Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, bydd deddfwriaeth sy’n amddiffyn gwasanaethau cyhoeddus datganoledig yng Nghymru rhag Deddf yr Undebau Llafur Llywodraeth y DU yn cael Cydsyniad Brenhinol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Medi 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Pan ddaw i rym, bydd Deddf Undebau Llafur Llywodraeth Cymru yn datgymhwyso’r rhannau hynny o Ddeddf 2016 Llywodraeth y DU sy’n ymwneud â gwasanaethau cyhoeddus datganoledig − sef y GIG, addysg, llywodraeth leol a’r gwasanaeth tân. Cynulliad Cenedlaethol Cymru sy’n gyfrifol am yr holl wasanaethau hynny. 

Roedd Llywodraeth y DU eisoes wedi cwestiynu a oedd Bil yr Undebau Llafur (Cymru) o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ond erbyn hyn, mae’r Twrnai Cyffredinol wedi penderfynu peidio â chyfeirio’r cwestiwn ynglŷn â chymhwysedd at y Goruchaf Lys.

Mae Deddf yr Undebau Llafur (Cymru) yn datgymhwyso’r rhannau hynny o ddeddfwriaeth newydd Llywodraeth y DU sy’n ymwneud â gosod trothwy cyffredinol o 40% o’r pleidleisiau o blaid streicio, y darpariaethau sy’n ymwneud ag amser cyfleuster yr undebau llafur, ac â’r amodau ar gyfer didynnu’r tâl ar gyfer ymaelodi ag undeb llafur o’r gyflogres.

Bydd y Ddeddf hefyd yn diogelu’r sefyllfa o ran atal gweithwyr asiantaethau rhag gweithio yn lle gweithwyr y sector cyhoeddus pan fônt yn gweithredu'n ddiwydiannol, rhag ofn y bydd Llywodraeth y DU yn mynd ati i ddileu’r ddarpariaeth honno.

Wrth siarad cyn y seremoni selio heddiw pan ddaw Bil yr Undebau Llafur yn ddeddf, dywedodd Carwyn Jones, y Prif Weinidog:

“O’r cychwyn cyntaf dywedon ni fod Deddf yr Undebau Llafur Llywodraeth y DU yn niweidiol, yn achosi rhwygiadau ac yn ddiangen.”

“Doedden ni ddim yn barod i ganiatáu i Lywodraeth y DU ddeddfu ar faes sydd wedi’i ddatganoli i’r Cynulliad − rhywbeth y mae’r Twrnai Cyffredinol wedi ei dderbyn erbyn hyn, mae’n amlwg − ac i danseilio’r traddodiad o weithio ar sail partneriaethau cymdeithasol sydd gennym yma yng Nghymru.”

“Sail y traddodiad hwn yw’r parch sydd gan yr holl bartïon sy’n cymryd rhan mewn trafodaethau at ei gilydd − ffordd o weithio lle mae Llywodraeth Cymru, cyflogwyr a’r undebau llafur yn dod at ei gilydd i ddatrys problemau a gwella’r gwasanaethau cyhoeddus."

“Diolch i’r darn pwysig hwn o ddeddfwriaeth Gymreig, ni fydd yr amodau llym y byddwn ni’n eu gweld dros y ffin yn gymwys i’r rheiny sy’n gweithio yn y gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.”

Dywedodd Mark Drakeford yr Ysgrifennydd Cyllid:

“Rydyn ni’n gwerthfawrogi ac yn parchu gwaith yr Undebau a’u haelodau. Rydyn ni wedi credu erioed mai’r ffordd orau o atal gweithredu diwydiannol yw drwy bartneriaeth gymdeithasol adeiladol.”

“Ddylen ni byth fod wedi cael ein rhoi mewn sefyllfa lle’r oedd yn rhaid inni gyflwyno deddf yng Nghymru er mwyn datgymhwyso rhannau o un o ddeddfau’r DU. Ond nid oedd Llywodraeth y DU yn fodlon derbyn bod hwn yn faes cyfrifoldeb sydd wedi’i ddatganoli.”

“Dw i’n falch y bydd gweithwyr yn y gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn parhau i gael eu diogelu ac y byddwn ni’n parhau i ddod â Llywodraeth Cymru, cyflogwyr a’r undebau llafur at ei gilydd i ddatrys anghydfodau.”

Dywedodd y Cynghorydd Debbie Wilcox (Casnewydd), Arweinydd CLILC:

“Fel corff cyflogwyr llywodraeth lleol yng Nghymru, rydyn ni’n croesawu Bil Llywodraeth Cymru a fydd yn golygu adfer nifer o hawliau a enillwyd ar ôl brwydrau caled, i aelodau o’r undebau llafur.”

“Rydyn ni wedi cynnal perthynas waith da erioed gyda’n hundebau llafur, yn lleol ac yn genedlaethol ac mae’r ffaith y bu cyn lleied o weithredu diwydiannol mewn llywodraeth lleol yng Nghymru dros y degawd diwethaf yn dyst ohoni hi. Rydyn ni’n parchu gwaith yr undebau llafur a hawliau eu haelodau ac rydyn ni am barhau i gydweithio â nhw mewn ffordd adeiladol er mwyn cefnogi a chynnal gwasanaethau llywodraeth lleol yng Nghymru.”

“Mae awdurdodau lleol yng Nghymru bob amser wedi ceisio cydweithio mewn ffordd adeiladol â’r undebau llafur i sicrhau bod y gweithlu yn gallu cynnig y gwasanaethau cyhoeddus hanfodol y mae miloedd o bobl yn dibynnu arnyn nhw bob dydd.”

Dywedodd Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru, Martin Mansfield:

“Mae Llywodraeth Cymru wedi cymryd camau cadarn ac wedi gweithredu’n ddoeth wrth amddiffyn hawliau gweithwyr a datganoli yng Nghymru. Yn dilyn misoedd o ymgyrchu a chydweithio rydym yn croesawu cyfle heddiw i nodi addewid mawr y cadwyd ati ac a gyflawnwyd.  

“Bydd y gyfraith arloesol hon yn amddiffyn y ffordd Gymreig o gyflenwi gwasanaethau cyhoeddus – drwy bartneriaethau rhwng y Llywodraeth, undebau a chyflogwyr. Rydym yn gwybod yng Nghymru mai dyma’r ffordd orau o gyflenwi gwasanaethau cyhoeddus o safon. Mae’n fanteisiol i’r cyhoedd, eu gwasanaethau a’n gweithlu o fewn gwasanaethau cyhoeddus.  

“Roedd cyfraith Llywodraeth y DU yn ymosodiad ar ein gallu i gydweithio er mwyn pennu atebion sy’n atal anghydfodau sylweddol o fewn sector cyhoeddus Cymru. Ar yr un pryd maent wedi mynd ati’n gyson i danseilio’r setliad datganoli a ddeilliodd o ddwy bleidlais refferendwm yng Nghymru.   

“Bydd TUC Cymru yn gwrthwynebu unrhyw ymdrechion llechwraidd gan lywodraeth y DU i danseilio datganoli democrataidd yng Nghymru a bydd yn sicrhau bod y gyfraith Gymreig hon yn cefnogi’r ffordd Gymreig o weithio – a hynny er budd ein gwasanaethau cyhoeddus.”