Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r adroddiad hwn yn edrych ar fynediad aelwydydd at y rhyngrwyd, defnydd personol o'r rhyngrwyd, dyfeisiau a ddefnyddir i gyrraedd at y rhyngrwyd; a gwefannau gwasanaethau cyhoeddus.

Canfyddiadau allweddol

  • Dywedodd 73% o aelwydydd Cymru eu bod yn defnyddio’r rhyngrwyd. Mae hyn yn cyfateb i tua 79% o bobl 18 oed ac yn hŷn â mynediad at y rhyngrwyd.
  • Roedd 96% o'r aelwydydd â dau oedolyn a phlant wedi defnyddio'r rhyngrwyd.
  • Aelwydydd pensiynwr sengl oedd y lleiaf tebygol o fod wedi defnyddio'r rhyngrwyd (33%).
  • Roedd tua thri chwarter yr aelwydydd mewn llety rhent preifat (75%) a chyfran debyg o aelwydydd perchen-feddiannydd (76%) yn defnyddio'r rhyngrwyd, o gymharu ag ychydig dros hanner y rhai mewn tai cymdeithasol (54%).
  • Dywedodd 76% o'r ymatebwyr eu bod wedi defnyddio'r rhyngrwyd yn bersonol yn y cartref, yn y gwaith neu yn rhywle arall; roedd hyn yn amrywio yn ôl nodweddion fel rhyw, iechyd a chymwysterau.
  • Roedd 67% o bobl ifanc rhwng 18 a 24 oed yn defnyddio'r rhyngrwyd ar ffôn symudol neu ffôn clyfar.
  • O'r rhai sy'n defnyddio'r rhyngrwyd, roedd 81% wedi defnyddio gwefannau'r llywodraeth neu wasanaethau cyhoeddus eraill o fewn y 12 mis diwethaf.
  • Dywedodd 20% o bobl 18 oed ac yn hŷn nad oeddent wedi defnyddio'r rhyngrwyd erioed. O'r rhain, dywedodd y mwyafrif nad oeddent eisiau neu nad oeddent angen defnyddio'r rhyngrwyd. Fodd bynnag, dywedodd 27% mai diffyg sgiliau oedd y rheswm.

Adroddiadau

Defnydd o'r rhyngrwyd (Arolwg Cenedlaethol Cymru) Ebrill 2012 i Mawrth 2013 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 441 KB

PDF
Saesneg yn unig
441 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.