Neidio i'r prif gynnwy

Mae deddfwriaeth arloesol i ddiogelu'r stoc o dai cymdeithasol ac annog adeiladu tai cymdeithasol newydd wedi cael Cydsyniad Brenhinol gan Ei Mawrhydi'r Frenhines.

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Ionawr 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mewn Seremoni Selio swyddogol a gynhaliwyd heddiw (24 Ionawr) yng Nghaerdydd, daeth Bil Diddymu'r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) yn un o Ddeddfau'r Cynulliad.

Nod y Bil yw diogelu'r stoc o dai cymdeithasol yng Nghymru rhag lleihau ymhellach, gan sicrhau ei bod ar gael i gynnig tai diogel a fforddiadwy i bobl nad ydynt yn gallu prynu na rhentu cartref eu hunain drwy'r farchnad dai. Mae'r Bil yn cyd-fynd â chamau gweithredu eraill sy'n cael eu cymryd gan Lywodraeth Cymru i gynyddu'r cyflenwad o dai.

Dywedodd Rebecca Evans AC, y Gweinidog Tai ac Adfywio:

“Rhwng 1981 a 2016, gwerthwyd dros 139,000 o dai awdurdodau lleol a chymdeithasau tai o dan gynllun yr Hawl i Brynu.

“Fel canlyniad i hynny, rydyn ni'n gwybod bod nifer o bobl sy'n agored i niwed yn aros am gyfnodau hirach i gael cartref y maen nhw'n gallu ei fforddio.  Bydd y ddeddfwriaeth hon yn rhoi mwy o hyder i landlordiaid cymdeithasol fuddsoddi mewn tai newydd, gan ei bod yn cael gwared ar y risg y bydd y tai hynny'n cael eu gwerthu ymhen rai blynyddoedd.

“Rydyn ni wedi ymrwymo i greu 20,000 o gartrefi mwy fforddiadwy erbyn 2021, ac rydyn ni'n cefnogi landlordiaid cymdeithasol i'n helpu ni i gyflawni hynny.

“Byddwn ni'n cyhoeddi mwy o wybodaeth i denantiaid cyn hir, a fydd yn cael ei dosbarthu gan eu landlordiaid. Bydd y wybodaeth honno'n egluro beth mae'r Ddeddf hon yn ei olygu yn eu hachos nhw.

“Drwy ddiogelu'r stoc o dai cymdeithasol yng Nghymru, rydyn ni'n sicrhau bod y stoc honno ar gael yn y tymor hir i ddarparu tai diogel a fforddiadwy i bobl yng Nghymru.”

Cafodd y Bil ei gyflwyno fis Mawrth diwethaf, yn dilyn ymgynghoriad ar y Papur Gwyn yn 2015. Bellach, mae'r Bil wedi'i basio ac mae'n cael gwared ar yr holl amrywiadau o'r Hawl i Brynu, gan gynnwys yr Hawl i Brynu a Gadwyd a'r Hawl i Gaffael. 

Caiff yr Hawl i Brynu ei diddymu'n derfynol ar 26 Ionawr 2019 yn achos eiddo sydd eisoes yn bodoli - flwyddyn ar ôl cael Cydsyniad Brenhinol. Ond, er mwyn annog buddsoddiad mewn cartrefi newydd, bydd yr hawliau'n cael eu diddymu ar gyfer cartrefi sydd newydd gael eu cynnwys yn y stoc o dai cymdeithasol - ac felly nad oes tenantiaid eisoes yn eu rhentu - ddau fis ar ôl cael Cydsyniad Brenhinol, ar 24 Mawrth 2018.