Neidio i'r prif gynnwy

Canlyniad yw rhywbeth y byddwch chi’n ei wneud ar ôl i’ch plentyn ymddwyn mewn ffordd benodol. Mae canlyniadau positif a negyddol. Ceisiwch roi canlyniadau positif ar gyfer ymddygiad positif eich plentyn yn amlach nag y byddwch yn rhoi canlyniadau negyddol am ymddygiad digroeso.

Ceisiwch addasu canlyniadau yn ôl anghenion a galluoedd eich plentyn. Dewiswch ganlyniadau sy’n cyfateb i oedran a dealltwriaeth eich plentyn a’u gwneud yn deg a rhesymol.

Enghreifftiau o ganlyniadau:

  • Os yw’ch plentyn yn rhannu ei degan - cofiwch ei ganmol.
  • Os yw’ch plentyn yn mynd i’r gwely’n ddiffwdan – darllenwch stori arall iddo.
  • Os yw’ch plentyn yn taflu tywod – mae’n gorfod cael hoe o’r pwll tywod am funud neu ddau.
  • Os yw plant yn ymladd dros degan, mae’r tegan yn cael ei osod ar y silff am 10 munud.
  • Os yw’ch plentyn yn dwyn tegan gan blentyn arall – dylai adael y man chwarae am 5 munud.
  • Os yw’ch plentyn yn gwrthod gwisgo – eglurwch na fydd yn gallu gwneud yr hyn roeddech wedi’i gynllunio ar gyfer y diwrnod, dim ond aros yn y tŷ.
  • Os yw’ch plentyn yn dadlau gyda phlant eraill – dylai adael y man chwarae am 5 munud i eistedd a meddwl.

Y peth gorau i’w wneud bob tro yw ceisio canolbwyntio mwy ar ganmol a rhoi sylw i’ch plentyn am ymddwyn mewn ffyrdd rydych chi’n eu hoffi. Fel arfer, mae hyn yn arwain at lai o ganlyniadau negyddol.

Cyngor ar wneud canlyniadau’n fwy effeithiol

  • Gwnewch gysylltiad rhwng ymddygiad da a gweithgarwch pleserus neu ganmoliaeth - “Da iawn am gadw dy deganau - nawr beth am ddarllen llyfr gyda’n gilydd”
  • Os ydych chi’n defnyddio canlyniadau yn yr un ffordd ac am yr un ymddygiad bob tro, bydd eich plentyn yn gwybod beth i’w ddisgwyl. Fe all fod yn werth i chi feddwl am ganlyniadau ymlaen llaw, cyn i’r ymddygiad ddigwydd, yn hytrach na cheisio ei wneud pan fyddwch chi wedi’ch cynhyrfu. Mae’n helpu’ch plentyn i ddysgu o’r canlyniad os yw’n ymwneud yn rhesymegol â’r ymddygiad, er enghraifft cadw tegan o’r neilltu os yw’n cael ei daflu.
  • Os ydych chi’n cadw’r canlyniadau’n syml a chryno, bydd eich plentyn yn gallu rhoi cynnig arall ar ymddwyn fel rydych chi’n ei hoffi.
  • Dyw plant bach ddim yn gallu canolbwyntio am lawer. Mae’n well syniad rhoi canlyniadau’n syth ar ôl yr ymddygiad er mwyn gofalu bod eich plentyn yn cofio beth oedd wedi’i wneud yr oeddech chi’n ei hoffi neu ddim yn ei hoffi.
  • Wrth i’ch plentyn dyfu’n hŷn, gallwch egluro beth fydd y canlyniadau. “Mi wnawn ni adael y parc os wyt ti’n dwyn pethau’n gas gan blant eraill”.
  • Gallai plant hŷn elwa ar wybod pam y maent wedi cael eu tynnu o sefyllfa a pha mor hir y bydd y canlyniad – plygwch i lawr er mwyn gallu edrych i lygaid eich plentyn ac eglurwch yn dawel beth sydd wedi digwydd a pha mor hir y dylai aros nes ei fod yn gallu ailymuno â gweithgaredd. Gallai amserydd digidol neu amserydd wy fod yn ddefnyddiol.
  • Gallech roi cynnig ar dynnu eich plentyn o weithgaredd a’i symud i fan penodol yn eich cartref lle caiff amser i feddwl a myfyrio. Gofalwch fod y man hwnnw’n gwbl ddiogel.  
  • Gofalwch eich bod yn cadw at eich gair neu bydd eich plentyn yn cofio nad ydych chi’n meddwl beth rydych chi’n ei ddweud.
  • Cofiwch osgoi defnyddio canlyniad ar ôl gwylltio. Mae’n helpu os ydych chi’n defnyddio canlyniadau yn bwyllog ac mewn llais niwtral, digyffro. Mae gweiddi a tharo yn gallu arwain at frwydr fawr.

Ceisiwch beidio â gwneud pethau’n bersonol – defnyddiwch ganlyniadau fel ymateb i ymddygiad eich plentyn, ac nid fel ymateb i’ch plentyn.