Neidio i'r prif gynnwy

1. Croeso a chyflwyniadau

Estynnwyd croeso i’r sawl a oedd yn bresennol yn y cyfarfod.

2. Cofnodion a chamau gweithredu’r cyfarfod blaenorol

Cytunwyd bod cofnodion y cyfarfod diwethaf a gynhaliwyd ar 25 Chwefror 2020 yn gywir.

3. Y Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar Ddatrysiadau y Tu Allan i’r Llys

Darparwyd diweddariad ar waith y Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar Ddatrysiadau y Tu Allan i’r Llys. Roedd y Grŵp hwnnw wedi cwrdd ar 2 Rhagfyr ac wedi ystyried opsiynau ar gyfer cynllun dargyfeirio.

4. Diweddariad ynghylch cyfathrebu

Darparwyd diweddariad ynghylch cynlluniau i godi ymwybyddiaeth o’r newid yn y gyfraith. Daeth yr ymgyrch i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd o Ddeddf Plant Cymru i stop yn swyddogol tra oedd holl waith cyfathrebu Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio ar yr ymateb i’r argyfwng Covid-19. Bydd yr ymgyrch codi ymwybyddiaeth yn cynnwys ymgyrch amlgyfrwng wedi’i dargedu a fydd yn golygu ymgysylltu â rhanddeiliaid a chynulleidfaoedd penodol, yn ogystal ag ystod o hysbysebion a gwaith ym maes cysylltiadau cyhoeddus. Y nod yw sicrhau, i’r graddau y bo’n bosibl, y bydd y cyhoedd yng Nghymru yn ymwybodol o’r newid yn y gyfraith. Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda grwpiau, cymunedau a sefydliadau penodol i roi gwybod iddynt am y newid yn y gyfraith ac i ystyried a allai fod angen mwy o gymorth, cyngor a gwybodaeth. Mae’r pwyslais ar hyn o bryd yn ystod y cam hwn ar ymgysylltu â rhanddeiliaid, sy’n cynnwys rhoi cyflwyniadau rhagarweiniol i ystod eang o randdeiliaid trwy asiantaeth cysylltiadau cyhoeddus (mae’r manylion yn y llythyr newyddion). Yn ystod y cyfnod hwn, caiff ystod o adnoddau eu datblygu ar gyfer yr ymgyrch hefyd, sy’n cynnwys nodyn briffio un dudalen am y ddeddfwriaeth.

Trafodaeth

Bu’r grŵp yn trafod y broses ddiogelu yng nghyswllt Deddf Plant Cymru. At ei gilydd ni fydd y ddwy broses, sef diogelu a’r broses cyfiawnder troseddol sy’n cyd-fynd â hi, yn newid. Bydd sefydliadau’n parhau i ddilyn Gweithdrefnau Diogelu Cymru (diogelu) a’r Cod i Erlynwyr y Goron/y Safon Gyhuddo (cyfiawnder troseddol).

Mae Gweithdrefnau Diogelu Cymru yn darparu safonau cyffredin i lywio’r gwaith o amddiffyn plant, y mae pob gweithiwr proffesiynol sy’n gweithio gyda phlant a theuluoedd yn ei wneud.

Mae’r heddlu yn dilyn proses ddiogelu Gweithdrefnau Diogelu Cymru, ond yn dilyn y broses cyfiawnder troseddol hefyd os yw’r Cod i Erlynwyr y Goron (prawf cod llawn) a’r Safon Gyhuddo ar gyfer Troseddau yn erbyn y Person yn berthnasol. Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron yn gyfrifol am ddiweddaru’r Cod i Erlynwyr y Goron a’r Safon Gyhuddo. Mae’r Cod i Erlynwyr y Goron eisoes wedi’i ddiweddaru â’r egwyddor gyffredinol ganlynol: “Lle mae’r gyfraith yn gwahaniaethu yng Nghymru a Lloegr, mae’n rhaid i erlynwyr weithredu’r Cod ac ystyried unrhyw bolisi, arweiniad neu safon gyhuddo berthnasol.”

Cafwyd trafodaeth hefyd ynghylch pa arweiniad a hyfforddiant a allai fod yn ofynnol ar gyfer y gweithlu.