Neidio i'r prif gynnwy

Adroddiad sy'n cymharu defnydd o orsafoedd trenau, ar gyfer pob gorsaf fesul llinell neu lwybr ar gyfer Ebrill 2016 i Mawrth 2017.

Prif bwyntiau

  • Mae cyfanswm nifer y teithwyr ar drenau yng Nghymru wedi codi bob blwyddyn ers 2005-06.
  • Cafwyd cynnydd o 1.3% yn nifer y teithwyr ar drenau  yng Nghymru yn 2016-17 o’u cymharu â’r flwyddyn flaenorol.
  • Yn 2016-17 roedd 222 o orsafoedd rheilffyrdd yng Nghymru, yr un nifer â’r flwyddyn flaenorol.
  • Gorsaf Caerdydd Canolog sy’n parhau i fod yr orsaf brysuraf yng Nghymru gyda 24% o’r holl deithwyr ar drenau.
  • Mae tua 1.8% o holl deithwyr trenau’r DU yn defnyddio gorsafoedd rheilffyrdd Cymru.
  • Bu mwy o deithwyr yn defnyddio leiniau’r De a’r Gorllewin eleni ond roedd gostyngiad mewn nifer y teithwyr ar leiniau’r Canolbarth a’r Gogledd.
  • O orsafoedd prysuraf Cymru, mae mwy na’u hanner yn rhan o rwydwaith rheilffyrdd y Cymoedd (heb gynnwys Caerdydd Canolog a Gorsaf Heol y Frenhines). Mae tair ohonynt yn y Gogledd: Rhyl, Bangor a Wrecsam Cyffredinol.

Adroddiadau

Defnydd gorsafoedd rheilffordd, Ebrill 2016 i Mawrth 2017 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB

PDF
Saesneg yn unig
2 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.