Defnydd o'r Gymraeg yn y gweithle (Arolwg Defnydd Iaith): Gorffennaf 2019 i Fawrth 2020
Mae'r dadansoddiad hwn yn adrodd ar y defnydd o'r Gymraeg ac agweddau tuag at yr iaith yn y gweithle.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Rhagarweiniad
Mae'r dadansoddiad hwn yn adrodd ar y defnydd o'r Gymraeg ac agweddau tuag at yr iaith yn y gweithle. Mae hefyd yn adrodd ar farn pobl am argaeledd technolegau a chyfleoedd hyfforddi i gynorthwyo'r defnydd o'r Gymraeg yn y gwaith.
Mae'r canfyddiadau yn y bwletin ystadegol hwn yn seiliedig ar ddata Arolwg Defnydd Iaith 2019-20. Daeth yr arolwg i ben yn gynharach nag a gynlluniwyd ym mis Mawrth 2020, yn sgil pandemig y coronafeirws (COVID-19). Felly, nid yw’r arolwg hwn yn cynnwys sut y gallai newidiadau i drefniadau gweithio yn ystod y pandemig, a mabwysiadu trefniadau gweithio hybrid ar ôl y pandemig, fod wedi effeithio ar ddefnydd pobl o'r Gymraeg yn y gweithle. Mae mwy o wybodaeth am fethodoleg yr arolwg, a chyfyngiadau canlyniadol y data, ar gael yn yr adran gwybodaeth am ansawdd a methodoleg.
Rydym eisoes wedi cyhoeddi canfyddiadau cychwynnol a chrynodebau pwnc am y defnydd o’r Gymraeg yn y cartref ac mewn addysg a’r Defnydd cymdeithasol o’r Gymraeg. Rydym yn bwriadu cyhoeddi’r canlyniadau sy’n weddill am y defnydd o’r Gymraeg mewn perthynas â gwasanaethau mewn bwletin ystadegol ar wahân. Byddwn yn cyfuno data o Arolwg Cenedlaethol Cymru 2019-20, lle bo'n berthnasol.
Er i rai o’r cwestiynau gael eu gofyn i bobl ifanc 3 i 15 oed yn yr Arolwg Defnydd Iaith, dim ond i oedolion 16 oed neu'n hŷn a oedd yn gweithio y gofynnwyd cwestiynau am eu defnydd o'r Gymraeg yn y gweithle.
Oni nodir yn wahanol, daw'r holl ddata yn y bwletin ystadegol hwn o Arolwg Defnydd Iaith 2019-20.
Prif bwyntiau
Defnydd o’r Gymraeg yn y gweithle
- Roedd dros hanner nifer y siaradwyr Cymraeg 16 oed neu'n hŷn yn y gwaith yn dweud eu bod yn siarad Cymraeg â'u cydweithwyr o leiaf weithiau. Roedd ychydig o dan 1 o bob 5 bob amser yn siarad Cymraeg â chydweithwyr.
- Ymhlith siaradwyr Cymraeg yn y gwaith, roedd 58% yn dweud eu bod yn darllen yn Gymraeg yn y gwaith o leiaf weithiau (ac 13% yn gwneud hynny bob amser).
- Ymhlith siaradwyr Cymraeg yn y gwaith, roedd 48% yn dweud eu bod yn ysgrifennu yn Gymraeg yn y gwaith o leiaf weithiau (a 12% yn gwneud hynny bob amser).
- Mae siaradwyr Cymraeg rhugl ychydig yn llai tebygol o ddefnyddio eu sgiliau ysgrifennu na'u sgiliau darllen yn y gweithle, gyda 76% yn darllen yn Gymraeg o leiaf weithiau a 72% yn ysgrifennu yn Gymraeg o leiaf weithiau. Mae gwahaniaeth mwy yn y defnydd o'r ddwy sgil hyn ar gyfer siaradwyr nad ydynt yn rhugl, gyda 42% yn darllen yn Gymraeg o leiaf weithiau, a 27% yn ysgrifennu yn Gymraeg o leiaf weithiau.
Technolegau ar gyfer y Gymraeg yn y gweithle
- O'r holl siaradwyr Cymraeg 16 oed neu'n hŷn yn y gwaith, roedd 28% yn dweud bod gwiriwr sillafu / gramadeg y Gymraeg ar gael iddynt ei ddefnyddio, roedd gan 33% offer cyfieithu i'r Gymraeg ar gael iddynt, ac roedd 18% yn dweud bod rhyngwyneb Cymraeg ar gael iddynt yn eu gweithle.
- Roedd y rhai sy'n gweithio yn y sector cyhoeddus fwy na dwywaith yn fwy tebygol o adrodd bod pob un o'r tair technoleg y gofynnwyd amdanynt ar gael iddynt, o’u cymharu â’u cymheiriaid yn y sector preifat.
Hyfforddiant Cymraeg yn y gweithle
- Roedd traean (33%) o siaradwyr Cymraeg yn y gwaith yn dweud bod eu cyflogwr yn cynnig hyfforddiant neu gymorth i wella eu Cymraeg, tra bo 38% yn dweud nad oedd hyn yn digwydd yn eu gweithle (dywedodd 30% nad oeddent yn gwybod).
- Roedd chwarter (25%) o siaradwyr Cymraeg yn y gwaith yn dweud bod eu cyflogwr yn cynnig hyfforddiant neu gymorth i ddatblygu sgiliau penodol yn y Gymraeg, fel ateb y ffôn neu gyfieithu, tra bo 42% yn dweud nad oedd hyn yn digwydd yn eu gweithle (dywedodd 33% nad oeddent yn gwybod).
Agweddau at y Gymraeg yn y gweithle
- Roedd dros ddwy ran o dair (69%) o siaradwyr Cymraeg 16 oed neu'n hŷn sy’n gweithio ond nad ydynt yn hunangyflogedig yn credu bod eu cyflogwr yn gefnogol i'r defnydd o'r Gymraeg yn y rhan fwyaf o agweddau ffurfiol ac anffurfiol ar y busnes. Mae 13% o'r farn bod eu cyflogwr yn gefnogol i'r defnydd o'r Gymraeg mewn agweddau anffurfiol ond nid mewn agweddau ffurfiol ar y busnes tra bod 8% yn ystyried nad ydy eu cyflogwr yn gefnogol i'r defnydd o'r Gymraeg mewn unrhyw agwedd ar y busnes.
- O'r rhai fynegodd farn, roedd ychydig llai na hanner (46%) o siaradwyr Cymraeg yn credu bod pob un neu bron pob un o’u cydweithwyr yn gefnogol i'r Gymraeg, ac roedd mwy na thri chwarter (76%) yn ystyried bod y rhan fwyaf neu bob un o'u cydweithwyr yn gefnogol.
- O'r rhai fynegodd farn, er bod 84% o siaradwyr Cymraeg a ddisgrifiodd eu hunain yn rhugl yn ystyried bod y rhan fwyaf neu bob un o'u cydweithwyr yn gefnogol i'r Gymraeg, roedd llai na dau draean y siaradwyr Cymraeg nad oeddent wedi disgrifio’u hunain yn rhugl yn meddwl yr un peth (66%).
Defnydd o’r Gymraeg yn y gweithle
Siarad Cymraeg yn y gweithle
Gofynnwyd i ymatebwyr yr arolwg pa mor aml roeddent yn siarad Cymraeg gyda chydweithwyr, waeth faint o'u cydweithwyr sy'n gallu siarad Cymraeg.
Roedd dros hanner nifer y siaradwyr Cymraeg yn y gwaith wedi adrodd eu bod yn siarad Cymraeg â'u cydweithwyr o leiaf weithiau. Roedd ychydig o dan un o bob pump bob amser yn siarad Cymraeg â chydweithwyr.
Am y tro cyntaf, roedd yr Arolwg Defnydd Iaith yn gofyn i ymatebwyr am eu defnydd o'r Gymraeg â chydweithwyr wrth siarad am faterion sy’n ymwneud â gwaith (iaith gwaith) ac wrth siarad am bethau nad ydynt yn ymwneud â gwaith (iaith yn y gwaith) ar wahân. Wrth ystyried y ddau gyd-destun hyn, mae'r patrwm fwy neu lai yr un peth.
O ran materion sy’n ymwneud â gwaith:
- roedd 19% o siaradwyr Cymraeg yn siarad Cymraeg â chydweithwyr bob amser
- roedd 11% o siaradwyr Cymraeg yn siarad Cymraeg â chydweithwyr fel arfer, ond nid bob amser
- roedd 21% o siaradwyr Cymraeg yn siarad Cymraeg â chydweithwyr weithiau
- nid oedd 45% o siaradwyr Cymraeg yn siarad Cymraeg â chydweithwyr (mae hyn o bosib yn cynnwys y rhai nad oes ganddynt unrhyw gydweithwyr sy'n gallu siarad Cymraeg)
Mewn sgyrsiau anffurfiol am bethau nad ydynt yn ymwneud â gwaith:
- roedd 18% o siaradwyr Cymraeg yn siarad Cymraeg â chydweithwyr bob amser
- roedd 13% o siaradwyr Cymraeg yn siarad Cymraeg â chydweithwyr fel arfer, ond nid bob amser
- roedd 23% o siaradwyr Cymraeg yn siarad Cymraeg â chydweithwyr weithiau
- nid oedd 42% o siaradwyr Cymraeg yn siarad Cymraeg â chydweithwyr (mae hyn o bosib yn cynnwys y rhai nad oes ganddynt unrhyw gydweithwyr sy'n gallu siarad Cymraeg)
Roedd cyfran fach o ymatebwyr yr arolwg wedi nodi nad oedd y cwestiwn hwn yn berthnasol iddynt, sy'n debygol o gynnwys unigolion hunangyflogedig sy’n gweithio ar eu liwt eu hunain.
Ffigur 1: Canran y siaradwyr Cymraeg sy’n siarad Cymraeg yn y gwaith, Gorffennaf 2019 i Fawrth 2020
Disgrifiad o Ffigur 1: Mae’r siart bar lorweddol hon yn dangos bod mwy na hanner nifer y siaradwyr Cymraeg yn siarad Cymraeg yn eu gweithle o leiaf weithiau.
Mae siaradwyr Cymraeg yn fwy tebygol o siarad Cymraeg â chwsmeriaid neu bobl o’r tu allan i'w cwmni neu sefydliad (59%) na chydweithwyr. Fodd bynnag, mae'r rhai sy'n siarad Cymraeg â chydweithwyr yn fwy tebygol o wneud hynny bob amser. Er bod ychydig llai na un o bob pump siaradwr Cymraeg yn siarad Cymraeg â chydweithwyr bob amser, 12% sy'n siarad Cymraeg â chwsmeriaid neu bobl o’r tu allan i'w cwmni neu sefydliad bob amser.
Mae siaradwyr Cymraeg yn llawer llai tebygol o siarad Cymraeg â chwsmeriaid neu bobl o’r tu allan i'w sefydliad os ydynt yn dweud nad yw eu cyflogwr yn gefnogol i'r defnydd o'r Gymraeg. Ymhlith y rhai sydd ddim yn hunangyflogedig a sy'n credu bod eu cyflogwr yn gefnogol i'r defnydd o'r Gymraeg mewn perthynas ag agweddau ffurfiol ac anffurfiol o'r busnes, mae 74% yn defnyddio'r Gymraeg o leiaf weithiau wrth sgwrsio â chwsmeriaid neu â phobl o’r tu allan i'w sefydliad. Mewn gweithleoedd lle mae siaradwyr Cymraeg yn gweld nad yw eu cyflogwr yn gefnogol i'r defnydd o'r Gymraeg mewn materion busnes ffurfiol nac anffurfiol, ychydig mwy na dau o bob pump (40%) sydd yn defnyddio unrhyw Gymraeg wrth siarad â chwsmeriaid neu â phobl o’r tu allan i'w sefydliad.
Mae'n debygol bod defnydd siaradwyr Cymraeg o’r iaith â chydweithwyr Cymraeg yn dibynnu ar gyfran y cydweithwyr sy’n siarad Cymraeg yn y gweithle.
Mewn gweithleoedd lle mae mwy o gydweithwyr sy’n gallu siarad Cymraeg nag sy'n methu siarad yr iaith, mae 88% yn dweud eu bod yn siarad yr iaith wrth sgwrsio â chydweithwyr Cymraeg am faterion sy'n gysylltiedig â gwaith o leiaf weithiau. Mewn gweithleoedd lle mae mwy o gydweithwyr sydd methu siarad Cymraeg nag sy’n gallu siarad Cymraeg, mae 40% yn dweud eu bod yn siarad yr iaith wrth sgwrsio â chydweithwyr Cymraeg am faterion sy'n gysylltiedig â gwaith o leiaf weithiau.
Ffigur 2: Canran y siaradwyr Cymraeg sy'n siarad Cymraeg yn y gwaith o leiaf weithiau yn ôl faint o'u cydweithwyr sy'n gallu siarad Cymraeg, Gorffennaf 2019 i Fawrth 2020
Disgrifiad o Ffigur 2: Mae'r pâr hwn o siartiau bar yn dangos bod siaradwyr Cymraeg sy'n gweithio mewn gweithleoedd lle mae cyfran lai o gydweithwyr yn gallu siarad Cymraeg, yn llai tebygol o siarad yr iaith (hyd yn oed â chydweithwyr sy'n siarad Cymraeg) na'r rhai sy'n gweithio mewn gweithleoedd lle mae cyfran fwy o gydweithwyr yn gallu siarad Cymraeg.
Mae cryn amrywiaeth rhanbarthol hefyd yn y defnydd o'r Gymraeg yn y gwaith. Gan fod yr arolwg wedi dod i ben yn gynharach na'r disgwyl oherwydd pandemig COVID-19, nid yw'r sampl bob amser yn ddigon mawr i ddarparu dadansoddiad o ganlyniadau yn ôl awdurdod lleol, fel sydd wedi digwydd mewn arolygon blaenorol. Felly, mae canlyniadau ar gael yn ôl rhanbarth yn y bwletin ystadegol hwn. Ceir rhagor o fanylion am y rhanbarthau daearyddol a ddefnyddir a'u hawdurdodau lleol cyfansoddol yn yr adran gwybodaeth am ansawdd a methodoleg.
Ar draws y tair senario a ddarparwyd (siarad Cymraeg â chydweithwyr am faterion sy’n ymwneud â gwaith, am bethau nad ydynt yn gysylltiedig â gwaith, a siarad â chwsmeriaid), siaradwyr Cymraeg yng ngogledd-orllewin Cymru oedd y mwyaf tebygol o siarad Cymraeg o leiaf weithiau (76%, 79% ac 84% yn y drefn honno).
Siaradwyr Cymraeg yn ne-ddwyrain Cymru oedd y lleiaf tebygol o siarad Cymraeg o leiaf weithiau ar draws y tair senario (32%, 36% a 32% yn y drefn honno).
Ffigur 3: Canran y siaradwyr Cymraeg sy'n siarad Cymraeg yn y gwaith o leiaf weithiau yn ôl rhanbarth, Gorffennaf 2019 i Fawrth 2020
Disgrifiad o Ffigur 3: Mae'r mapiau hyn yn dangos bod y Gymraeg yn cael ei siarad mwy yn y gweithle yn y gogledd-orllewin, ac wedyn yn y de-orllewin, ac yna yng nghanolbarth Cymru.
Mae oedolion hŷn sy’n gallu siarad Cymraeg yn fwy tebygol o ddefnyddio'r Gymraeg yn eu gweithle na siaradwyr Cymraeg iau. Ymhlith y boblogaeth 16 i 29 oed yn y gwaith, roedd ychydig o dan hanner (49%) yn defnyddio'r Gymraeg o leiaf weithiau wrth siarad â chydweithwyr am faterion yn ymwneud â gwaith, ac roedd 16% yn defnyddio'r Gymraeg bob amser.
Mewn cyferbyniad â hynny, ymhlith y boblogaeth 65 oed neu'n hŷn sy'n gallu siarad Cymraeg yn y gwaith, roedd 61% yn siarad Cymraeg â chydweithwyr o leiaf weithiau, a 32% yn defnyddio'r Gymraeg bob amser.
Ffigur 4: Canran y siaradwyr Cymraeg sy'n siarad Cymraeg yn y gwaith yn ôl grŵp oedran, Gorffennaf 2019 i Fawrth 2020
Disgrifiad o Ffigur 4: Mae'r set hon o siartiau bar fertigol yn dangos bod oedolion hŷn sy'n siarad Cymraeg yn fwy tebygol o siarad Cymraeg o leiaf weithiau yn eu gweithle. Mae hyn yn arbennig o wir o ran siarad â chydweithwyr am faterion sy’n ymwneud â gwaith, a siarad â chwsmeriaid neu â phobl o’r tu allan i'w sefydliad.
Pan ofynnwyd iddynt a oeddent wedi cael cynnig rhywbeth fel bathodyn gan eu cyflogwr i ddangos eu bod yn gallu siarad Cymraeg, dywedodd 29% eu bod wedi, tra bo 71% wedi dweud nad oeddent wedi cael cynnig rhywbeth. Mae'r ganran yn cynyddu i 36% ymhlith siaradwyr Cymraeg rhugl (o'i gymharu â 22% ymhlith siaradwyr nad ydynt yn rhugl).
Mae siaradwyr Cymraeg sy'n gweithio i gyflogwyr yn y sector cyhoeddus yn llawer mwy tebygol o fod wedi cael cynnig rhywbeth i'w wisgo i ddangos eu bod yn gallu siarad Cymraeg na'r rhai yn y sector preifat.
Ffigur 5: Canran y siaradwyr Cymraeg y mae eu cyflogwr wedi cynnig rhywbeth i'w wisgo iddynt ddangos eu bod yn gallu siarad Cymraeg, Gorffennaf 2019 i Fawrth 2020
Disgrifiad o Ffigur 5: Mae'r set hon o siartiau toesen yn dangos bod 44% o weithwyr Cymraeg y sector cyhoeddus wedi cael cynnig rhywbeth i'w wisgo i ddangos eu bod yn gallu siarad Cymraeg. Mae honno’n gyfran uwch na'r gyfran yn y sector preifat (13%) a'r sector gwirfoddol / trydydd sector (26%).
Darllen ac ysgrifennu yn Gymraeg yn y gweithle
Pan ofynnwyd i oedolion 16 oed neu'n hŷn sy'n siarad Cymraeg a ydynt yn darllen unrhyw beth yn Gymraeg yn y gwaith:
- dywedodd 13% eu bod bob amser yn darllen yn Gymraeg
- dywedodd 10% eu bod fel arfer, ond nid bob amser, yn darllen yn Gymraeg
- dywedodd 36% eu bod yn darllen yn Gymraeg weithiau
- dywedodd 39% nad ydynt byth yn darllen yn Gymraeg (nododd 2% arall nad oedd y cwestiwn yn berthnasol).
Mae sgiliau ysgrifennu Cymraeg yn llai tebyg o gael eu defnyddio yn y gweithle na sgiliau darllen Cymraeg. Er hynny, roedd siaradwyr Cymraeg sy'n ysgrifennu yn Gymraeg yn tueddu i wneud hynny'n fwy rheolaidd na siaradwyr Cymraeg sy'n darllen yn Gymraeg. Pan ofynnwyd iddynt a ydynt yn ysgrifennu unrhyw beth yn Gymraeg yn y gwaith:
- dywedodd 12% eu bod bob amser yn ysgrifennu yn Gymraeg
- dywedodd 9% eu bod fel arfer, ond nid bob amser, yn ysgrifennu yn Gymraeg
- dywedodd 28% eu bod yn ysgrifennu yn Gymraeg weithiau
- dywedodd 50% nad ydynt byth yn ysgrifennu yn Gymraeg (nododd 2% arall nad oedd y cwestiwn yn berthnasol).
Mae siaradwyr Cymraeg rhugl ychydig yn llai tebygol o ddefnyddio eu sgiliau ysgrifennu na'u sgiliau darllen yn y gweithle – dywedodd 76% eu bod yn darllen yn Gymraeg o leiaf weithiau, a 72% yn ysgrifennu yn Gymraeg o leiaf weithiau. Mae mwy o wahaniaeth yn y defnydd o'r ddwy sgil ar gyfer siaradwyr nad ydynt yn rhugl – dywedodd 42% eu bod yn darllen yn Gymraeg o leiaf weithiau, a 27% yn ysgrifennu yn Gymraeg o leiaf weithiau.
Ffigur 6: Canran y siaradwyr Cymraeg sy'n darllen ac yn ysgrifennu yn Gymraeg yn eu gweithle o leiaf weithiau yn ôl rhuglder, Gorffennaf 2019 i Fawrth 2020
Disgrifiad o Ffigur 6: Mae'r siart far wedi'i grwpio hon yn dangos er bod siaradwyr Cymraeg rhugl a’r rheini nad ydynt yn rhugl yn llai tebygol o ysgrifennu yn Gymraeg na darllen yn Gymraeg yn y gweithle, mae hyn yn enwedig yn wir ar gyfer siaradwyr Cymraeg nad ydynt yn rhugl.
Ymhlith siaradwyr Cymraeg y mae eu swydd-ddisgrifiad neu fanyleb eu swydd yn rhestru'r Gymraeg fel sgil hanfodol, y canrannau sy'n darllen ac yn ysgrifennu yn Gymraeg yn y gwaith yw 96% a 92% yn y drefn honno. Mae dros hanner y siaradwyr Cymraeg hynny’n dweud eu bod bob amser yn darllen ac yn ysgrifennu yn Gymraeg yn y gwaith.
I'r rheini y mae eu swydd-disgrifiad yn rhestru'r Gymraeg fel sgil ddymunol, y canrannau sy'n defnyddio eu sgiliau darllen ac ysgrifennu Cymraeg yn y gwaith yw 77% a 63% yn y drefn honno.
Mae siaradwyr Cymraeg yn llawer llai tebygol o wneud unrhyw waith darllen neu ysgrifennu yn Gymraeg mewn swyddi lle nad yw sgiliau Cymraeg yn hanfodol neu'n ddymunol. Fodd bynnag, hyd yn oed ymhlith y grŵp hwn, mae 35% yn dal i ddarllen a 26% yn dal i ysgrifennu yn Gymraeg yn y gwaith o leiaf weithiau.
Ffigur 7: Canran y siaradwyr Cymraeg sy'n darllen ac yn ysgrifennu yn Gymraeg yn eu gweithle yn ôl a yw'r gallu i ddefnyddio'r Gymraeg wedi'i restru yn eu swydd-ddisgrifiad neu fanyleb eu swydd, Gorffennaf 2019 i Fawrth 2020
Disgrifiad o Ffigur 7: Mae'r pâr hwn o siartiau bar fertigol yn dangos bod sgiliau darllen ac ysgrifennu Cymraeg yn cael eu defnyddio'n amlach mewn swyddi lle mae sgiliau Cymraeg wedi'u rhestru fel rhai hanfodol. Mae'r sgiliau hyn hefyd yn cael eu defnyddio'n fwy cyffredin yn y swyddi hyn. Fodd bynnag, mae dros draean o'r siaradwyr Cymraeg mewn swyddi lle nad yw'r Gymraeg wedi'i rhestru yn ddymunol neu'n hanfodol yn darllen rhywfaint o'r Gymraeg yn y gwaith, ac mae mwy na chwarter yn ysgrifennu yn Gymraeg o leiaf weithiau.
Technolegau ar gyfer y Gymraeg yn y gweithle
Roedd Arolwg Defnydd Iaith 2019-20 yn holi ymatebwyr am y technolegau ar gyfer y Gymraeg a oedd ar gael iddynt i’w cynorthwyo yn y gwaith. Roedd hynny’n cynnwys a oedd gwiriwr sillafu / gramadeg y Gymraeg, offer cyfieithu i’r Gymraeg, rhyngwyneb Cymraeg (er enghraifft dewislen Microsoft Office / Windows yn Gymraeg) ar gael i weithwyr eu defnyddio.
Nododd cyfran sylweddol o'r ymatebwyr nad oeddent yn gwybod a oedd y technolegau hyn ar gael, neu nad oeddent yn defnyddio cyfrifiadur yn y gwaith. Mae’r ymatebion hynny wedi’u cynnwys fel rhan o’r data yr adroddwyd amdanynt yn yr adran hon.
Ffigur 8: Canran y siaradwyr Cymraeg a ddywedodd fod technolegau ar gyfer y Gymraeg ar gael iddynt i’w defnyddio yn eu gweithle, Gorffennaf 2019 i Fawrth 2020
Disgrifiad o Ffigur 8: Mae'r siart far fertigol hon yn dangos mewn perthynas â’r tair technoleg y gofynnwyd amdanynt, mai offer cyfieithu i’r Gymraeg yw’r dechnoleg y mae’r nifer mwyaf o siaradwyr Cymraeg o’r farn ei bod ar gael iddynt ei defnyddio yn y gweithle.
O'r holl siaradwyr Cymraeg 16 oed neu’n hŷn yn y gwaith:
- dywedodd 28% fod gwiriwr sillafu / gramadeg y Gymraeg ar gael iddynt yn y gwaith (dywedodd 44% nad oedd y dechnoleg hon ar gael iddynt)
- dywedodd 33% fod offer cyfieithu i’r Gymraeg ar gael iddynt yn y gwaith (dywedodd 39% nad oedd y dechnoleg hon ar gael iddynt)
- dywedodd 18% fod rhyngwyneb Cymraeg ar gael iddynt yn y gwaith (dywedodd 51% nad oedd y dechnoleg hon ar gael iddynt)
Yn ôl yr ymatebwyr, mae pob un o'r technolegau hyn yn fwy tebygol o fod ar gael i siaradwyr Cymraeg sy'n gweithio yn y sector cyhoeddus nag i’r rheini yn y sector preifat. Mae bron hanner (47%) nifer y siaradwyr Cymraeg sy'n gweithio yn y sector cyhoeddus yn dweud bod offer cyfieithu i’r Gymraeg ar gael iddynt yn y gwaith, o'i gymharu ag 20% yn y sector preifat.
Ffigur 9: Canran y siaradwyr Cymraeg y mae technolegau ar gyfer y Gymraeg ar gael iddynt yn eu gweithle yn ôl sector (cyhoeddus a phreifat), Gorffennaf 2019 i Fawrth 2020 [Nodyn 1]
Disgrifiad o Ffigur 9: Mae'r set hon o siartiau bar wedi'u grwpio yn dangos bod siaradwyr Cymraeg sy'n gweithio yn y sector cyhoeddus fwy na dwywaith yn fwy tebygol o adrodd bod pob un o'r tair technoleg y gofynnwyd amdanynt ar gael iddynt, o’u cymharu â’u cymheiriaid yn y sector preifat.
[Nodyn 1] Ni ddangosir canlyniadau ar gyfer y sector gwirfoddol / trydydd sector yn y siart hon gan fod nifer yr ymatebion yn isel.
Hyfforddiant Cymraeg yn y gweithle
Roedd Arolwg Defnydd Iaith 2019-20 hefyd yn gofyn i siaradwyr Cymraeg yn y gwaith a oedd eu cyflogwr wedi cynnig hyfforddiant neu gymorth iddynt i wella eu Cymraeg a / neu ddatblygu sgiliau penodol yn y Gymraeg (fel ateb y ffôn neu gyfieithu).
Unwaith eto, nododd cyfran sylweddol o'r ymatebwyr nad oeddent yn gwybod a oedd cymorth o'r fath ar gael iddynt, neu nad oedd y cwestiwn yn berthnasol iddynt. Gallai hyn gynnwys gweithwyr hunangyflogedig, er enghraifft. Mae’r ymatebion rhain wedi’u cynnwys fel rhan o’r data yr adroddwyd amdanynt yn yr adran hon.
Ffigur 10: Canran y siaradwyr Cymraeg yn y gwaith sy'n dweud bod eu cyflogwr yn cynnig hyfforddiant neu gymorth Cymraeg, Gorffennaf 2019 i Fawrth 2020
Disgrifiad o Ffigur 10: Mae'r siart far lorweddol hon yn dangos bod traean (33%) o siaradwyr Cymraeg yn y gwaith wedi dweud bod eu cyflogwr yn cynnig hyfforddiant neu gymorth i wella eu Cymraeg. Dywedodd chwarter ohonynt fod eu cyflogwr yn cynnig hyfforddiant neu gymorth i ddatblygu sgiliau penodol yn y Gymraeg (25%).
Ar gyfer y ddau gwestiwn hyn, roedd ymatebwyr yn fwy tebygol o ddweud nad oedd eu cyflogwr yn cynnig hyfforddiant neu gymorth Cymraeg, na’r gwrthwyneb i hynny.
Roedd y math o gymorth neu hyfforddiant a gynigiwyd yn amrywio yn ôl maint y sefydliad. Mewn sefydliadau â 250 neu fwy o weithwyr, roedd 46% o staff sy'n siarad Cymraeg wedi dweud bod hyfforddiant neu gymorth yn cael eu cynnig i wella eu sgiliau Cymraeg, ac roedd 39% wedi dweud bod hyfforddiant yn cael ei gynnig i ddatblygu sgiliau penodol yn y Gymraeg (fel ateb y ffôn neu gyfieithu). Mewn sefydliadau â deg neu lai o weithwyr, mae'r canrannau hyn yn 16% a 12% yn y drefn honno.
Ffigur 11: Canran y siaradwyr Cymraeg yn y gwaith sy'n dweud bod eu cyflogwr yn cynnig hyfforddiant neu gymorth Cymraeg yn ôl maint y sefydliad, Gorffennaf 2019 i Fawrth 2020
Disgrifiad o Ffigur 11: Mae'r siart far lorweddol hon yn dangos bod siaradwyr Cymraeg sy'n gweithio i sefydliadau mwy yn fwy tebygol o adrodd bod hyfforddiant neu gymorth Cymraeg ar gael iddynt yn eu gweithle na'r rhai sy'n gweithio i sefydliadau llai.
Agweddau at y Gymraeg yn y gweithle
Agweddau cyflogwyr at y Gymraeg
Roedd Arolwg Defnydd Iaith 2019-20 hefyd yn mesur agweddau at y Gymraeg yn y gweithle, gan gynnwys barn ymatebwyr am agwedd eu cyflogwr at y Gymraeg. Mae'r canlyniadau'n seiliedig ar farn oddrychol gweithwyr am agwedd eu cyflogwr tuag at yr iaith. Atgoffwyd yr ymatebwyr y byddai eu hatebion yn cael eu trin yn gwbl gyfrinachol wrth gwblhau'r holiadur. Fodd bynnag, gall asesiadau o'r fath amrywio o berson i berson, hyd yn oed ymhlith y rhai sy'n gweithio i'r un cyflogwr.
Nid yw’r canrannau a adroddwyd yn yr adran hon yn cynnwys pobl a oedd heb ateb y cwestiwn oherwydd eu bod yn hunangyflogedig.
Ffigur 12: Barn ymatebwyr am agwedd eu cyflogwr at y defnydd o’r Gymraeg, Gorffennaf 2019 i Fawrth 2020 [Nodyn 1]
Disgrifiad o Ffigur 12: Mae'r siart doesen hon yn dangos bod dros ddau draean o siaradwyr Cymraeg sy’n gweithio ond nad ydynt yn hunangyflogedig yn credu bod eu cyflogwr yn gefnogol i'r defnydd o'r Gymraeg mewn perthynas ag agweddau ffurfiol ac anffurfiol ar y busnes.
[Nodyn 1] Nid yw’r canlyniadau’n cynnwys yr ymatebwyr a oedd heb ateb y cwestiwn oherwydd eu bod yn hunangyflogedig.
O'r holl siaradwyr Cymraeg 16 oed neu'n hŷn sy’n gweithio ond nad ydynt yn hunangyflogedig:
- roedd 69% o'r farn bod eu cyflogwr yn gefnogol i'r defnydd o'r Gymraeg mewn perthynas ag agweddau ffurfiol ac anffurfiol ar y busnes
- roedd 15% o'r farn bod eu cyflogwr yn gefnogol i'r defnydd o'r Gymraeg yn anffurfiol ond nid mewn perthynas â materion busnes ffurfiol
- roedd 8% o'r farn nad oedd eu cyflogwr yn gefnogol i'r defnydd o'r Gymraeg yn anffurfiol nac mewn perthynas â materion busnes ffurfiol
Roedd 8% arall o'r ymatebwyr wedi dewis ‘dim un o’r rhain’.
Mae barn ymatebwyr am gefnogaeth cyflogwyr i’r defnydd o’r Gymraeg yn amrywio ledled Cymru. O ran y rhai sy'n byw yn y gogledd-orllewin ac sydd ddim yn hunangyflogedig, mae 80% o siaradwyr Cymraeg o'r farn bod eu cyflogwr yn gefnogol i'r defnydd o'r Gymraeg mewn materion anffurfiol a rhai busnes ffurfiol. Mae'r ganran hon yn gostwng i 57% yn y de-ddwyrain.
Ffigur 13: Canran y siaradwyr Cymraeg sydd o’r farn bod eu cyflogwr yn gefnogol i'r defnydd o'r Gymraeg mewn materion anffurfiol a rhai busnes ffurfiol yn ôl rhanbarth, Gorffennaf 2019 i Fawrth 2020 [Nodyn 1]
Disgrifiad o Ffigur 13: Mae'r map hwn yn dangos bod barn ymatebwyr am gefnogaeth cyflogwyr i’r defnydd o’r Gymraeg ar ei huchaf yn y gogledd-orllewin ac ar ei hisaf yn y de-ddwyrain a'r gogledd-ddwyrain.
[Nodyn 1] Nid yw’r canlyniadau’n cynnwys yr ymatebwyr a oedd heb ateb y cwestiwn oherwydd eu bod yn hunangyflogedig.
Agweddau cydweithwyr at y Gymraeg
Pan ofynnwyd i’r ymatebwyr ynghylch eu barn am agweddau eu cydweithwyr tuag at y Gymraeg, roedd dros dri chwarter y siaradwyr Cymraeg a fynegodd farn wedi nodi bod y rhan fwyaf neu bob un ohonynt yn gefnogol i'r defnydd o'r Gymraeg yn y gweithle.
Nid yw’r canrannau a adroddwyd yn yr adran hon yn cynnwys pobl a atebodd "Ddim yn gwybod / Amherthnasol".
Ffigur 14: Barn siaradwyr Cymraeg am agwedd eu cydweithwyr at y defnydd o’r Gymraeg yn y gweithle, Gorffennaf 2019 i Fawrth 2020 [Nodyn 1]
Disgrifiad o Ffigur 14: Mae'r siart doesen hon yn dangos, o'r rhai a fynegodd farn, bod ychydig llai na hanner y siaradwyr Cymraeg yn ystyried bod pob un neu bron pob un o’u cydweithwyr yn gefnogol i'r defnydd o'r Gymraeg yn y gweithle, a bod dros dri chwarter yn ystyried bod y rhan fwyaf neu bob un o’u cydweithwyr yn gefnogol.
[Nodyn 1] Nid yw’r canlyniadau’n cynnwys yr ymatebwyr a atebodd "Ddim yn gwybod / Amherthnasol".
Ar y llaw arall, mae bron chwarter y siaradwyr Cymraeg a fynegodd farn yn dweud bod hanner neu lai na hanner o’u cydweithwyr yn gefnogol i'r defnydd o'r Gymraeg yn y gweithle. Mae’r rheini’n cynnwys 4% sy'n nodi nad yw unrhyw un, neu bron i unrhyw un, o'u cydweithwyr yn gefnogol.
Mae siaradwyr Cymraeg yn llawer mwy tebygol o adrodd bod y rhan fwyaf neu bob un o’u cydweithwyr yn cefnogi'r defnydd o'r Gymraeg os ydy mwyafrif eu cydweithwyr hefyd yn gallu siarad Cymraeg.
O blith y siaradwyr Cymraeg sydd wedi nodi bod mwy o'u cyd-weithwyr yn gallu siarad Cymraeg nag sydd ddim yn gallu, nododd 87% o'r rhai fynegodd farn bod y rhan fwyaf neu bob un o'u cyd-weithwyr yn cefnogi'r defnydd o'r Gymraeg yn y gweithle.
O blith y siaradwyr Cymraeg sydd wedi nodi bod mwy o'u cyd-weithwyr ddim yn gallu siarad Cymraeg nag sy'n gallu, 64% o'r rhai fynegodd farn wnaeth nodi bod y rhan fwyaf neu bob un o'u cyd-weithwyr yn cefnogi defnydd o'r Gymraeg yn y gweithle.
Mae natur oddrychol y cwestiwn yn cael ei dwyn i'r amlwg wrth edrych ar sut mae ymatebion siaradwyr Cymraeg rhugl a siaradwyr Cymraeg nad ydynt yn rhugl yn amrywio. Gan eithrio ymatebion "Ddim yn gwybod / Amherthnasol", er bod 84% o siaradwyr Cymraeg a ddisgrifiodd eu hunain yn rhugl yn ystyried bod y rhan fwyaf neu bob un o’u cydweithwyr yn gefnogol i'r defnydd o'r iaith yn y gweithle, roedd llai na dau draean y siaradwyr Cymraeg nad oeddent wedi disgrifio’u hunain yn rhugl yn meddwl yr un peth (66%).
Fel sy'n wir o ran barn ymatebwyr am agweddau cyflogwyr at y Gymraeg, mae barn ymatebwyr am agweddau cydweithwyr at y defnydd o’r iaith yn y gweithle hefyd yn amrywio yn ôl rhanbarth.
Ffigur 15: Canran y siaradwyr Cymraeg sy'n adrodd bod y rhan fwyaf neu bob un o'u cydweithwyr yn gefnogol i'r defnydd o'r Gymraeg yn y gweithle yn ôl rhanbarth, Gorffennaf 2019 i Fawrth 2020 [Nodyn 1]
Disgrifiad o Ffigur 15: Mae'r map hwn yn dangos, o'r rhai a fynegodd farn, bod canran y siaradwyr Cymraeg sy'n adrodd bod y rhan fwyaf neu bob un o'u cydweithwyr yn gefnogol i'r defnydd o'r Gymraeg yn y gweithle ar ei huchaf yn y gogledd-orllewin (89%) ac ar ei hisaf yn y de-ddwyrain (62%).
[Nodyn 1] Nid yw’r canlyniadau’n cynnwys ymatebwyr a atebodd “Ddim yn gwybod / Amherthnasol".
Mae'r patrwm hwn yn adlewyrchu dosbarthiad daearyddol siaradwyr Cymraeg fwy neu lai. Gwelir bod barn am gefnogaeth i’r iaith ar ei huchaf mewn ardaloedd lle mae'r gyfran uchaf o'r boblogaeth yn gallu siarad Cymraeg.
Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg
Diben yr Arolwg Defnydd Iaith yw casglu gwybodaeth ynghylch pa mor aml, ble, pryd ac â phwy y mae siaradwyr Cymraeg yn defnyddio’r Gymraeg, a chael gwybod mwy am eu gallu yn yr iaith. Rydym yn parhau i ystyried y cyfrifiad fel y brif ffynhonnell wybodaeth ynghylch sgiliau’r boblogaeth tair oed neu'n hŷn yng Nghymru yn y Gymraeg, ond mae’r arolwg hwn yn rhoi gwybodaeth inni am ddefnydd siaradwyr Cymraeg o’r iaith.
Mae Arolwg Defnydd Iaith 2019-20 yn barhad o waith ymchwil a wnaed ar y cyd gan Gomisiynydd y Gymraeg a Llywodraeth Cymru yn 2013-15. Bu hefyd Arolwg Defnydd Iaith yn 2004 i 2006 (Darparwr Gwasanaeth Data'r DU), a gynhaliwyd gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg.
Cafodd Arolwg Defnydd Iaith 2019-20 ei gynnal fel rhan o Arolwg Cenedlaethol Cymru, yn yr un modd ag Arolwg Defnydd Iaith 2013-15. Yn dilyn Arolwg Defnydd Iaith 2013-15, y bwriad gwreiddiol oedd cynnal yr arolwg defnydd iaith dilynol rhwng mis Gorffennaf 2019 a mis Mawrth 2021, sef Arolwg Defnydd Iaith 2019-21. Fodd bynnag, oherwydd pandemig y coronafeirws (COVID-19), daeth yr arolwg i ben yn gynt na’r disgwyl, ac felly cynhaliwyd y gwaith maes rhwng 1 Gorffennaf 2019 a 14 Mawrth 2020, a oedd hefyd yn golygu bod ein sampl yn llai nag a fwriadwyd iddi fod. Er mwyn caniatáu’r dadansoddiadau manwl gan ddefnyddio’r sampl lai o faint sydd ar gael ar gyfer 2019-20, rydym wedi cynnwys cyfansymiau rhwng 5 a 30 yn ein dadansoddiadau. Yn sgil hynny, rydym yn nodi bod ansawdd y gwaith dadansoddi yn is os yw hynny'n briodol.
Datblygwyd yr holiaduron a ddefnyddiwyd ar gyfer arolwg 2019-20 gan Lywodraeth Cymru yn dilyn ymgynghoriad â defnyddwyr ystadegau am y Gymraeg. Nid oedd y rhan fwyaf o’r cwestiynau wedi cael eu newid ers Arolwg Defnydd Iaith 2013-15. Fodd bynnag, cyflwynwyd rhai cwestiynau newydd, er enghraifft, ynglŷn â barn siaradwyr Cymraeg am yr iaith, a hyder siaradwyr Cymraeg wrth siarad yr iaith.
Roedd dau fath o holiadur, un ar gyfer oedolion (16 oed neu'n hŷn) ac un ar gyfer plant a phobl ifanc (3 i 15 oed). Cafodd yr holiadur i blant a phobl ifanc ei gwblhau gan y rhiant neu warcheidwad, neu gan y person ifanc os oedd yn dymuno cwblhau’r holiadur. Roedd modd cwblhau’r holiaduron yn Gymraeg neu yn Saesneg. Ceir copïau o'r ddau holiadur ar dudalen we deunydd yr arolwg.
Cyfradd ymateb yr arolwg oedd 47%; o’r holl siaradwyr Cymraeg a gafodd eu nodi drwy Arolwg Cenedlaethol Cymru, roedd 47% o’r rheini wedi cwblhau a dychwelyd yr holiadur. Mae hyn ychydig yn uwch na’r gyfradd ymateb o 44% yn Arolwg Defnydd Iaith 2013-15.
Mae gwybodaeth dechnegol a gwybodaeth am ansawdd Arolwg Defnydd Iaith 2019-20 (gan gynnwys gwybodaeth bellach am gyfraddau derbyn, dychwelyd ac ymateb yr arolwg) ar gael yn adroddiad technegol Arolwg Cenedlaethol Cymru 2019-20.
Rhanbarthau Cymru
Er mwyn gallu adrodd ar lefel ddaearyddol gyson drwy’r adroddiad hwn, rydym yn cyflwyno data ar lefel rhanbarthau. Mae’r rhanbarthau hyn yn gyson â’r rhai a ddefnyddir yn nadansoddiadau Arolwg Cenedlaethol Cymru ar y Gymraeg.
Mae’r rhanbarthau a ddefnyddir yn yr adroddiad hwn, gan gynnwys eu hawdurdodau lleol cyfansoddol wedi’u rhestru isod.
Gogledd-orllewin Cymru
- Ynys Môn
- Gwynedd
- Conwy
Gogledd-ddwyrain Cymru
- Sir Ddinbych
- Sir y Fflint
- Wrecsam
Canolbarth Cymru
- Powys
- Ceredigion
De-orllewin Cymru
- Sir Benfro
- Sir Gaerfyrddin
- Abertawe
- Castell-nedd Port Talbot
De-ddwyrain Cymru
- Pen-y-bont ar Ogwr
- Bro Morgannwg
- Caerdydd
- Rhondda Cynon Taf
- Merthyr Tudful
- Caerffili
- Blaenau Gwent
- Torfaen
- Sir Fynwy
- Casnewydd
Effaith pandemig y coronafeirws (COVID-19)
Oherwydd pandemig y coronafeirws (COVID-19), daeth yr arolwg i ben yn gynt na'r disgwyl a'r hyn sy'n cael ei gyflwyno yma, felly, yw canlyniadau naw mis cyntaf yr arolwg, sef Arolwg Defnydd Iaith 2019-20.
Mae mwy o fanylion am yr effaith ar y dadansoddiadau i'w gweld yn yr adran am ansawdd a methodoleg ynghylch canfyddiadau cychwynnol yr arolwg.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi adroddiad ar ganfyddiadau arolwg a oedd yn edrych ar effeithiau COVID-19 ar grwpiau cymunedol Cymraeg ers dechrau cyfnod y pandemig. Gofynnwyd i grwpiau hysbys gwblhau’r arolwg, a oedd yn casglu tystiolaeth ar sut roedd y grwpiau wedi gweithredu cyn y pandemig, p’un a oedden nhw wedi gallu gweithredu ers cychwyn y cyfnod clo cyntaf ym mis Mawrth 2020, a beth oedd eu disgwyliadau ar gyfer y dyfodol.
Cynlluniau ar gyfer y dyfodol
Hon yw’r bedwaredd mewn cyfres o fwletinau ystadegol yn ôl thema yn dilyn cyhoeddi canfyddiadau cychwynnol Arolwg Defnydd Iaith 2019-20 ym mis Medi 2021. Bydd un bwletin i ddilyn ar y defnydd o’r Gymraeg mewn perthynas â gwasanaethau. Byddwn yn cyfuno data o Arolwg Cenedlaethol Cymru 2019-20 lle bo’n berthnasol.
Statws Ystadegau Gwladol
Mae Awdurdod Ystadegau’r Deyrnas Unedig wedi dynodi’r ystadegau hyn yn Ystadegau Gwladol, yn unol â Deddf y Gwasanaeth Ystadegau a Chofrestru 2007, sy’n golygu eu bod yn cydymffurfio â’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau.
Mae statws Ystadegau Gwladol yn golygu bod yr ystadegau swyddogol yn bodloni’r safonau uchaf o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth cyhoeddus.
Dylai ystadegau swyddogol gydymffurfio â phob agwedd ar y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Dyfernir statws Ystadegau Gwladol iddynt yn dilyn asesiad gan fraich reoli Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig. Mae’r Awdurdod yn ystyried a yw’r ystadegau yn bodloni’r safonau uchaf o ran cydymffurfio â’r Cod, gan gynnwys y gwerth y maent yn ei ychwanegu at benderfyniadau a dadleuon cyhoeddus
Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw cynnal cydymffurfiad â’r safonau a ddisgwylir gan Ystadegau Gwladol. Os ydym yn pryderu p’un a yw’r ystadegau hyn yn parhau i fodloni’r safonau priodol, byddwn yn trafod hyn yn brydlon gyda’r Awdurdod. Gall statws Ystadegau Gwladol gael ei ddiddymu ar unrhyw bryd os nad ydynt yn glynu at y safonau uchaf, a gellir adennill y dyfarniad pan fo’r safonau yn cael eu hadfer.
Cynhaliwyd asesiad llawn o'r ystadegau hyn yn erbyn y Cod Ymarfer yn 2016.
Ers yr adolygiad diweddaraf gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau, rydym wedi parhau i gydymffurfio â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau, ac rydym wedi gwneud gwelliannau, fel ymgynghori ymhellach â’n defnyddwyr am eu hanghenion mewn perthynas â’r defnydd o’r Gymraeg.
Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol
Hanfod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae'r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant i Gymru, sef Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynol a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol”) sy’n gorfod cael eu cymhwyso at ddibenion mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio'r dangosyddion cenedlaethol, rhaid iddynt, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol (a) gyhoeddi'r dangosyddion fel y'u diwygiwyd a (b) gosod copi ohonynt gerbron y Senedd. Fe gafodd y dangosyddion cenedlaethol hyn eu gosod gerbron y Senedd yn 2021. Mae'r dangosyddion a osodwyd ar 14 Rhagfyr 2021 yn disodli'r set a osodwyd ar 16 Mawrth 2016.
Nid oes unrhyw ddangosydd cenedlaethol wedi ei gynnwys yn y datganiad hwn, ond diweddarwyd y dangosydd cenedlaethol am ddefnydd o’r Gymraeg, sydd yn defnyddio’r un ffynhonnell ddata, sef Arolwg Defnydd Iaith 2019-20, yn ein canlyniadau cychwynnol ar y defnydd o’r Gymraeg yng Nghymru.
Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a'r wybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.
Gwybodaeth bellach am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.
Gallai’r ystadegau a ddefnyddir yn y datganiad hwn ategu’r dangosyddion cenedlaethol a chael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau lleol mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant a’u cynlluniau llesiant lleol.