Adroddiad sy'n cymharu defnydd o orsafoedd trenau, ar gyfer pob gorsaf fesul llinell neu lwybr ar gyfer Ebrill 2018 i Fawrth 2019.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Defnydd gorsafoedd rheilffordd
Nodyn diwygio
Cafodd yr ystadegau ar ddefnydd gorsafoedd trenau ar gyfer 2018–19 eu cyhoeddi gyntaf ar 19 Chwefror 2020. Fodd bynnag, oherwydd gwallau yn y data oddi wrth Swyddfa Rheoleiddio’r Rheilffyrdd (ORR) cafodd yr ystadegau eu diwygio gan yr ORR ar 10 Mai 2020. Roedd yr ystadegau diwygiedig yn dangos nifer llai o deithwyr yn mynd i mewn ac allan o orsafoedd nag a gafodd ei gyhoeddi’n wreiddiol. Roedd y data gwreiddiol a gyhoeddwyd gan yr ORR yn dangos bod nifer y teithwyr yn mynd i mewn ac allan o orsafoedd yng Nghymru wedi cynyddu 9.4%, ond mae’r ffigurau diwygiedig yn dangos cynnydd o 0.4%.
Mae rhagor o fanylion ynghylch y problemau a nodwyd gan y ORR yn eu log o ddiwygiadau.
Mae’r cyhoeddiad hwn yn fyrrach na’r bwletin ystadegol arferol, gan ein bod yn blaenoriaethu adnoddau er mwyn dadansoddi pandemig y coronafeirws (COVID-19).
Pwyntiau allweddol
- Bu cynnydd o 0.4% yn nifer y teithwyr yn mynd i mewn ac allan o orsafoedd yng Nghymru yn 2018–19 (52.7 miliwn) o’i chymharu â’r flwyddyn flaenorol, y cynnydd canrannol isaf wrth gymharu blwyddyn â’r flwyddyn flaenorol wedi’i gofnodi yng Nghymru erioed.
- Bu’r cynnydd mwyaf yn 2018–19 yn Ne-ddwyrain Cymru, yn enwedig ar Linell y Ddinas yng Nghaerdydd, ac mewn gorsafoedd ar Linell y Cymoedd yng Nghaerdydd neu’n agos ati.
- Mae nifer y teithwyr yn mynd i mewn ac allan o orsafoedd yng Nghymru wedi cynyddu bob blwyddyn ers 2004–05, cynnydd o 61% yn ystod y cyfnod hwnnw.
- Mae Caerdydd Canolog yn parhau i fod yr orsaf brysuraf yng Nghymru, gyda 25 o’r holl deithwyr sy’n mynd i mewn/allan o orsafoedd. O’r 20 gorsaf brysuraf yng Nghymru, mae dros hanner ohonynt yn rhan o rwydwaith Llinellau’r Cymoedd (heb gynnwys Caerdydd Canolog a Heol y Frenhines Caerdydd), ac mae dwy yng Ngogledd Cymru, yn Rhyl a Bangor.
Mae tablau manylach ar gael ar wefan StatsCymru ac mae gwybodaeth o ansawdd ar gael yn adroddiad y llynedd.
Adroddiadau
Cyswllt
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Rhif ffôn: 0300 025 5050
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.