Deddf Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) 2020 cyfarfod y Grŵp Casglu Data a Monitro: 29 Medi 2020
Cofnodion o’r cyfarfod a gynhaliwyd 29 Medi 2020.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
1. Croeso a chyflwyniadau
Rhoddodd Llywodraeth Cymru ddiweddariad ynghylch statws cyfredol y Ddeddf o ran gweithredu:
- Cafwyd Cydsyniad Brenhinol ar 20 Mawrth 2020 a bydd y gyfraith yn cychwyn ar 21 Mawrth 2022.
- Rhoddwyd stop ar y rhaglen waith ar gyfer gweithredu’r Ddeddf rhwng mis Ebrill a mis Mehefin o ganlyniad i Covid-19.
- Rhoddwyd stop ar y gwaith o weithredu metrigau gwasanaethau cymdeithasol; rhagwelir y bydd data sylfaenol yn dal i gael ei gasglu cyn cychwyn y Ddeddf.
2. Diweddariad ynghylch y Ddeddf - cyfathrebu
Rhoddodd Llywodraeth Cymru ddiweddariad ynghylch yr ymgyrch cyfathrebu ar gyfer y Ddeddf:
- Yn sgil Covid-19, mae’r strategaeth gyfathrebu ar gyfer y flwyddyn ariannol hon wedi’i haildrefnu ac mae’r pwyslais ar ymgysylltu â rhanddeiliaid, sectorau a grwpiau ac ar gynhyrchu deunyddiau i ategu’r ymgyrch sy’n targedu’r cyhoedd, a fydd yn dechrau yn y flwyddyn ariannol nesaf, cyn cychwyn y Ddeddf ym mis Mawrth 2022.
3. Diweddariad ynghylch y Grwpiau Gorchwyl a Gorffen eraill
Cafwyd crynodeb gan Lywodraeth Cymru o weithgarwch y Grwpiau Gorchwyl a Gorffen eraill:
- Cyfarfu’r Grŵp Gweithredu Strategol yn rhithwir ym mis Awst.
- Mae’r Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar Weithrediadau, Canllawiau a Hyfforddiant wedi bod yn archwilio prosesau ar gyfer diweddaru canllawiau a hyfforddiant i sefydliadau.
- Mae’r Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar Weithrediadau, Canllawiau a Hyfforddiant yn bwriadu cynnal ymarfer rhithwir HYDRA sy’n ystyried senarios o ran prosesau, a fydd yn cynnwys yr Heddlu, Gwasanaethau Plant a Gwasanaeth Erlyn y Goron.
- Mae’r Grŵp Gweithredu Arbenigol ar Rianta yn parhau i weithio er mwyn sicrhau bod digon o gymorth ar gael i rieni cyn cychwyn y Ddeddf. Mae hefyd yn cynorthwyo i ddatblygu adnoddau ar gyfer ymgyrch Magu Plant. Rhowch amser iddo Llywodraeth Cymru, a fydd yn darparu gwybodaeth a chyngor ynghylch ffyrdd cadarnhaol o reoli ymddygiad plant heb ddefnyddio cosb gorfforol.
4. Cofnodion y cyfarfod diwethaf
Cytunwyd bod y cofnodion yn gofnod cywir o’r cyfarfod a gynhaliwyd ar 26 Chwefror 2020.
5. Cyngor i’r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Cyflwynodd Llywodraeth Cymru lythyr drafft i’r grŵp, a oedd yn tynnu sylw at bwyntiau penodol sy’n ymwneud â’r sefydliadau a gaiff eu cynrychioli yn y grŵp.
Cafodd aelodau’r grŵp eu gwahodd i gyflwyno unrhyw newidiadau i’r llythyr cyn iddo gael ei ystyried yng nghyfarfod nesaf y Grŵp Gweithredu Strategol.
Bu cynrychiolwyr o bob sefydliad yn trafod y pwyntiau yn y llythyr, a oedd yn ymwneud â’u meysydd, ac awgrymwyd newidiadau lle’r oedd angen.
6. Trafodaeth o amgylch y bwrdd
Bu’r grŵp yn trafod y camau nesaf. Cytunwyd y byddai modd rhoi sylw’n awr i weithredu gwaith casglu data gan Wasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Mawrhydi a Gwasanaeth Erlyn y Goron.