai sy'n gyfrifol am y lleoliad neu'r gweithgaredd gofio bod canolfannau cymunedol hefyd yn weithleoedd a dylent fod yn ymwybodol o'u cyfrifoldebau fel cyflogwyr. Mae'r Llywodraeth yn glir nad oes rheidrwydd ar neb i weithio mewn gweithle anniogel. Mae’n ofynnol i bob gweithle a’r rheini sy’n gyfrifol am yr eiddo gymryd camau rhesymol i leihau'r risg o ddod i gysylltiad â’r feirws, a’r risg bod y rheini sydd wedi bod yn yr eiddo yn lledaenu’r coronafeirws

Mae ganddynt ddyletswydd gofal at wirfoddolwyr hefyd er mwyn sicrhau, cyn belled ag y bo'n rhesymol ymarferol, nad ydynt yn agored i risgiau i'w hiechyd a diogelwch a'u bod yn cael yr un lefel o ddiogelwch â gweithwyr cyflogedig a hunangyflogedig. Gweler gwybodaeth y Llywodraeth am wirfoddoli yn ystod pandemig y coronafeirws a sut i helpu'n ddiogel.

Egwyddorion craidd ar gyfer ailagor canolfannau cymunedol yn ddiogel

Mae canolfannau cymunedol yn cael eu defnyddio at amrywiaeth o ddibenion, a chyfeirir isod at y canllawiau perthnasol ar weithgareddau penodol a ganiateir. Er mwyn agor, mae egwyddorion cyffredinol y dylai pawb sy’n rheoli neu’n defnyddio mannau cymunedol eu dilyn.

Dylai unrhyw gynlluniau ailagor fod yn gyson â’r canlynol:

Mae gan unrhyw un sydd â rheolaeth dros eiddo annomestig (fel canolfan gymunedol, neuadd bentref neu neuadd gymuned) gyfrifoldebau cyfreithiol o dan y gyfraith iechyd a diogelwch, a rhaid iddynt gymryd mesurau rhesymol i sicrhau bod yr eiddo, y mynediad iddo, ac unrhyw gyfarpar neu sylweddau a ddarperir, yn ddiogel i bobl sy'n ei ddefnyddio, i'r graddau y mae hynny'n rhesymol ymarferol.

Er mwyn helpu i benderfynu pa gamau i'w cymryd cyn ailagor yr adeilad ar gyfer gweithgarwch a ganiateir, dylai perchennog/rheolwr yr adeilad gynnal asesiad risg COVID-19, gan ystyried y canllawiau craidd ar gadw pellter corfforol a'r pwyntiau a nodir isod. Bydd hyn yn ychwanegol at unrhyw asesiad risg cyffredinol sydd eisoes yn ei le ar gyfer y ganolfan gymunedol. Gweler y canllawiau ar gynnal asesiad risg.

O ran canolfannau cymunedol, y rhai sy'n gyfrifol am y safle neu am y gweithgarwch fydd yn gyfrifol am reoli’r risgiau sy'n deillio o'u gweithgareddau eu hunain pan fydd ganddynt reolaeth dros safleoedd, a dylent gynnal eu hasesiad risg eu hunain yn ogystal ag ystyried unrhyw ganllawiau sy'n berthnasol i'w gweithgaredd neu eu sector penodol.  Mae'n rhaid i drefnwyr gweithgareddau (os nad ydynt yn un o’r rhai sy’n gyfrifol am drefniadaeth y lleoliad) hefyd roi ystyriaeth i asesiadau risg a systemau rheoli COVID-19 y ganolfan wrth lunio eu hasesiadau risg eu hunain o weithgareddau.

Cadw pellter corfforol a chapasiti

Dylai mesurau fod ar waith i sicrhau bod holl ddefnyddwyr cyfleusterau cymunedol yn dilyn y canllawiau cyfredol ar gadw'n ddiogel a chadw pellter cymdeithasol. Mae pellter o 2 fetr wedi'i nodi fel y pellter corfforol mwyaf priodol, a dylid ei ddilyn lle bynnag y bo’n rhesymol i wneud hynny.  Mae canllawiau ar sut i helpu wrth gadw pellter corfforol ar gael. Derbynnir y gallai fod rhai amgylchiadau prin lle nad yw’n rhesymol cadw pellter o 2 fetr. Dan yr amgylchiadau hynny, rhaid i chi ystyried camau rhesymol eraill i leihau’r risg o ddod i gysylltiad âImage removed.’r coronafeirws drwy gymryd mesurau lliniaru priodol. Serch hynny, os gellir yn rhesymol gadw pellter o 2 fetr, mae dyletswydd arnoch i gymryd camau i wneud hynny.

Maint ac amgylchiadau'r safle fydd yn pennu uchafswm nifer y bobl a nifer y gweithgareddau y gellir eu cynnwys, gan hwyluso’r gallu i gadw pellter corfforol hefyd. Wrth ddiffinio nifer y bobl a all, yn rhesymol, ddilyn y canllawiau ar gadw 2 fetr ar wahân, dylid ystyried cyfanswm yr arwynebedd llawr yn ogystal â'r mannau cyfyng tebygol a'r mannau prysur (ee mynedfeydd, allanfeydd) a lle bo modd, llwybrau amgen neu lwybrau unffordd i atal pobl rhag ymgasglu mewn rhannau o’r adeilad sy’n cael llawer o ddefnydd.

Dylai asesiad risg bennu beth yw capasiti mwyaf y neuadd neu’r lle sy’n cael ei logi, gan lwyddo i gadw pellter corfforol yn unol â'r canllawiau perthnasol. Dylai hefyd nodi mannau risg uchel yn yr adeilad (megis mynedfeydd, mannau aros ac ati) a chamau lliniaru i fynd i'r afael â'r risgiau a nodwyd. Dylai'r rhai sy'n rheoli ac yn defnyddio'r ganolfan ystyried hefyd pa newidiadau y gellid bod angen eu gwneud i alluogi mynediad diogel i'r adeilad. Gallai’r rhain gynnwys:

  • Defnyddio nifer o bwyntiau mynediad ac ymadael: cyflwyno llif unffordd i mewn ac allan o'r safle, gyda marciau llawr neu arwyddion priodol. Dylai unrhyw newidiadau i fynedfeydd, allanfeydd a systemau ciwio ystyried yr angen i wneud addasiadau rhesymol ar gyfer y rhai sydd eu hangen, megis pobl anabl.
  • Rheoli amseroedd cyrraedd a gadael gwahanol grwpiau i leihau'r pwysau ar allanfeydd a mynedfeydd.
  • Rheoli ciwiau: dylai llif y grwpiau i mewn ac allan o'r safle gael ei reoli'n ofalus er mwyn lleihau'r risg o dagfeydd. Efallai y bydd angen cyflwyno system giwio gan gadw pellter corfforol.

Rhaid i chi barchu’r canllawiau i sicrhau eich bod yn cymryd pob mesur rhesymol i leihau'r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws yn y gweithle ac mewn safleoedd sydd ar agor i'r cyhoedd.

Glanhau’r adeilad a rheoli heintiau

Mae COVID-19 yn cael ei ledaenu’n bennaf rhwng pobl sydd mewn cysylltiad agos â'i gilydd a thrwy’r defnynnau a gynhyrchir pan fydd person heintiedig yn peswch neu'n tisian. Gall hefyd ledaenu drwy gysylltiad ag arwyneb neu wrthrych sydd â'r feirws arno.

Mae glanhau i safon briodol yn helpu i leihau lledaeniad COVID-19. Dylid sefydlu trefn lanhau yn seiliedig ar asesiad risg a’r defnydd a wneir o’r adeilad. Bydd angen glanhau'n fwy rheolaidd mewn mannau sy’n cael llawer o ddefnydd ac unrhyw beth a gyffyrddir yn aml, yn enwedig os yw'n cael ei gyffwrdd gan lawer o bobl. Gellir dod o hyd i ganllawiau ar lanhau i'r safon briodol ar wefan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn ogystal â'r canllawiau penodol hyn ar lanhau lleoliadau nad ydynt yn rhai gofal iechyd.

Os yw'r lleoliad yn cael ei ddefnyddio ar gyfer gweithgareddau penodol, ee gofal plant, bydd angen lefelau uwch o lanhau/rheoli heintiau. Dylai rheolwyr a gweithredwyr edrych ar y canllawiau perthnasol yn adran isod.

Hylendid dwylo a gorchuddion wyneb

Mae cynnal hylendid dwylo da yn bwysig. Dylai defnyddwyr y cyfleusterau allu cael gafael ar ddŵr a sebon i olchi eu dwylo am o leiaf 20 eiliad neu ddiheintydd dwylo, wrth fynd a dod i'r adeilad neu os ydynt mewn man cyhoeddus. Mae golchi dwylo yn arbennig o bwysig ar ôl peswch, tisian neu chwythu eich trwyn, cyn cyffwrdd ag unrhyw arwyneb. Mae dyletswydd statudol o dan reoliad 12 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020 i ddarparu gwybodaeth i’r rheini sy’n mynd mewn i eiddo, neu’n gweithio yno, ynghylch sut i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws, a bydd angen cynnwys gwybodaeth ar sut i reoli hylendid. Bydd eisiau i reolwyr ystyried:

  • arwyddion a phosteri er mwyn meithrin ymwybyddiaeth o dechneg golchi dwylo da, yr angen i olchi’ch dwylo’n amlach, osgoi cyffwrdd eich wyneb, peswch neu disian i hances a’i rhoi mewn bin yn ddiogel, neu beswch neu disian i’ch braich os nad oes hances ar gael, a golchi’ch dwylo’n syth wedyn.  
  • darparu diheintydd llaw mewn sawl lleoliad, megis derbynfeydd, yn ogystal ag mewn ystafelloedd ymolchi
  • darparu cyfleusterau sychu dwylo (tyweli papur neu sychwyr trydanol).  Ni ddylid rhannu tyweli na llieniau sychu llestri.

Mae'r dystiolaeth yn parhau i fod yn glir mai'r ffordd fwyaf effeithiol o ddiogelu eich hun ac eraill rhag haint yw dilyn y rheolau ar gadw pellter corfforol, osgoi cyffwrdd ag arwynebau a'ch wyneb, a golchi’ch dwylo'n rheolaidd.

Ni ddylid defnyddio gorchuddion wyneb yn lle’r mesurau hyn, ond mewn rhai amgylchiadau os yw’n anodd cadw 2 fetr i ffwrdd oddi wrth bobl eraill, ein cyngor yw defnyddio gorchuddion wyneb tair haen, nad ydynt yn rhai meddygol.

Mae rhagor o wybodaeth am orchuddion wyneb ar gael yma: Gorchuddion wyneb –cwestiynau cyffredin.

Mynychu canolfan gymunedol

Ni ddylai unrhyw un sydd â symptomau’r coronafeirws, gan gynnwys y rhai a restrir isod, fynd i ganolfan gymunedol ar unrhyw gyfrif.

  • peswch newydd, cyson
  • tymheredd uchel
  • colli’r gallu arferol i arogli neu flasu (anosmia) neu sylwi ar newid ynddynt

Dylai pobl sy'n hunanynysu oherwydd bod achos posibl neu achos wedi’i gadarnhau o’r coronafeirws (COVID-19) ar eu haelwyd neu eu haelwyd estynedig aros gartref a pheidio â mynd i ganolfan gymunedol. Ni ddylent fynd yno ychwaith os ydynt wedi bod mewn cysylltiad agos ag achos ac wedi cael eu cynghori i hunanynysu. Mae canllawiau ar hunanysu ar gael yma.

Y cyngor ar gyfer unigolion sy'n agored iawn i niwed ac a arferai warchod eu hunain neu unigolion sydd mewn grŵp 'mewn mwy o berygl' yw i ddilyn y canllawiau cadw pellter cymdeithasol yn gaeth. Fodd bynnag, gallant benderfynu, er mwyn eu lles, fynd i ganolfan gymunedol er gwaethaf y risg ychwanegol y mae hyn yn ei achosi iddynt. Yn yr achos hwn, dylen nhw ac unrhyw un sydd gyda nhw gadw’n gaeth at y canllawiau ar bellter corfforol.

Dylai'r rhai sy'n dymuno defnyddio canolfan gymunedol ystyried i ba raddau y mae angen iddynt deithio a sut y byddant yn teithio i’r adeilad ac oddi yno yn ddiogel. Dylai aelodau o'r un aelwyd deithio gyda'i gilydd. Dylid dilyn canllawiau Llywodraeth Cymru ar deithio’n ddiogel.

Os bydd unrhyw un yn mynd yn sâl gyda symptomau COVID-19 yn y ganolfan gymunedol, dylid eu hanfon adref a'u cynghori i ddilyn y canllawiau hunanynysu a gwneud cais am brawf coronafeirws.

Os oes angen cyngor clinigol arnynt, dylent droi at GIG 111 Cymru ar lein (neu ffonio 111 os nad oes ganddynt fynediad i'r rhyngrwyd). Mewn argyfwng, ffoniwch 999 os ydynt yn ddifrifol wael neu wedi'u hanafu neu os yw eu bywyd mewn perygl. Ni ddylent ymweld â meddygfa, fferyllfa, canolfan gofal brys nac ysbyty.

Dylai pobl eraill a allai fod wedi bod mewn cysylltiad â'r sawl sydd wedi mynd yn sâl olchi eu dwylo'n drylwyr ar ôl hyn, ond nid oes angen iddynt gymryd unrhyw gamau penodol eraill oni bai eu bod yn datblygu'r symptomau eu hunain. Os byddant yn datblygu symptomau dylent ddilyn y canllawiau hunanynysu a gwneud cais am brawf coronafeirws.

Dylid glanhau'r mannau a ddefnyddiwyd gan yr unigolion hyn yn drylwyr yn unol â’r canllawiau ar ddihalogi mewn lleoliadau nad ydynt yn rhai gofal iechyd.

Dan amgylchiadau pan fo plant ifanc yn cymysgu â’i gilydd, efallai na fydd yn ymarferol ceisio cadw pellter o 2 fetr o hyd (rhwng plant, neu hyd yn oed rhwng plant ac oedolion). Y rheswm am hyn yn rhannol yw oherwydd ei bod yn galetach i blant ifanc ddeall y cysyniad o gadw pellter corfforol, ac yn rhannol oherwydd bod yn rhaid cael cyswllt agos er mwyn rhoi’r gofal priodol iddynt.

I blant ifanc (oedran ysgol gynradd neu’n iau), nid yw mor hanfodol i geisio cadw pellter cadarn o 2 fetr rhyngddynt o hyd, nac ychwaith rhwng plant ac unrhyw oedolion y tu allan i’w haelwyd neu aelwyd estynedig. Mae astudiaethau wedi canfod bod plant ifanc yn llai tebygol o drosglwyddo’r feirws, boed hynny i blant eraill neu i oedolion, ac ymddengys nad yw plant yn dioddef cymaint ag oedolion o gael y feirws, yn y rhan fwyaf o achosion.

Serch hynny, mae plant ifanc yn dal yn gallu trosglwyddo’r feirws, a dylai rhieni plant ifanc ddefnyddio eu crebwyll, a gofalu yn arbennig eu bod yn annog plant i olchi eu dwylo a sicrhau eu bod yn osgoi dod i gysylltiad agos â phobl cymaint â phosibl.

Mae strategaeth Profi, Olrhain, Diogelu Llywodraeth Cymru yn amlinellu’r dull o fynd i'r afael â’r coronafeirws, drwy brofi pobl sydd â symptomau yn y gymuned, olrhain y rhai sydd wedi dod i gysylltiad agos â phobl sydd wedi profi'n bositif i’r coronafeirws a diogelu teulu, ffrindiau a’r gymuned drwy hunanynysu. Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020 yn gosod dyletswydd ar y rheini sy’n gyfrifol am y ganolfan i gasglu gwybodaeth gyswllt gan bob person yn yr eiddo, neu yn achos pobl o’r un aelwyd, wybodaeth gyswllt gan un ohonynt. Dylid cadw’r wybodaeth hon am 21 diwrnod er mwyn gallu ei rhoi i Weinidogion Cymru neu i swyddog iechyd cyhoeddus os byddant yn gofyn amdnai. Mae rhagor o wybodaeth ar gael am Profi, Olrhain, Diogelu ynghyd â chanllawiau ar gadw cofnodion ynghylch staff, cwsmeriaid ac ymwelwyr, a canllawiau ar gyfer ailagor canolfannau cymunedol yng
Nghymru
.

Toiledau

Dylai toiledau cludadwy a thoiledau y tu mewn i adeiladau gael eu cadw'n agored a'u rheoli'n ofalus i leihau'r risg o drosglwyddo COVID-19. Mae canllawiau ar gael ar sut i ddarparu toiledau diogel i'r cyhoedd eu defnyddio.

Teithio a pharcio

Caniateir i feysydd parcio fod yn agored a dylai rheolwyr adeiladau a chynghorau ystyried mesurau ymarferol , er enghraifft newid cynllun y maes parcio i helpu pobl i gadw pellter cymdeithasol. Penderfyniadau i’w gwneud yn lleol yw ailagor meysydd parcio neu beidio.

Mae canllawiau ar gadw pellter cymdeithasol yng nghyd-destun trafnidiaeth, parcio a'r amgylchedd cyhoeddus ar gael isod.

Gorfodi

Er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth gyda'r gofynion yn rheoliad 12, mae system orfodi benodol wedi cael ei chreu. Mae hyn yn golygu y gall swyddogion gorfodi o awdurdodau lleol ei gwneud yn ofynnol i fesurau penodol (a bennir) gael eu cymryd mewn perthynas ag eiddo, gan gynnwys cau’r eiddo os bydd angen.

Caiff y system orfodi ei hamlinellu yn Atodlenni 5 a 6 i’r Rheoliadau, ac mae’n seiliedig ar gyflwyno “Hysbysiad Gwella Mangre” neu “Hysbysiad Cau Mangre” neu’r ddau, gan ddibynnu ar yr amgylchiadau. Wrth wneud y penderfyniad i roi’r hysbysiadau hyn, rhaid i swyddog gorfodi ystyried a yw cymryd y mesur yn angenrheidiol ac yn ffordd gymesur o sicrhau cydymffurfiaeth.

Mae’r canllawiau canlynol wedi’u cyhoeddi i swyddogion gorfodi.

Hysbysiad Gwella Mangre

Caiff swyddog gorfodi gyflwyno “Hysbysiad Gwella Mangre” i’r person sy’n gyfrifol am yr eiddo os yw’r swyddog yn credu nad yw’r person yn cydymffurfio â’r rhwymedigaethau a osodir ar y person gan reoliad 12(2). Rhaid i’r hysbysiad nodi pa fesurau y mae’n rhaid eu cymryd er mwyn sicrhau bod y person yn cydymffurfio â’r rhwymedigaethau a osodir gan reoliad 12(2). Rhaid i’r hysbysiad nodi amserlen ar gyfer cydymffurfio (dim llai na 48 awr) a nodi’r hawl i apelio.

Hysbysiad Cau Mangre

Caiff swyddog gorfodi gyflwyno “Hysbysiad Cau Mangre” i’r person sy’n gyfrifol am yr eiddo y cyfeirir ato yn rheoliad 12(1), yn ei gwneud yn ofynnol i’r eiddo, neu ran o’r eiddo, gau am hyd at 336 o oriau (14 diwrnod) ar y tro.

Gellir cyflwyno hysbysiad cau ar ôl cyflwyno hysbysiad gwella mangre os yw’r swyddog yn credu bod y person wedi methu â chymryd y camau a nodir yn yr hysbysiad o fewn yr amser penodedig, a rhaid i’r hysbysiad cau nodi pa fesurau na lwyddwyd i’w cymryd os mai dyna’r achos. Pan nad yw Hysbysiad Gwella Mangre wedi cael ei gyflwyno, rhaid i’r Hysbysiad Cau Mangre amlinellu’r rhesymau pam bod y swyddog gorfodi yn credu bod y person cyfrifol yn methu â chydymffurfio â rheoliad 12(2).

Hysbysiadau ac Arwyddion

Pan fydd canolfan gymunedol wedi cael naill ai ‘Hysbysiad Gwella Mangre’ neu ‘Hysbysiad Cau Mangre’, rhaid arddangos y rhain mewn man amlwg ger pob mynedfa i’r fangre. Bydd y swyddogion gorfodi yn trefnu bod yr hysbysiad yn cael ei gyhoeddi ar wefan awdurdod lleol yr ardal lle mae’r fangre wedi’i lleoli.

Yn ogystal â’r hysbysiad, rhaid arddangos arwydd hefyd, ac mae’r Rheoliadau a’r canllawiau yn dangos sut i lunio’r arwydd hwnnw. Rhaid parhau i arddangos yr hysbysiad a’r arwydd, a pharhau i’w cyhoeddi cyhyd â’u bod mewn grym.

Gall y person sy’n derbyn Hysbysiad Gwella Mangre neu Hysbysiad Cau Mangre apelio yn erbyn yr hysbysiad i Lys Ynadon o fewn 7 diwrnod.

Gwasanaethau cyhoeddus a gwirfoddol mewn canolfannau cymunedol amlddefnydd: canllawiau perthnasol

Er mwyn deall pa weithgareddau a ganiateir, rhaid i’r rheini sy’n gyfrifol am y ganolfan ymgyfarwyddo â rheoliad 14 o Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020, a chydymffurfio ag ef. Mae rheoliad 14 yn rhoi manylion am y cyfyngiadau ar gynulliadau o dan do ac yn yr awyr agored, ynghyd â rhestr o esgusodion rhesymol dros ymgynnull, ond nid yw’r rhestr yn un hollgynhwysol.

Mae canolfannau cymunedol megis sefydliadau glowyr a neuaddau pentref yn cael eu defnyddio ar gyfer amrywiaeth eang o weithgareddau a gwasanaethau lleol – o ddarpariaeth gofal plant i glybiau cymdeithasol a chlybiau hamdden. Mae gwahanol weithgareddau yn amodol ar adolygiadau a chanllawiau penodol ynghylch pryd a sut y caniateir iddynt ailddechrau. Os yw safle yn darparu cymysgedd o wasanaethau, dim ond y gwasanaethau a ganiateir fydd ar gael.

Isod, ceir rhestr o’r gweithgareddau mwy perthnasol a ganiateir, ynghyd â dolenni i ganllawiau penodol ar gyfer y gweithgareddau hynny y mae angen i chi eu hystyried.

Os bydd y cyfyngiadau symud yn llacio neu’n cynyddu, bydd rheoliadau a chanllawiau yn newid i alluogi gweithgareddau newydd gael eu cynnal, neu os ceir nifer o achosion ar lefel leol, i atal rhai gweithgareddau penodol dros dro. Dylech sicrhau bod gennych yr wybodaeth ddiweddaraf bob tro.

Os ydych yn rhan o sefydliad cenedlaethol, mae’n bosibl bod y sefydliad wedi llunio canllawiau penodol fel bod modd i chi ddefnyddio cyfleusterau wedi’u llogi yn ddiogel. Fodd bynnag, dylid defnyddio’r rhain ar y cyd â’r canllawiau hyn, nid yn eu lle.

Cymorth ychwanegol

Rhannu’r dudalen hon