Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r grŵp yn darparu cyngor ac argymhellion i’r Grŵp Gweithredu Strategol a Llywodraeth Cymru.

Cyflwyniad

Cafodd y cylch gorchwyl hwn ei lunio am y tro cyntaf tra bo’r Bil yn mynd drwy’r Senedd; mae bellach wedi’i ddiweddaru, yn dilyn Cydsyniad Brenhinol, i gyfeirio at y Ddeddf a’r amserlen ar gyfer ei chychwyn.

Cefndir

Cyflwynwyd Deddf Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) 2020 (y Ddeddf) i Senedd Cymru ar 25 Mawrth 2019. Amcan cyffredinol y Ddeddf yw helpu i ddiogelu hawliau plant drwy wahardd cosbi corfforol gan rieni a'r rhai sy'n gweithredu in loco parentis. Mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (UNCRC) yn cydnabod bod unrhyw fath o gosbi plant yn gorfforol, ni waeth pa mor ysgafn, yn anghydnaws â'u hawliau dynol o dan Erthygl 19, ac mae wedi galw am iddo gael ei ddiddymu.

Pan ddaw'r Ddeddf i rym, ni fydd amddiffyniad cosb resymol ar gael bellach yng Nghymru i rieni na rhai sy'n gweithredu in loco parentis, fel amddiffyniad i gyhuddiad o ymosod cyffredin neu guro.

Yr effaith y bwriedir i’r Ddeddf ei chael, ynghyd â chodi ymwybyddiaeth a chefnogi rhieni, yw peri bod llai o gosbi plant yn gorfforol yn digwydd yng Nghymru a bod llai o oddefgarwch tuag ato. Rhoddwyd Cydsyniad Brenhinol i’r Ddeddf ar 20 Mawrth 2020 a daw’r Ddeddf i rym ar 21 Mawrth 2022.

Mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu Grŵp Gweithredu Strategol i ystyried y ffordd orau o roi’r Bil ar waith. Bydd yna nifer o ffrydiau gwaith, gan gynnwys gweithrediadau, prosesau, gweithdrefnau, canllawiau a hyfforddiant.

Diben y Grŵp

Diben y grŵp yw darparu cyngor ac argymhellion i’r Grŵp Gweithredu Strategol a Llywodraeth Cymru ar:

  • Adolygu ac, os oes angen, diwygio prosesau a gweithdrefnau gwaith y cyrff perthnasol yng ngoleuni’r newid yn y gyfraith
  • Adolygu hyfforddiant a chanllawiau gweithwyr proffesiynol ac ymarferwyr i adlewyrchu’r newid yn y gyfraith, lle bo angen

Trefniadau Llywodraethiant

Bydd y Grŵp Gorchwyl a Gorffen yn atebol i’r Grŵp Gweithredu Strategol ac yn cael ei gydgadeirio gan aelod(au) o’r grŵp a swyddog o Lywodraeth Cymru. Bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Grŵp Gweithredu Strategol ym mhob cyfarfod a/neu ar adegau priodol drwy gydol y prosiect.

Amserlenni a dyddiadau pwysig

Cynhelir cyfarfod cyntaf y Grŵp ar 12 Medi 2019. Rhagwelir y bydd y grŵp yn mynd ati i benderfynu pryd i gynnal cyfarfodydd, o bosibl bob tri mis, neu mewn perthynas â dyddiadau pwysig neu gwblhau tasgau. Mae’n bosibl y cynhelir cyfarfodydd ychwanegol er mwyn trafod a chynllunio tasgau allweddol. Caiff agendâu eu cynllunio ymlaen llaw, a gall aelodau ofyn am i eitemau penodol gael eu gosod ar yr agenda drwy wneud cais o leiaf 2 wythnos cyn y cyfarfod.

Dylai gwaith y Grŵp fod wedi’i gwblhau mewn pryd i sicrhau bod unrhyw newidiadau sy’n ofynnol yn sgil gwaith y Grŵp Gweithredu Strategol a’r grwpiau gorchwyl a gorffen wedi’u gwneud cyn i’r gyfraith ddod i rym.

Tasgau a dyddiadau allweddol ar gyfer y grŵp

  • Nodi’r prosesau, y gweithrediadau a’r gweithdrefnau y mae angen eu hadolygu - Diwedd Mehefin2020
  • Nodi’r gofynion o ran hyfforddiant a chanllawiau - Diwedd Mehefin 2020
  • Datblygu unrhyw newidiadau/ychwanegiadau i’r canllawiau a’r hyfforddiant - Diwedd Tachwedd 2020
  • Trefnu bod y cyrff cyfrifol perthnasol yn cymeradwyo’r canllawiau a’r hyfforddiant cyn i’r newid yn y gyfraith ddod i rym - Diwedd Mawrth 2021
  • Y gyfraith newydd yn dod i rym - 21 Mawrth 2022

Rolau penodol yr Aelodau a Llywodraeth Cymru

Daw’r aelodau o amrywiaeth o sefydliadau, ac mae ganddynt ddealltwriaeth a diddordeb yn y goblygiadau i sefydliadau o ran prosesau, arferion, hyfforddiant a chanllawiau.

Gofynnir i’r aelodau fonitro i ba raddau y cyflawnir cerrig milltir allweddol y rhaglen a darparu arbenigedd yn y meysydd canlynol:

  • yr arferion a ddilynir nawr ac yn y dyfodol a’r effeithiau posibl ar weithdrefnau a phrosesau i’r cyrff perthnasol a’r cyrff y maent yn cydweithio’n agos â nhw
  • ystyried a gwneud argymhellion ynghylch Gweithrediadau, Canllawiau a Hyfforddiant sefydliadau
  • y mecanweithiau ar gyfer cyflawni’r newidiadau hynny (a argymhellir) a chamau cysylltiedig, megis codi ymwybyddiaeth o’r newid yn y gyfraith ymhlith gweithwyr proffesiynol mewn sefydliadau perthnasol
  • cyngor ar arbenigedd technegol i gyfethol i’r grŵp i gefnogi’r gwaith pan fo angen

Bydd Llywodraeth Cymru yn darparu:

  • Cymorth polisi ac arbenigedd
  • Ysgrifenyddiaeth, cefnogaeth weinyddol a threfniadau ar gyfer y cyfarfodydd a gwaith y grŵp
  • Gwybodaeth ym mhob cyfarfod gan y Grŵp Gweithredu Strategol a’r grwpiau gorchwyl a gorffen eraill
  • Papurau o fewn 5 diwrnod gwaith cyn pob cyfarfod.

Aelodaeth

Bydd aelodaeth y grŵp yn cynnwys:

  • Gwasanaeth Erlyn y Goron Cymru
  • Cymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru
  • Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Mawrhydi
  • Cymdeithas Cyfreithwyr Cymru
  • Fforwm Penaethiaid Gwasanaethau Ymwelwyr Iechyd a Nyrsys Ysgol Cymru Gyfan
  • Tîm Diogelu’r GIG
  • Heddlu Cymru
  • Comisiynwyr Heddlu a Throseddu
  • Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru
  • Llywodraeth Cymru
  • Y Coleg Nyrsio Brenhinol
  • Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant Cymru
  • Byrddau Diogelu Rhanbarthol
  • Plant yng Nghymru
  • Cwlwm
  • Undeb Addysg Cenedlaethol Cymru