Neidio i'r prif gynnwy

Adroddiad sy'n cymharu defnydd o orsafoedd trenau, ar gyfer pob gorsaf fesul llinell neu lwybr ar gyfer Ebrill 2020 i Fawrth 2021.

Ar gyfer y ddau gyhoeddiad diwethaf, ni chyhoeddwyd cymaint o fanylder yn y adroddiad hwn o gymharu â’r bwletin ystadegol arferol wrth inni flaenoriaethu adnoddau ar waith dadansoddi yn sgil pandemig y coronafeirws (COVID-19). Ar gyfer eleni, rydym yn cyhoeddi bwletin ystadegol gyda llai o fanylion ac yn croesawu adborth gan ddefnyddwyr ar gynnwys, dosbarthiad ac amlder y adroddiad hwn.

Pwyntiau allweddol

Image
Dros y flwyddyn ddiwethaf, bu gostyngiad yn nifer y bobl a aeth i mewn ac allan o bob gorsaf ar draws Cymru.
  • Effeithiodd pandemig y coronafeirws (COVID-19) yn sylweddol ar y defnydd o orsafoedd yn 2020-21 (1 Ebrill 2020 i 31 Mawrth 2021). Yng Nghymru, gwelwyd gostyngiad o 77.1% yn nifer y teithwyr ar drenau o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol (2019-21).
  • Cafwyd gostyngiad o 82.8% yng nghyfanswm y bobl a aeth i mewn ac allan o orsafoedd yng Nghymru yn 2020-21 o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol.
  • Dros y flwyddyn ddiwethaf, bu gostyngiad yn nifer y bobl a aeth i mewn ac allan o bob gorsaf ar draws Cymru.
  • Yn 2021-20 roedd 223 o orsafoedd rheilffyrdd, un orsaf yn fwy nag yn 2019-20.
  • Gorsaf Caerdydd Canolog yw gorsaf brysuraf Cymru o hyd gyda 22.8% o’r holl bobl a aeth i mewn ac allan o bob gorsaf ar draws Cymru.
  • Mae'r defnydd o orsafoedd rheilffyrdd yng Nghymru yn cyfrif am tua 1.8% o gyfanswm y DU. O'r 20 gorsaf brysuraf yng Nghymru, mae mwy na hanner yn rhan o rwydwaith Rheilffyrdd y Cymoedd (heb gynnwys Caerdydd Canolog a Heol y Frenhines Caerdydd).

Adroddiadau

Defnydd gorsafoedd rheilffordd, Ebrill 2020 i Fawrth 2021 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB

PDF
Saesneg yn unig
2 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.