Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r grŵp yn edrych ar ffyrdd o helpu rhieni wrth i’r ddeddf gael ei rhoi ar waith.

Cyflwyniad

Cafodd y cylch gorchwyl hwn ei lunio am y tro cyntaf tra bo’r Bil yn mynd drwy’r Senedd; mae bellach wedi'i ddiweddaru, yn dilyn Cydsyniad Brenhinol, i gyfeirio at y Ddeddf a'r amserlen ar gyfer ei chychwyn.

Cefndir

Cyflwynwyd Deddf Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) 2020 (y Ddeddf) i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar 25 Mawrth 2019 a chafodd Gydsyniad Brenhinol ar 20 Mawrth 2020. Amcan cyffredinol y Ddeddf yw helpu i ddiogelu hawliau plant drwy wahardd cosbi corfforol gan rieni a'r rhai sy'n gweithredu in loco parentis.  Mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (UNCRC) yn cydnabod bod unrhyw fath o gosbi plant yn gorfforol, ni waeth pa mor ysgafn, yn anghydnaws â'u hawliau dynol o dan Erthygl 19, ac mae wedi galw am iddo gael ei ddiddymu.

Pan ddaw'r Ddeddf i rym ar 21 Mawrth 2022, ni fydd amddiffyniad cosb resymol ar gael bellach yng Nghymru i rieni na rhai sy'n gweithredu in loco parentis, fel amddiffyniad i gyhuddiad o ymosod cyffredin neu guro.

Yr effaith y bwriedir i’r Ddeddf ei chael, ynghyd â chodi ymwybyddiaeth a chefnogi rhieni, yw peri bod llai o gosbi plant yn gorfforol yn digwydd yng Nghymru a bod llai o oddefgarwch tuag ato.

Mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu Grŵp Gweithredu Strategol i ystyried y ffordd orau o roi’r Ddeddf ar waith. Mae nifer o ffrydiau gwaith wedi’u sefydlu gan gynnwys hwn, sy’n canolbwyntio ar gymorth ynghylch magu plant.

Magu plant. Rhowch amser iddo

Yn 2015 lansiodd y cyn Weinidog Cymunedau a Threchu Tlodi ymgyrch ynghylch rhianta cadarnhaol. Defnyddiodd ymgyrch ‘Magu plant. Rhowch amser iddo’ y negeseuon craidd ynghylch ‘rhoi amser’ i annog rhieni â phlant hyd at 5 mlwydd oed, i gymryd agwedd feddylgar, gadarnhaol tuag at rianta. Mae'r ymgyrch bellach yn ei phedwaredd blwyddyn ac mae'n defnyddio gwefan, tudalen Facebook, cyfrif Instagram, hysbysebion ar-lein ac ar y teledu neu yn y sinema, ac adnoddau ac esboniadau wedi’u hanimeiddio i drosglwyddo negeseuon hanfodol.

Yn 2017 ehangwyd yr ystod oedran o 5 oed i 7 mlwydd oed. Ar gyfer cam nesaf yr ymgyrch, rydym eisiau ei ehangu ymhellach, hyd at 18 oed. Rydym am wneud hyn er mwyn:

  • adeiladu ar yr hyn rydym yn gwybod ei fod yn gweithio
  • cefnogi rhieni pan fydd eu plant yn mynd drwy newidiadau emosiynol a hormonaidd a allai newid dynameg eu perthynas
  • cefnogi rhieni trwy gydol addysg eu plant, o rannu a gwneud ffrindiau i fwlio a datblygiad yr ymennydd.

Diben y Grŵp Gweithredu Arbenigol ar Rianta (PEAG)

Diben PEAG yw dod â phawb sydd â diddordeb mewn magu plant ac asiantaethau sy’n berthnasol i rianta at ei gilydd er mwyn:

  1. penderfynu ar y cymorth ychwanegol y mae ei angen ar rieni a’r rhai sydd in loco parentis, a sut i’w roi ar waith yn ymarferol ac yn effeithiol er mwyn ei gwneud yn bosibl cefnogi unrhyw newid cyn y daw y Ddeddf i rym a’i reoli’n effeithlon
  2. cefnogi ymestyn ystod oedran yr ymgyrch Magu Plant o 0-7 oed hyd at 0-18 oed
  3. defnyddio canlyniadau'r ymarfer mapio rhianta i nodi bylchau/gorgyffwrdd posibl yn y ddarpariaeth, a gwneud argymhellion i Lywodraeth Cymru ynghylch y ddarpariaeth o ran cymorth â magu plant ar sail y
  4. dadansoddiad. Os oes cymorth ychwanegol yn cael ei nodi, cefnogi unrhyw newid/ehangu gan adeiladu ar raglenni presennol e.e. Magu plant. Rhowch amser iddo, Dechrau'n Deg, Teuluoedd yn Gyntaf, rhaglen Plant Iach Cymru ac ati
  5. darparu cyngor parhaus ar bolisïau’n ymwneud â magu plant gydol oes  y cyfnod o roi’r Ddeddf ar waith.
  6. cydgysylltu â’r holl grwpiau Gorchwyl a Gorffen a chysylltu â’r Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar y Cynllun Datrysiadau y Tu Allan i'r Llys ynghylch darpariaeth a chynnwys unrhyw fodelau a argymhella’r Grŵp hwnnw fel dargyfeiriadau rhag erlyn.

Bydd PEAG yn edrych ar y tair ffrwd waith ac yn gweithio arnynt.

Cymorth rhianta ochr yn ochr â’r Ddeddf: ffrwd waith 1

Mae'r Ddeddf wedi tynnu sylw at yr angen i adolygu'r ddarpariaeth rianta bresennol ac i ystyried a oes gofyn cael rhagor o ddarpariaeth, er mwyn cefnogi'r broses o roi'r Ddeddf ar waith. Mae hyn yn cynnwys ystyried pa gymorth sydd ei angen ar gyfer rhieni plant mewn grwpiau oedran hŷn, yn ogystal â'r blynyddoedd cynnar.

Bydd canlyniadau ein hymarfer mapio gyda rhanddeiliaid mewnol ac allanol yn rhoi gwybod inni a oes bylchau yn y ddarpariaeth ac, os oes rhai, ym mhle y maen nhw.

Bydd PEAG yn edrych ar ganlyniadau’r gwaith mapio diweddar ac yn ystyried pa gefnogaeth, gwybodaeth a chyngor ychwanegol y mae eu hangen ar rieni, y rhai sy’n gweithredu in loco parentis gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda rhieni a theuluoedd, i gefnogi rhoi’r ddeddf ar waith.

Ehangu ymgyrch Magu plant. Rhowch amser iddo: ffrwd waith 2

Bydd y Grŵp yn cefnogi ehangu ymgyrch Llywodraeth Cymru, Magu Plant. Rhowch amser iddo o 0-7 i 0-18 mlwydd oed drwy roi cyngor ynghylch datblygu cynnwys yr adnoddau ychwanegol sydd eu hangen. Bydd gofyn i PEAG roi cyngor ac arweiniad ar yr agweddau canlynol o'r ymgyrch:

  • Negeseuon allweddol
  • Cynnwys yr adnoddau
  • Cynnwys y wefan
  • Sicrhau bod deunyddiau yn hygyrch i rieni ag anghenion gwahanol, a
  • Nodi’r dulliau gorau o gyfathrebu â rhieni ac ysgogi eu diddordeb.

Cymorth cyffredinol ar rianta: ffrwd waith 3

Bydd PEAG yn ystyried canlyniadau'r ymarfer mapio diweddar, yn nodi a oes bylchau/gorgyffwrdd yn y ddarpariaeth, ac yn rhoi sicrwydd bod y cyngor, yr wybodaeth a'r cymorth sydd ar gael ar hyn o bryd i rieni, i’r rhai in loco parentis, gofalwyr a theuluoedd yn briodol a/neu yn gwneud argymhellion i wella'r cymorth er mwyn sicrhau bod y ddarpariaeth ar gael i bob rhiant, y rhai sydd in loco parentis, gofalwyr a theuluoedd ledled Cymru.

Trefniadau Llywodraethiant

Bydd PEAG yn atebol i'r grŵp gweithredu strategol ac yn cael ei gyd-gadeirio gan aelod o PEAG a swyddog o Lywodraeth Cymru. Drwy Lywodraeth Cymru, bydd y cyd-gadeiryddion yn cydgysylltu adroddiadau a’r wybodaeth ddiweddaraf i'r grŵp gweithredu strategol ar ôl pob cyfarfod PEAG a/neu ar adegau priodol drwy gydol y prosiect. Yn y cyfarfod agoriadol, bydd PEAG yn penderfynu ar ffyrdd o weithio a fydd yn ei gwneud yn bosibl mynd i’r afael yn effeithiol ac yn effeithlon â’r meysydd gwaith hanfodol a nodwyd uchod. Gallai hyn ddigwydd, er enghraifft, drwy greu dau grŵp gorchwyl a gorffen neu is-grwpiau, a fyddai'n cyfarfod yn rhithwir neu wyneb yn wyneb as sail ad hoc.

Amserlenni a dyddiadau pwysig

Cynhelir cyfarfod cyntaf PEAG ar 17 Hydref, 2019. Dylai PEAG benderfynu pa mor aml y cynhelir cyfarfodydd (awgrymir bob yn dri mis) gydol oes y prosiect.Dylai hefyd ddatblygu cynllun prosiect ac, ar ôl cytuno arno, dylent ei ddilyn. Bydd angen i PEAG reoli problemau a risgiau ac adrodd i'r Grŵp Gweithredu Strategol yn unol â’r gofyn. Dylai gwaith PEAG sicrhau bod unrhyw gymorth cyffredinol ychwanegol o ran rhianta (gan gynnwys cefnogaeth y mae ei angen fel rhan o gynllun dargyfeirio) y mae gofyn ei gael ochr yn ochr â rhoi’r Ddeddf ar waith a thu hwnt, yn weithredol erbyn diwedd mis Medi 2021 fan bellaf a bod y gwaith o ehangu ymgyrch Magu plant. Rhowch amser iddo hefyd wedi’i gwblhau erbyn hynny.

Tasgau allweddol arfaethedig a dyddiadau ar gyfer PEAG

Tasg Amserlen Ffrwd waith
Datblygu cynllun prosiect, gan gynnwys tasgau ac amserlenni allweddol i gefnogi'r tair ffrwd waith ar sail canlyniadau'r ymarfer mapio. Diwedd Rhagfyr 2019 1, 2 a 3
Ystyried canlyniadau'r ymarfer mapio cymorth magu plant a darparu argymhellion cychwynnol. Diwedd Rhagfyr 2019 1 a 3
Datblygu opsiynau ar gyfer y cymorth ychwanegol ar gyfer magu plant y mae ei angen ochr yn ochr â'r Ddeddf. Diwedd Rhagfyr 2019 1
Nodi rhestr o’r adnoddau y mae gofyn eu cael i helpu i ehangu Magu plant. Rhowch amser iddo i gynnwys yr oedrannau 8-12 a 13-18 oed. Diwedd Ionawr 2020 2
Datblygu gwybodaeth, cyngor ac arweiniad i rieni a'r rhai in loco parentis, i gefnogi'r Ddeddf a thu hwnt, ac i ddarparu cymorth magu plant cyffredinol os oes angen. Diwedd Rhagfyr 2020 1 a 3
Adolygu a gwella'r rhaglenni rhianta cadarnhaol presennol gan sicrhau bod neges y Ddeddf yn cael ei hadlewyrchu. Diwedd Rhagfyr 2020 1 a 3
Datblygu adnoddau a chynnwys ar gyfer gwefan Magu plant. Rhowch amser iddo er mwyn ymestyn yr ystod oedran o 0-7 oed i 0-18 oed. Diwedd Rhagfyr 2020 2
Lansio ehangiad Magu plant. Rhowch amser iddo. Mawrth 2021 2
Cymorth ychwanegol cyffredinol ynghylch magu plant ar waith os oes ei angen. Medi 2021 1 a 3
Gwerthusiad I’w gytuno  

Rolau penodol yr Aelodau a Llywodraeth Cymru

Mae’r Aelodau yn arbenigwyr o amrywiaeth o sefydliadau â diddordeb allweddol ac arbenigedd ym meysydd cefnogi rhianta a datblygiad plant.

Dylai’r Aelodau wneud y canlynol:

  • Gwneud argymhellion ac, yn ôl yr angen, datblygu syniadau/opsiynau ar sail tystiolaeth ynghylch gwybodaeth, cyngor a chymorth rhianta ychwanegol sydd eu hangen o ganlyniad i'r Ddeddf ac, yn fwy eang, i sicrhau bod cymorth cyffredinol o ansawdd uchel ar gael ledled Cymru ynghylch magu plant.
  • Datblygu syniadau/opsiynau ar sail tystiolaeth ynghylch yr wybodaeth a'r cymorth ychwanegol sydd eu hangen ar rieni plant mewn grwpiau oedran hŷn i gefnogi'r camau i ehangu Magu plant. Rhowch amser iddo; adolygu a diwygio adnoddau presennol Magu plant. Rhowch amser iddo, gan bwysleisio technegau cadarnhaol i ddarparu cyfarwyddyd a disgyblaeth i blant heb eu cosbi’n gorfforol; a chynnwys yr effaith y gall profiadau trawmatig yn ystod plentyndod, fel gwrthdaro rhwng rhieni, a dewisiadau anffafriol o ran ffordd o fyw, ei chael ar blant gydol eu hoes.
  • Hwyluso 'r ffordd orau o sicrhau bod negeseuon yn ddealladwy i rieni gydag anghenion gwahanol, ac o gyfleu negeseuon i weithwyr proffesiynol allweddol, a chael eu cefnogaeth o ran defnyddio'r wybodaeth ychwanegol.
  • Hwyluso’r ffordd orau o gyfathrebu â rhieni a datblygu syniadau ynghylch cofnodi data a fydd yn ei gwneud yn bosibl mesur effeithiau.
  • Cyfethol arbenigedd proffesiynol i gefnogi gwaith PEAG pan fo angen.
  • Darparu adroddiadau a’r newydd diweddaraf i PEAG pan fo gofyn a chwblhau camau gweithredu a chyflawni tasgau yn gyflym er mwyn sicrhau bod cynnydd yn cael ei gynnal.
  • Tynnu sylw PEAG at broblemau wrth iddynt ddod i’r amlwg, ynghyd â syniadau am ddatrysiadau posibl.
  • Gallu gwneud penderfyniadau yn PEAG y gellir bwrw ymlaen â nhw yn sefydliadau’r aelodau eu hunain.

Bydd Llywodraeth Cymru yn darparu:

  • Cymorth polisi ac arbenigedd technegol.
  • Ysgrifenyddiaeth, cefnogaeth weinyddol a threfniadau ar gyfer y cyfarfodydd a gwaith y PEAG.
  • Papurau o fewn 5 diwrnod gwaith cyn pob cyfarfod.

Aelodaeth

Bydd aelodaeth y Grŵp Gweithredu Arbenigol ar Rianta yn cynnwys cynrychiolwyr o’r isod:

  • Academia
  • Y Rhwydwaith Cydlynwyr Rhianta Cenedlaethol
  • Cynrychiolydd o Set Ddysgu am Fagu Plant Teuluoedd yn Gyntaf
  • Cynrychiolydd o Rwydwaith Dechrau’n Deg
  • Cynrychiolydd o Raglen Teuluoedd yn Gyntaf
  • Cynrychiolwyr o’r Trydydd Sector
  • Cynrychiolydd o’r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd
  • Cynrychiolydd o CLlLC
  • Cynrychiolydd o’r Gymdeithas Rhieni ac Athrawon
  • Cynrychiolydd o Grŵp Penaethiaid Gwasanaethau Ymwelwyr Iechyd Cymru Gyfan
  • Cynrychiolydd o Grŵp Penaethiaid Bydwreigiaeth
  • Cynrychiolydd o Iechyd Cyhoeddus Cymru/o’r Bwrdd Diogelu Cenedlaethol
  • Cynrychiolydd o’r Gwasanaethau Cymdeithasol
  • Cynrychiolydd o faes Addysg
  • Cynrychiolydd  Seicolegwyr Addysg
  • Cynrychiolydd o CAFCASS Cymru
  • Cynrychiolydd o Dimau/Gwasanaethau Diogelu
  • Cynrychiolydd o Plant yng Nghymru / Cymru Ifanc
  • Cynrychiolydd o Fwrdd Pobl Ifanc Cyfiawnder Teuluol
  • Cynrychiolydd o Swyddfa Comisiynydd Plant Cymru - sylwedydd
  • Swyddog cyswllt yr Heddlu ar gyfer Llywodraeth Cymru
  • Cynrychiolydd Gofal Cymdeithasol Cymru
  • Cynrychiolydd o’r Arolygiaeth Iechyd
  • Bydd gan y Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant rôl ymgynghorol