Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, cyflwynwyd Bil a allai weld sefydliad yn cael ei greu a fyddai’n gyfrifol am drefn newydd i reoli tomenni nas defnyddir Cymru, rhai glo a rhai nad ydynt yn domenni glo.

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Rhagfyr 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'r Bil Tomenni Mwyngloddiau a Chwareli Nas Defnyddir (Cymru), a gyflwynwyd gan y Dirprwy Brif Weinidog sydd â chyfrifoldeb dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies, yn cynnig sefydlu Awdurdod Tomenni Nas Defnyddir i Gymru.

Y Bil yw'r cyntaf o'i fath yn y DU ac rydym yn arwain y byd wrth ddatblygu system gadarn ar gyfer diogelwch tomenni segur.

Byddai'r Awdurdod yn dod yn gorff a noddir gan Lywodraeth Cymru i geisio sicrhau nad yw tomenni nas defnyddir yn bygwth lles pobl oherwydd eu hansefydlogrwydd a byddai hefyd yn cymryd cyfrifoldeb am asesu, cofrestru, monitro a rheoli tomenni nas defnyddir.  

Yn dilyn tirlithriad mawr tomen nas defnyddir yn Tylorstown a achosodd dros 60,000 tunnell o falurion i ddisgyn i Afon Rhondda Fach, sefydlwyd y Tasglu Diogelwch Tomenni Glo. Gofynnodd Llywodraeth Cymru hefyd i Gomisiwn y Gyfraith werthuso'r ddeddfwriaeth bresennol yn ymwneud â thomenni glo nas defnyddir. Daeth ei adroddiad i'r casgliad nad yw'r gyfraith bresennol bellach yn darparu fframwaith rheoli effeithiol ar gyfer tomenni glo nas defnyddir ac argymhellwyd diwygio.

Dewisodd y Dirprwy Brif Weinidog, Huw Irranca-Davies ymweld â'r safle hwnnw yn Tylorstown ar fore cyflwyno'r Bil.

Wrth siarad o'r fan honno, dywedodd:

“Mae gan Gymru dreftadaeth lofaol y mae'n falch ohoni, ac mae'n hanfodol bod gennym ddull strwythuredig o reoli tomenni segur, rhai glo a rhai nad ydynt yn rhai glo, i sicrhau eu bod yn ddiogel ac nad ydynt yn fygythiad i'n cymunedau.

"Ym mis Chwefror 2020, yn dilyn stormydd Ciara a Dennis, cafwyd cyfres o dirlithriadau ar domenni glo yng Nghymru, gan gynnwys tirlithriad mawr ar domen segur yn Tylorstown. 

"Mae'r tirlithriadau hyn, yn ogystal â'r digwyddiad diweddar yng Nghwmtyleri, yn dangos y risgiau a'r pryderon posibl y mae tomenni nas defnyddir yn eu hachosi i gymunedau.

"Mae'r Bil hwn yn ymwneud â chadw cymunedau'n ddiogel ac mae'n rhan o raglen waith ehangach i wella diogelwch tomenni segur.

“Edrychaf ymlaen at weithio gydag Aelodau'r Senedd a rhanddeiliaid ar gynigion y Bil dros y misoedd nesaf.”

Mae 2,573 o domenni glo segur yng Nghymru, ac amcangyfrifir bod mwy na 20,000 o domenni nas defnyddir eraill ledled y wlad.