Deddf Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) 2020 cyfarfod y Grŵp Gweithredu Arbenigol ar Rianta: 6 Hydref 2020
Cofnodion o’r cyfarfod rhithwir a gynhaliwyd 6 Hydref 2020.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
1. Croeso a chyflwyniadau
Estynnodd Llywodraeth Cymru groeso i’r sawl a oedd yn bresennol yn y cyfarfod a gofynnwyd i bawb eu cyflwyno eu hunain.
2. Crynodeb o gyfarfod 23/1/2020
Gofynnwyd i’r Grŵp ystyried y crynodeb o gyfarfod 23/1/2020.
3. Trosolwg o’r Ddeddf a diweddariad
Rhoddodd Llywodraeth Cymru drosolwg o’r Ddeddf a diweddariad yn ei chylch ac ynghylch y grwpiau gweithredu cysylltiedig, gan gynnwys diweddariad mwy manwl ynghylch y gwaith cyfathrebu sy’n gysylltiedig â’r Ddeddf.
4. Diweddariad ynghylch rhianta a chyfathrebu
Rhoddodd Llywodraeth Cymru ddiweddariad ynghylch y polisi rhianta a’r gwaith cyfathrebu a oedd wedi digwydd yng nghyswllt Magu Plant. Rhowch amser iddo ers y cyfnod clo, gan gynnwys manylion am nifer o adnoddau Cynghorion Defnyddiol ychwanegol a oedd wedi’u creu a’u hyrwyddo. Mae’r wefan Magu Plant. Rhowch amser iddo wedi’i hadolygu a’i diweddaru ac mae’n crynhoi gwybodaeth dan dair prif thema, sef ‘Ymddygiad plant’, ‘Rhowch amser iddynt’ ac ‘Eich cefnogi chi’.
5. Ystorfa wybodaeth
Cyflwynodd Llywodraeth Cymru y papur ar yr ystorfa wybodaeth, a ddarparwyd i’r Grŵp, a chafwyd trafodaeth ynghylch y dasg newydd hon. Roedd y dasg wedi’i hychwanegu at gynllun gweithredu’r Grŵp Gweithredu Arbenigol ar Rianta.
6. Gweithdai
Rhannwyd y Grŵp yn ddau weithdy i drafod:
Gweithdy 1 – Datblygu ffrwd waith y Grŵp Arbenigol ar Rianta
Gweithdy 2 – Rhaglen Rianta wedi’i Theilwra
7. Adborth o’r gweithdai
Darparodd Llywodraeth Cymru grynodeb o’r gweithdai a diolchwyd i bawb am eu cyfraniad i’r trafodaethau.
8. Unrhyw fater arall a sylwadau clo
Diolchodd y Cadeiryddion i bawb am fynychu.