Neidio i'r prif gynnwy

Adroddiad sy'n cymharu defnydd o orsafoedd trenau, ar gyfer pob gorsaf fesul llinell neu lwybr ar gyfer Ebrill 2019 i Fawrth 2020.

Pwyntiau allweddol

  • Bu gostyngiad o 4.4% yn nifer y teithwyr yn mynd i mewn ac allan o orsafoedd yng Nghymru yn 2019-20 (i 50.4 miliwn) o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol, yr unig ostyngiad canrannol wrth gymharu blwyddyn â’r flwyddyn flaenorol a gofnodwyd yng Nghymru ers dechrau cadw cofnodion ym 1997.
  • Dros yr un cyfnod, bu gostyngiad o 1.1% yn nifer y teithwyr yn mynd i mewn ac allan o orsafoedd rheilffordd ar draws Prydain Fawr.
  • Yn ystod 2019-20 roedd cyfanswm o 180 o orsafoedd rheilffordd (81%) o’r 222 o orsafoedd rheilffordd Cymru wedi cofnodi gostyngiad yn nifer y teithwyr yn mynd i mewn ac allan o orsafoedd yng Nghymru.
  • Er mai dim ond yn ystod wythnosau olaf 2019-20 y gwelwyd effaith pandemig y coronafeirws (COVID-19), mae’n esbonio’r gostyngiad mewn defnydd yn y rhan fwyaf o orsafoedd ar draws Cymru a Phrydain Fawr. Mae rhagor o fanylion am effaith COVID-19 ar ddefnydd gorsafoedd rheilffordd i’w gweld ym Mwletin Ystadegol Swyddfa Ffyrdd a Rheilffyrdd.
Image
Cynyddoedd nifer y cyraeddiadau ac ymadawiadau a gorsafoedd yng Nghymru rhwng 2005-06 a 2018-19. Yn 2019-20 cofnododd Cymru ei gostyngiad cyntaf erioed yn nifer y cyraeddiadau ac ymadawiadau.

Er bod amcangyfrif nifer y teithwyr sy’n mynd i mewn ac allan o orsafoedd yn seiliedig ar nifer y tocynnau sy’n cael eu gwerthu, mae’r Swyddfa Ffyrdd a Rheilffyrdd hefyd yn cyhoeddi amcangyfrifon o siwrneiau teithwyr fesul Cwmni Trên (TOC).

Mae'r amcangyfrifon hyn yn dangos bod siwrneiau teithwyr a wnaed gan ddefnyddio Trafnidiaeth Cymru (TfW) wedi gostwng 16% yn nhri mis cyntaf 2020 o gymharu â'r flwyddyn flaenorol. Mae hyn yn cymharu â gostyngiad o 11% yng nghyfanswm y siwrneiau teithwyr ledled y DU.

Pwyntiau manwl

  • Gorsaf rheilffordd Caerdydd Canolog oedd yn dal i fod yr orsaf brysuraf yng Nghymru yn 2019-20 gan gynrychioli 25% o’r holl deithwyr sy’n mynd i mewn ac allan o orsafoedd.
  • O’r 20 gorsaf brysuraf yng Nghymru, mae mwy na hanner yn rhan o rhwydwaith Cledrau’r Cymoedd (nad yw’n cynnwys Caerdydd Canolog na Stryd y Frenhines Caerdydd) ac mae dwy yn y Gogledd yn y Rhyl a Bangor.
  • Bu gostyngiad o 9.7% yn nifer y teithwyr yn mynd i mewn ac allan o orsafoedd cyfnewid yng Nghymru yn 2019-20 o’i gymharu â 2018-19.
  • Caerdydd Canolog oedd yn dal i fod yr orsaf gyfnewid brysuraf, gan gefnogi cyfanswm o 10 lein wahanol gyda Stryd y Frenhines Caerdydd sy’n cefnogi 6 lein yn dilyn.
  • Roedd y defnydd o orsafoedd rheilffyrdd yng Nghymru yn cyfrif am 1.7% o gyfanswm Prydain Fawr yn 2019-20. Mae'r gyfran hon wedi bod yn sefydlog yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac mae'n awgrymu bod teithio ar y rheilffyrdd yn llai cyffredin yng Nghymru nag ar draws y DU yn gyffredinol, gyda Chymru'n cyfrif am 4.9% o boblogaeth Prydain Fawr.

Mae rhesymau heblaw am pandemig COVID-19 hefyd wedi effeithio ar amcangyfrifon Ebrill 2019 i Fawrth 2020

  • Arweiniodd llifogydd yng Nghymru ym mis Ionawr a mis Chwefror 2020 at gau gorsaf drenau Sugar Loaf gan arwain at ostyngiad o 78%, y gostyngiad blynyddol mwyaf o unrhyw orsaf yng Nghymru yn 2019/20.
  • Cyflwynwyd gwasanaethau dydd Sul tua diwedd 2019 ar lein Maesteg gan arwain at gynnydd mewn sawl gorsaf ar hyd y lein.

Rhagor o wybodaeth

Mae tablau manylach ar gael ar wefan StatsCymru ac mae gwybodaeth o ansawdd ar gael yn adroddiad y llynedd.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.