Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r grŵp yn darparu cyngor ar gyfer datblygu a defnyddio cynllun datrysiadau y tu allan i’r llys wrth i’r ddeddf gael ei rhoi ar waith.

Cyflwyniad

Cafodd y cylch gorchwyl hwn ei lunio am y tro cyntaf tra bo’r Bil yn mynd drwy’r Senedd; mae bellach wedi’i ddiweddaru, yn dilyn Cydsyniad Brenhinol, i gyfeirio at y Ddeddf a’r amserlen ar gyfer ei chychwyn.

Cefndir

Cyflwynwyd Deddf Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) 2020 (y Ddeddf) i’r Senedd ar 25 Mawrth 2019 a chafodd Gydsyniad Brenhinol ar 20 Mawrth 2020. Amcan cyffredinol y Ddeddf yw helpu i ddiogelu hawliau plant drwy wahardd cosbi corfforol gan rieni a'r rhai sy'n gweithredu in loco parentis. Mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (UNCRC) yn cydnabod bod unrhyw fath o gosbi plant yn gorfforol, ni waeth pa mor ysgafn, yn anghydnaws â'u hawliau dynol o dan Erthygl 19, ac mae wedi galw am iddo gael ei ddiddymu.

Pan ddaw'r Ddeddf i rym ar 21 Mawrth 2022, ni fydd amddiffyniad cosb resymol ar gael bellach yng Nghymru i rieni na rhai sy'n gweithredu in loco parentis, fel amddiffyniad i gyhuddiad o ymosod cyffredin neu guro.

Yr effaith y bwriedir y Ddeddf i’w chael, ynghyd â chodi ymwybyddiaeth a chefnogi rhieni, yw peri bod llai o gosbi plant yn gorfforol yn digwydd yng Nghymru a bod llai o oddefgarwch tuag ato.

Mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu Grŵp Gweithredu Strategol i ystyried y ffordd orau o roi’r Bil ar waith. Bydd nifer o ffrydiau gwaith, gan gynnwys cynlluniau datrysiadau y tu allan i’r llys.

Diben y Grŵp

Diben y grŵp yw darparu cyngor ac argymhellion ynghylch opsiynau ar gyfer datblygu a defnyddio cynllun datrysiadau y tu allan i’r llys, ar gyfer unigolion sydd o bosib wedi cael eu cyhuddo o ymosodiad cyffredin neu guro plentyn, dan amgylchiadau pan fyddai’r amddiffyniad cosb resymol wedi bod yn gymwys cyn i’r Ddeddf gychwyn. Bydd y Grŵp yn cynnig cyngor strategol i Lywodraeth Cymru ynghylch caffael, ariannu a neilltuo adnoddau mewn perthynas ag unrhyw gynllun datrysiadau posibl.

Y bwriad fyddai sicrhau fod proses yn ei lle i ganiatáu ar gyfer ymateb cymesur er budd y plentyn, gan ystyried amgylchiadau pob achos yn unigol. O ran cynllun datrysiadau posibl, y nod fyddai ystyried y system datrysiadau y tu allan i’r llys y gellid cyrraedd at gynllun o’r fath drwyddo, a darparu cynllun a fyddai’n helpu rhieni a’r rhai sy’n gweithredu in loco parentis i fabwysiadu ffyrdd cadarnhaol o ddisgyblu ac osgoi’r perygl o ail-droseddu. Byddai angen i unrhyw gynllun datrysiadau fod yn gyson ag egwyddorion/canllawiau gweithredol a strategol y mae’r heddlu yn eu dilyn ar hyn o bryd (ee yr hyn a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Gartref; y Weinyddiaeth Gyfiawnder a Chyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu).

Trefniadau Llywodraethiant

Bydd y grwp Gorchwyl a Gorffen yn atebol i’r Grŵp Gweithredu Strategol, ac yn cael ei gyd-gadeirio gan aelod o’r grŵp a swyddog Llywodraeth Cymru. Bydd cyd-gadeirydd Llywodraeth Cymru yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Grŵp Gweithredu Strategol ar ôl pob cyfarfod ac ar adegau priodol drwy gydol y prosiect.

Amserlenni a dyddiadau pwysig

Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf y Grŵp ar 11 Gorffennaf 2019. Rhagwelir y bydd y grŵp yn cyfarfod yn chwarterol ond mae’n bosibl y bydd cyfarfodydd ychwanegol yn cael eu cynnal i ganiatáu ar gyfer trafod a chynllunio tasgau allweddol. Dylai gwaith y Grŵp fod wedi’i gwblhau mewn pryd i sicrhau bod y canllawiau, hyfforddiant ac unrhyw gynllun datrysiadau yn eu lle cyn i’r gyfraith ddod i rym.

Mae’r amserlen hon yn debyg o newid wrth i’r gwaith fynd rhagddo, ac mae’n bosibl hefyd y bydd y pandemig COVID-19 yn effeithio arni.

Tasgau a dyddiadau allweddol ar gyfer y grŵp

  • Mapio’r seilwaith presennol ar gyfer Cynlluniau Datrysiadau y Tu Allan i’r Llys yng Nghymru - Diwedd Medi 2019
  • Datblygu opsiynau ar gyfer cynlluniau datrysiadau y tu allan i’r llys, gan gynnwys unrhyw gymorth priodol a ddarperir fel rhan o’r cynlluniau - Diwedd Ionawr 2020
  • Penderfynu ar opsiwn i’w ddilyn a datblygu manylion penodol y cynllun a’r broses gysylltiedig - Diwedd Mehefin/Gorffennaf 2020
  • Cychwyn y Broses Gaffael - Medi 2020
  • Gorffen y Broses Gaffael - Mai 2021
  • Datblygu canllawiau a hyfforddiant - Diwedd Tachwedd 2021
  • Canllawiau a hyfforddiant yn eu lle - Diwedd Ionawr 2022
  • Cynllun datrysiadau yn weithredol - Mawrth 2022
  • Gwerthuso’r cynllun - I’w gadarnhau

Rolau penodol yr Aelodau a Llywodraeth Cymru

Daw’r aelodau o amrywiol sefydliadau sydd â buddiant neu ddealltwriaeth allweddol o ddatblygu cynlluniau datrysiadau y tu allan i’r llys a goblygiadau gwyro oddi wrth erlyniad.

Bydd gofyn i aelodau fonitro’r hyn sy’n cael ei gyflawni yn erbyn cerrig milltir allweddol, a darparu arbenigedd yn y meysydd canlynol:

  • sut y gallai cynllun datrysiadau gael ei weithredu
  • gwneud argymhellion o ran penderfyniadau ar drefniadau cyllid ac adnoddau
  • systemau cymeradwyo cynllun datrysiadau; y dulliau cyflawni mwyaf priodol a chamau gweithredu cysylltiedig fel diweddaru canllawiau a hyfforddiant; rheoli’r cynllun
  • sut gall amrywiol ddatrysiadau y tu allan i’r llys effeithio ar gofnod troseddol unigolyn
  • canllawiau ar broses sicrhau ansawdd a fydd yn hybu cysondeb o ran penderfyniadau a chyflawni mewn perthynas â’r cynllun datrysiadau
  • cyngor ynghylch arbenigedd technegol i’w gyfethol i’r grŵp er mwyn cefnogi’r rhaglen waith, pan fo’n ofynnol.

Bydd Llywodraeth Cymru yn darparu:

  • Cymorth polisi ac arbenigedd
  • Ysgrifenyddiaeth, cefnogaeth weinyddol a threfniadau ar gyfer y cyfarfodydd a gwaith y grŵp
  • Yr wybodaeth ddiweddaraf gan y Grŵp Gweithredu Strategol a’r grwpiau gorchwyl a gorffen eraill ym mhob cyfarfod
  • Papurau o fewn 5 diwrnod gwaith cyn pob cyfarfod.

Aelodaeth

Bydd aelodau’r grŵp Datrysiadau y Tu Allan i’r Llys yn cynnwys:

  • Gwasanaeth Erlyn y Goron Cymru
  • Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Mawrhydi
  • Heddlu Cymru
  • Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru
  • Y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd
  • Cymdeithas Cyfreithwyr Cymru
  • Comisiynwyr Heddlu a Throseddu Cymru
  • Llywodraeth Cymru