Neidio i'r prif gynnwy

Nodyn adolygu

Mae ‘Deddf Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) 2020: datganiad data cyntaf’ wedi'i ddiwygio oherwydd camgymeriad a nodwyd yn y data. Mae ffigurau diwygiedig wedi'u cynnwys yn 'Deddf Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) 2020: Datganiad data ar gyfer mis Mawrth 2022 i Fawrth 2023' a'r tablau cysylltiedig. Sylwer nad yw 'Deddf Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) 2020: datganiad data cyntaf' wedi'i ddiweddaru.

Cefndir

Cafodd Deddf Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) (y Ddeddf) Gydsyniad Brenhinol ym mis Mawrth 2020 ac ar ôl cyfnod gweithredu o ddwy flynedd, daeth i rym ar 21 Mawrth 2022.

Amcan cyffredinol y ddeddfwriaeth yw helpu i ddiogelu hawliau plant drwy wahardd eu cosbi’n gorfforol, a hynny drwy ddileu amddiffyniad cosb resymol. Mae hyn yn golygu nad yw’r amddiffyniad ar gael bellach o fewn tiriogaeth Cymru i rieni na’r rhai sy’n gweithredu in loco parentis (yn gweithredu â chyfrifoldeb rhiant), fel amddiffyniad yn erbyn cyhuddiad o ymosod cyffredin ar blentyn neu guro plentyn sydd yn eu gofal.

Mae adran 3 o’r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru baratoi dau adroddiad ar effaith y Ddeddf, a’u gosod gerbron y Senedd. Rhaid cynhyrchu’r rhain cyn gynted ag y bo’n ymarferol dair a phum mlynedd ar ôl i’r Ddeddf ddod i rym (2025 a 2027).

Mae Llywodraeth Cymru wedi dechrau casglu data gan awdurdodau lleol, yr heddlu, a Gwasanaeth Erlyn y Goron er mwyn mesur yr effaith y mae’r Ddeddf yn ei chael ar wasanaethau cyhoeddus. Mae’r adroddiad hwn yn crynhoi’r data sydd wedi’u casglu hyd yn hyn.

Prif ganfyddiadau

Grant Cymorth Rhianta ar gyfer Datrysiadau y Tu Allan i’r Llys: 21 Mawrth i 30 Medi 2022

Mae’r Grant Cymorth Rhianta ar gyfer Datrysiadau y Tu Allan i’r Llys wedi cael ei gynnig gan Lywodraeth Cymru i awdurdodau lleol ers mis Mawrth 2022. Cafodd y grant ei greu wrth baratoi ar gyfer y Ddeddf yn dod i rym. Mae’n ariannu cymorth rhianta wedi’i deilwra y gall yr heddlu atgyfeirio pobl ato fel dewis arall yn lle erlyniad, mewn achosion lle mae'r heddlu'n penderfynu ei bod hi'n briodol cynnig datrysiad tu allan i'r llys.

Mae awdurdodau lleol yn cofnodi data ynghylch nifer yr atgyfeiriadau am gymorth rhianta a geir gan yr heddlu, y cyfraddau ar gyfer yr unigolion sy’n manteisio ar y cymorth ac yn ei gwblhau a’r canlyniadau i unigolion. Hefyd, caiff data demograffig a data am geisiadau ar gyfer yr ymyrraeth drwy gyfrwng y Gymraeg eu casglu. Mae crynodeb o’r data hyn am y chwe mis cyntaf ers i’r Ddeddf ddod i rym yn cael ei gyflwyno isod. Dylid dehongli’r data yn ofalus o ystyried eu bod yn ymwneud â chwe mis yn unig. Mae’r holl niferoedd yn cael eu talgrynnu i’r pump agosaf.

Yn ystod y chwe mis ar ôl i’r Ddeddf ddod i rym, roedd 55 o atgyfeiriadau am gymorth rhianta ar gyfer datrysiadau y tu allan i’r llys ar draws Cymru gan yr heddlu.

O’r 55 atgyfeiriad, dewisodd 55 o bobl fanteisio ar y cynnig o gymorth rhianta, ac o’r rheini, mae 20 wedi cwblhau’r sesiynau yn rhannol hyd yn hyn a 30 wedi cwblhau’r sesiynau yn llawn.

Cofnodwyd bod 35 o’r unigolion a atgyfeiriwyd wedi cael canlyniad cadarnhaol fel y penderfynwyd gan holiadur a gyhoeddwyd gan awdurdodau lleol ac a gwblhawyd gan y rhai sy’n manteisio ar y cymorth rhianta. Mae canlyniad cadarnhaol yn cael ei ddiffinio fel gwelliant yn ymddygiad y plentyn, neu welliant o ran lles neu effeithiolrwydd rhieni.

Gwnaed pum cais am gymorth rhianta drwy gyfrwng y Gymraeg.

Atgyfeiriadau at wasanaethau cymdeithasol: Ebrill 2021 i Mawrth 2022 (data gwaelodlin)

Mae Llywodraeth Cymru yn monitro nifer y cysylltiadau â gwasanaethau cymdeithasol a nifer yr asesiadau sy’n cael eu cwblhau gan wasanaethau cymdeithasol sy’n ymwneud â chosbi plant yn gorfforol. Cyflwynwyd y metrigau hyn fel rhan o’r Fframwaith Perfformiad a Gwella ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol ac maent wedi cael eu casglu ers Ebrill 2021, sef blwyddyn cyn i’r Ddeddf ddod i rym. Bydd hyn yn caniatáu i niferoedd cyn i’r Ddeddf ddod i rym gael eu cymharu â niferoedd ar ôl iddi ddod i rym.

Yn y flwyddyn cyn i’r Ddeddf ddod i rym, cafodd 3,245 o gysylltiadau â gwasanaethau cymdeithasol eu cofnodi lle’r oedd cosbi plant yn gorfforol yn ffactor. Mewn tua hanner y rhain (1,635), cosbi’n gorfforol oedd yr unig ffactor a gofnodwyd.

Yn y flwyddyn cyn i’r Ddeddf ddod i rym, cafodd 1,627 o asesiadau eu cofnodi gan wasanaethau cymdeithasol lle’r oedd cosbi plant yn gorfforol yn ffactor. Mewn bron i hanner y rhain (722), cosbi’n gorfforol oedd yr unig ffactor a gofnodwyd.

Gwasanaeth Erlyn y Goron

Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron yng Nghymru yn gallu monitro nifer yr achosion sy’n ymwneud â’r Ddeddf sy’n cael eu hatgyfeirio atynt, yn ogystal â faint o’r achosion hyn sy’n arwain at gyhuddiad, a beth yw canlyniadau’r achosion hyn.

Nid yw’n bosibl cyhoeddi ffigyrau sy’n ymwneud ag atgyfeiriadau at Wasanaeth Erlyn y Goron yng Nghymru ar hyn o bryd, gan fod y nifer a gofnodwyd yn llai na phump, sy’n peri’r risg o ddatgelu gwybodaeth bersonol.

Manylion cyswllt

Awdur yr adroddiad: Ryan Nicholls

Mae’r safbwyntiau a fynegwyd yn yr adroddiad hwn yn perthyn i’r ymchwilwyr ac nid o reidrwydd Llywodraeth Cymru.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:
Ryan Nicholls
Ebost: ymchwilcyfiawndercymdeithasol@llyw.cymru

Rhif Ymchwil Gymdeithasol: 14/2023
ISBN digidol 978-1-80535-436-9

Image
GSR logo