Neidio i'r prif gynnwy

Beth yw Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru)?

Beth yw’r ddeddf?

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) yn ymwneud â gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru.

Bydd yn helpu’r cyrff cyhoeddus sydd wedi’u rhestru yn y Ddeddf i feddwl am y tymor hir, gweithio’n well gyda phobl a chymunedau a chyda’i gilydd, ceisio atal problemau a dilyn dull gweithredu cyson.

Bydd hyn yn ein helpu ni i greu Cymru yr ydym i gyd eisiau byw ynddi, nawr ac yn  y dyfodol.

Er mwyn gwneud yn siŵr ein bod i gyd yn gweithio tuag at yr un weledigaeth, mae’r Ddeddf yn pennu saith o nodau llesiant.

Nodau llesiant

  • Cymru lewyrchus
  • Cymru gydnerth
  • Cymru iachach
  • Cymru sy’n fwy cyfartal
  • Cymru o gymunedau cydlynus
  • Cymru â  diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu
  • Cymru sy’n  gyfrifol ar lefel fyd-eang
Image

Pam mae angen y gyfraith hon?

Mae Cymru’n wynebu sawl her nawr ac yn y dyfodol, fel newid yn yr hinsawdd, tlodi, anghydraddoldeb iechyd a swyddi a thwf. I fynd i’r afael â’r rhain, mae’n rhaid i ni gydweithio. I roi i genedlaethau heddiw ac yfory fywyd o ansawdd da, mae’n rhaid i ni feddwl am effeithiau tymor hir ein penderfyniadau. Bydd y gyfraith hon yn sicrhau bod ein sector cyhoeddus ni’n gwneud hyn.

Sut mae’n gweithio?

Datblygu cynaliadwy

Mae datblygu cynaliadwy yn ymwneud â gwella’r ffordd yr ydym yn sicrhau ein llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol. Mae’r Ddeddf yn dechrau drwy roi diffiniad o beth  rydym yn ei olygu wrth ddweud datblygu cynaliadwy.

Yn y Ddeddf hon, ystyr “datblygu cynaliadwy” yw’r broses o wella  llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru drwy weithredu, yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy, gan anelu at gyrraedd y nodau llesiant.

Rhan 2 ‘Gwella Llesiant’, adran 2 ‘Datblygu cynaliadwy’.

Er mwyn i Gymru fod yn gynaliadwy, mae’n bwysig ein bod yn gwella’r pedair agwedd ar ein llesiant. Mae pob un mor bwysig â’i gilydd.

Dyletswydd llesiant

Mae’r Ddeddf yn pennu dyletswydd y bydd disgwyl i gyrff cyhoeddus ei chyflawni. Ystyr dyletswydd yw bod rhaid iddynt wneud hyn yn ôl y gyfraith. Mae’r ddyletswydd llesiant yn dweud:

Rhaid i bob corff cyhoeddus ymgymryd â datblygu cynaliadwy.

Rhaid i weithredoedd corff cyhoeddus wrth ymgymryd â datblygu cynaliadwy gynnwys:

  1. gosod a chyhoeddi amcanion (“amcanion llesiant”) sy’n cael eu cynllunio i sicrhau  ei fod yn cyfrannu i’r eithaf at gyrraedd pob un o’r nodau llesiant, a
  2. cymryd pob cam rhesymol (wrth arfer ei swyddogaethau) i gyflawni’r amcanion  hynny.

Rhan 2 ‘Gwella Llesiant’, adran 3 ‘Dyletswydd Llesiant ar gyrff cyhoeddus’, paragraffau  (1) a (2).

Mae hyn yn golygu bod rhaid i bob corff cyhoeddus sydd wedi’u rhestru yn y Ddeddf weithio i wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Er mwyn gwneud hyn, mae’n rhaid iddynt osod a chyhoeddi amcanion llesiant.

Bydd yr amcanion hyn yn dangos sut bydd pob corff cyhoeddus yn gweithio i weledigaeth ar gyfer Cymru sydd wedi’i datgan yn y nodau llesiant. Wedyn rhaid i gyrff cyhoeddus weithredu er mwyn gwneud yn siŵr eu bod yn bodloni’r amcanion maent yn eu gosod.

Pa gyrff cyhoeddus sy’n dod o dan ddyletswydd llesiant y ddeddf?

  • Gweinidogion Cymru
  • Awdurdodau lleol
  • Byrddau iechyd lleol
    • Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
    • Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
    • Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro
    • Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg
    • Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
    • Bwrdd Iechyd Addysgu Powys
    • Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe
  • Iechyd Cyhoeddus Cymru
  • Ymddiriedolaeth GIG Felindre
  • Awdurdodau parciau cenedlaethol
    • Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog
    • Parc Cenedlaethol Eryri
    • Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro
  • Awdurdodau tân ac achub
    • Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru
    • Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru
    • Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru
  • Cyfoeth Naturiol Cymru
  • Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru
  • Cyngor Celfyddydau Cymru
  • Cyngor Chwaraeon Cymru
  • Llyfrgell Genedlaethol Cymru
  • Amgueddfa Cymru

Nodau llesiant

Mae’r saith o nodau llesiant yn dangos y math o Gymru rydym eisiau ei gweld. Gyda’i gilydd maent yn darparu gweledigaeth ar y cyd ar gyfer y cyrff cyhoeddus sydd wedi’u rhestru yn y Ddeddf, i weithio tuag ati.

Maent yn gyfres o nodau; mae’r Ddeddf yn datgan yn glir bod rhaid i gyrff cyhoeddus weithio i gyflawni’r holl nodau, nid dim ond un neu ddau.

Cymru lewyrchus

Cymdeithas arloesol, gynhyrchiol, carbon isel sy’n cydnabod y terfynau sydd ar yr amgylchedd byd-eang ac sydd, o ganlyniad, yn defnyddio adnoddau mewn modd effeithlon a chymesur (gan gynnwys gweithredu ar newid yn yr hinsawdd); ac sy’n datblygu poblogaeth fedrus ac addysgedig mewn economi sy’n cynhyrchu cyfoeth ac yn cynnig cyfleoedd cyflogaeth, gan ganiatáu i bobl fanteisio ar y cyfoeth a gynhyrchir drwy gael gafael ar waith addas.

Cymru gydnerth

Cenedl sy’n cynnal ac yn gwella amgylchedd naturiol bioamrywiol gydag ecosystemau iach gweithredol sy’n cynnal cydnerthedd cymdeithasol, economaidd ac ecolegol ynghyd â’r gallu i addasu i newid (er enghraifft newid yn yr hinsawdd).

Cymru iachach

Cymdeithas lle mae llesiant corfforol a meddyliol pobl cystal â phosibl a lle deellir dewisiadau ac ymddygiadau sydd o fudd i iechyd yn y dyfodol.

Cymru sy’n fwy cyfartal

Cymdeithas sy’n galluogi pobl i gyflawni eu potensial ni waeth beth fo’u cefndir neu eu hamgylchiadau (gan gynnwys eu cefndir a’u hamgylchiadau cymdeithasol-economaidd).

Cymru o gymunedau cydlynus

Cymunedau atyniadol, hyfyw a diogel sydd â chysylltiadau da.

Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu

Cymdeithas sy’n hyrwyddo ac yn gwarchod diwylliant, treftadaeth a’r Gymraeg ac sy’n annog pobl i gyfranogi yn y celfyddydau, a chwaraeon a gweithgareddau hamdden.

Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang

Cenedl sydd, wrth iddi wneud unrhyw beth i wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru, yn ystyried a allai gwneud peth o’r fath gyfrannu’n gadarnhaol at lesiant byd-eang.

Dangosyddion cenedlaethol a cherrig milltir

Er mwyn ein helpu i wybod a ydym yn gwneud cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, mae’n rhaid i Weinidogion Cymru bennu dangosyddion cenedlaethol.

Mewn perthynas â dangosydd cenedlaethol:

  1. Rhaid iddo gael ei ddatgan ar ffurf gwerth y gellir ei fesur, neu nodwedd y gellir ei mesur, yn feintiol neu’n ansoddol yn erbyn canlyniad penodol
  2. Caniateir ei fesur dros unrhyw gyfnod y mae Gweinidogion Cymru yn ei ystyried yn briodol
  3. Caniateir ei fesur mewn perthynas â Chymru neu unrhyw ran o Gymru.

Rhan 2, ‘Gwella Llesiant’, adran 10 ‘Dangosyddion cenedlaethol ac adroddiad llesiant blynyddol’, paragraff (2).

Hefyd mae’n rhaid i Weinidogion bennu cerrig milltir er mwyn i ni allu gweld beth fedrai’r dangosyddion eu dangos ar adegau penodol yn y dyfodol. Mae’r Ddeddf yn galluogi’r Gweinidogion i adolygu a diwygio’r dangosyddion cenedlaethol a’r cerrig milltir er mwyn iddynt barhau’n gyfredol ac yn berthnasol. Ar ddechrau pob blwyddyn ariannol, mae’n rhaid i Weinidogion gyhoeddi adroddiad cynnydd blynyddol yn datgan y cynnydd a wnaed yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Llesiant Cymru: cyfres ystadegau ac ymchwil

Adroddiad tueddiadau’r dyfodol

Mae’n bwysig ein bod yn deall yr heriau y byddwn yn eu hwynebu a bod gennym ddarlun clir o’r cyfeiriad rydym yn anelu ato. I wneud hyn, o fewn deuddeg mis ar ôl etholiad Cynulliad, rhaid i Weinidogion gyhoeddi ‘Adroddiad Tueddiadau’r Dyfodol’ sy’n cynnwys:

  1. Rhagfynegiadau ynghylch y tueddiadau tebygol yn llesiant economaidd,cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru yn y dyfodol, ac
  2. Unrhyw ddata dadansoddol a gwybodaeth gysylltiedig y mae Gweinidogion Cymru yn eu hystyried yn briodol.

Rhan 2 ‘Gwella Llesiant’, adran 11 ‘Adroddiad tueddiadau tebygol y dyfodol’, paragraff (1).

Wrth baratoi’r adroddiad, rhaid i Weinidogion ystyried nodau datblygu cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig ac effaith y newid yn yr hinsawdd ar Gymru.

Tueddiadau’r Dyfodol: 2017

 

Egwyddor datblygu cynaliadwy

Mae’r Ddeddf wedi pennu ‘egwyddor datblygu cynaliadwy’ er mwyn dweud wrth sefydliadau sut i gyflawni eu dyletswydd dan y Ddeddf.

Yn y Ddeddf hon, mae unrhyw gyfeiriad at y ffaith bod corff cyhoeddus yn gwneud rhywbeth “yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy” yn golygu bod yn rhaid i’r corff weithredu mewn modd sy’n ceisio sicrhau bod anghenion y presennol yn cael eu diwallu heb beryglu gallu cenedlaethau’r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion hwythau.

Rhan 2 ‘Gwella Llesiant’, adran 5 ‘Yr egwyddor datblygu cynaliadwy’, paragraff (1).

Wrth wneud eu penderfyniadau, rhaid i gyrff cyhoeddus wneud yn siŵr eu bod yn ystyried yr effaith y gallent ei chael ar bobl sy’n byw eu bywydau yng Nghymru yn y dyfodol.

Mae 5 peth y mae’n rhaid i gyrff cyhoeddus feddwl amdanynt i ddangos eu bod wedi dilyn yr egwyddor datblygu cynaliadwy. Bydd cadw at y dulliau gweithio hyn yn ein helpu ni i gydweithio’n well, osgoi ailadrodd camgymeriadau’r gorffennol a mynd i’r afael â rhai o’r heriau hirdymor rydym yn eu hwynebu.

1. Hirdymor

Pwysigrwydd sicrhau cydbwysedd rhwng anghenion tymor byr a’r angen am ddiogelu’r gallu i ddiwallu anghenion tymor hir hefyd.

2. Atal

Sut gall gweithredu i atal problemau rhag digwydd neu waethygu helpu cyrff cyhoeddus i gyflawni eu hamcanion.

3. Integreiddio

Ystyried sut gall amcanion llesiant y corff cyhoeddus effeithio ar bob un o’r nodau llesiant, ar bob un o’u hamcanion eraill, neu ar amcanion cyrff cyhoeddus eraill.

4. Cydweithio

Gallai cydweithredu ag unrhyw berson arall (neu wahanol adrannau yn y corff ei hun) helpu’r corff i fodloni ei amcanion llesiant.

5. Cynnwys

Pwysigrwydd cynnwys pobl sydd â diddordeb mewn cyflawni’r nodau llesiant, a sicrhau bod y bobl hynny’n adlewyrchu amrywiaeth yr ardal maent yn ei gwasanaethu.

Tryloywder

Mae’n bwysig bod cyrff cyhoeddus yn defnyddio’r egwyddor datblygu cynaliadwy yn eu gwaith a’u bod yn gallu dangos i bobl eu bod yn gwneud cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant. Mae’r Ddeddf yn pennu nifer o gamau er mwyn gwneud yn siŵr bod y cyrff cyhoeddus sydd wedi’u rhestru yn y Ddeddf yn gwneud hyn:

Datganiad llesiant

Rhaid i gyrff cyhoeddus gyhoeddi datganiad wrth bennu eu hamcanion llesiant, yn esbonio pam maent yn teimlo y bydd yr amcan o help iddynt gyflawni’r nodau a sut maent wedi cadw at yr egwyddor datblygu cynaliadwy. Hefyd mae’n rhaid iddynt wneud yn siŵr eu bod yn cynnwys pobl sydd â diddordeb mewn cyflawni’r nodau, a bod y bobl hynny’n adlewyrchu amrywiaeth eu hardal.

Adroddiad blynyddol

Bob blwyddyn mae’n rhaid i gyrff cyhoeddus gyhoeddi adroddiad blynyddol yn dangos y cynnydd maent wedi’i wneud gyda chyflawni eu hamcanion.

Ymateb i Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol

Pan mae Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol yn gwneud argymhellion i gorff cyhoeddus, mae’n rhaid i’r corff gyhoeddi ei ymateb. Os na fydd y corff cyhoeddus yn dilyn yr argymhelliad, mae’n rhaid iddo ddweud pam, a nodi pa gam gweithredu fydd yn ei roi ar waith yn ei le.

Byrddau gwasanaethau cyhoeddus

Mae’r Ddeddf yn sefydlu Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus ar gyfer ardal pob awdurdod lleol yng Nghymru. Rhaid i aelodau’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus gynnwys y canlynol:

  1. Yr awdurdod lleol
  2. Y bwrdd iechyd lleol ar gyfer ardal y mae unrhyw ran ohoni o fewn yr ardal awdurdod lleol
  3. Yr awdurdod tân ac achub yng Nghymru ar gyfer ardal y mae unrhyw ran ohoni o fewn yr ardal awdurdod lleol
  4. Cyfoeth Naturiol Cymru

Yn ychwanegol at yr aelodau hyn, rhaid i bob Bwrdd wahodd y bobl ganlynol i gymryd rhan ar y Bwrdd hefyd (gelwir y rhain yn ‘gyfranogwyr gwadd’):

  • Gweinidogion Cymru
  • Prif Gwnstabl yr Heddlu ar gyfer yr ardal y mae unrhyw ran ohoni o fewn ardal yr awdurdod lleol
  • Comisiynydd Heddlu a Throseddu ardal yr heddlu
  • Gwasanaethau Prawf
  • O leiaf un corff sy’n cynrychioli mudiadau gwirfoddol perthnasol

Hefyd gall pob bwrdd wahodd pobl eraill sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus.

Rhaid i bob Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol ei ardal drwy weithio i gyflawni’r nodau llesiant. Bydd yn gwneud hyn drwy gyfrwng y canlynol:

  • Asesu cyflwr llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol ei ardal, a  
  • Pennu amcanion i sicrhau cyfraniad gorau posib y Byrddau Gwasanaethau Lleol at y nodau llesiant. 

Rhaid iddynt wneud hyn yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy.

Rhaid i bob Bwrdd baratoi a chyhoeddi cynllun yn datgan ei amcanion ei hun a’r camau y bydd yn eu cymryd i’w cyflawni. Gelwir hwn yn Gynllun Llesiant Lleol. Mae’n rhaid iddo ddweud:

  • Pam mae’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn teimlo y bydd ei amcanion yn cyfrannu yn ei ardal leol at gyflawni’r nodau llesiant, a
  • Sut mae’r amcanion a’r camau wedi cael eu pennu gan ystyried eu Hasesiad Llesiant Lleol.

Bydd pob Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn cynnal adolygiad blynyddol o’i gynllun yn dangos ei gynnydd.

Wrth lunio eu hasesiadau lesiant lleol a’r cynllun Llesiant Lleol, rhaid i’r Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus ymgynghori’n eang.

Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru

Rôl Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru yw gweithredu fel gwarchodwr ar ran buddiannau cenedlaethau’r dyfodol yng Nghymru, a chefnogi’r cyrff cyhoeddus sydd wedi’u rhestru yn y Ddeddf i weithio tuag at gyflawni’r nodau llesiant.

Mae amrywiaeth o bethau y gall Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru ei wneud:

Cynghori, annog a hybue

Gall y Comisiynydd roi cyngor i gyrff cyhoeddus ac i Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus, a’u hybu a’u hannog i weithio i fodloni eu hamcanion llesiant.

Ymchwil

Gall y Comisiynydd gynnal ymchwil gan gynnwys ymchwil i’r nodau llesiant, y dangosyddion cenedlaethol a’r cerrig milltir, a’r egwyddor datblygu cynaliadwy a sut mae cyrff cyhoeddus yn ei rhoi ar waith.

Cynnal adolygiadau

Gall y Comisiynydd gynnal adolygiad o sut mae cyrff cyhoeddus yn ystyried effaith tymor hir eu penderfyniadau, a gwneud argymhellion yn seiliedig ar ei ganfyddiadau.

Gwneud argymhellion

Gall y Comisiynydd wneud argymhellion i gorff cyhoeddus am y camau y mae wedi’u cymryd neu y mae’n bwriadu eu cymryd i osod ac wedyn cyflawni ei amcanion llesiant. Rhaid i gyrff cyhoeddus gymryd pob cam rhesymol er mwyn dilyn argymhellion y Comisiynydd.

Adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol

Rhaid i’r Comisiynydd gyhoeddi adroddiad, flwyddyn cyn etholiad Cynulliad, sy’n cynnwys asesiad y Comisiynydd o’r gwelliannau y dylai cyrff cyhoeddus eu gwneud er mwyn cyflawni’r nodau llesiant.

Panel cynghori

Cefnogir y Comisiynydd gan Banel Cynghori. Mae’r Panel yn cynnwys Comisiynwyr eraill Cymru, Prif Swyddog Meddygol Cymru, cynrychiolydd o Cyfoeth Naturiol Cymru, Cyngres Undebau Llafur Cymru a busnesau Cymru. Caiff y Comisiynydd wahodd eraill i fod yn bresennol, a gall Gweinidogion Cymru benodi aelodau newydd.

I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru.

Archwilydd Cyffredinol Cymru

Gall Archwilydd Cyffredinol Cymru gynnal archwiliadau ar y cyrff cyhoeddus sydd wedi’u rhestru yn y Ddeddf er mwyn asesu’r canlynol:

...i ba raddau y mae corff wedi gweithredu yn unol â’r egwyddor datblygu  cynaliadwy wrth;

  1. Gosod amcanion llesiant, a
  2. Cymryd camau i gyflawni’r amcanion hynny.

Rhan 2 ‘Gwella Llesiant’, adran 15 ‘Yr egwyddor datblygu cynaliadwy: Ymchwiliadau’r  Archwilydd Cyffredinol’, parargraff (1).

Bydd Archwilydd Cyffredinol Cymru a Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol er yn helpu i sicrhau bod cyrff cyhoeddus yn atebol am eu perfformiad wrth gyflawni’r Ddeddf.

Rhagor o wybodaeth

Fframwaith Cenedlaethol Dangosyddion Llesiant

Fersiwn Power BI

  1. Cymru lewyrchus
  2. Cymru gydnerth
  3. Cymru iachach
  4. Cymru sy’n fwy cyfartal
  5. Cymru o gymunedau cydlynus
  6. Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu
  7. Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang
  1 2 3 4 5 6 7
01 Babanod iach     Ydw Ydw      
02 Disgwyliad oes iach     Ydw Ydw      
03 Ffordd iach o fyw (oedolion)     Ydw Ydw Ydw Ydw  
04 Ansawdd aer Ydw Ydw Ydw       Ydw
05 Ffordd iach o fyw (plant)     Ydw Ydw Ydw    
06 Plant bach yn datblygu’r sgiliau iawn Ydw     Ydw Ydw Ydw  
07 Sgiliau a chymwysterau wrth adael yr ysgol Ydw     Ydw   Ydw  
08 Oedolion â chymwysterau Ydw   Ydw Ydw      
09 Cynhyrchiant Ydw            
10 Incwm gwario aelwydydd Ydw   Ydw Ydw      
11 Busnesau arloesol Ydw Ydw         Ydw
12 Ynni adnewyddadwy Ydw Ydw     Ydw   Ydw
13 Pridd iach Ydw Ydw         Ydw
14 Ôl Troed byd eang Ydw Ydw         Ydw
15 Gwastraff nad yw’n cael ei ailgylchu Ydw Ydw     Ydw   Ydw
16 Cyflog teg Ydw   Ydw Ydw     Ydw
17 Gwahaniaeth cyflog rhwng y rhywiau Ydw     Ydw      
18 Pobl sy’n byw mewn tlodi Ydw Ydw Ydw Ydw Ydw Ydw Ydw
19 Pobl sy’n byw mewn amddifadedd materol Ydw Ydw Ydw Ydw Ydw Ydw Ydw
20 Pobl sy’n fodlon â’u swyddi Ydw   Ydw Ydw      
21 Pobl mewn gwaith Ydw   Ydw Ydw      
22 Pobl mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant Ydw   Ydw Ydw Ydw    
23 Pobl yn teimlo eu bod yn cael eu cynnwys       Ydw Ydw   Ydw
24 Pobl yn fodlon ar eu gallu i gael gafael ar gyfleusterau a gwasanaethau     Ydw Ydw Ydw    
25 Teimlo’n ddiogel     Ydw Ydw Ydw    
26 Pobl yn fodlon ar ble maen nhw’n byw   Ydw Ydw   Ydw Ydw  
27 Ymdeimlad o gymuned   Ydw Ydw Ydw Ydw Ydw Ydw
28 Gwirfoddoli         Ydw Ydw Ydw
29 Llesiant meddyliol     Ydw Ydw      
30 Unigrwydd     Ydw Ydw Ydw    
31 Cartrefi heb beryglon   Ydw Ydw Ydw Ydw    
32 Lleihau’r perygl o lifogydd i gartrefi a busnesau   Ydw Ydw Ydw Ydw    
33 Cartrefi effeithlon o ran ynni Ydw Ydw Ydw       Ydw
34 Digartrefedd Ydw Ydw Ydw Ydw Ydw Ydw Ydw
35 Cymryd rhan yn y celfyddydau ac mewn diwylliant a threftadaeth Ydw   Ydw Ydw Ydw    
36 Pobl sy’n siarad Cymraeg bob dydd         Ydw Ydw Ydw
37 Pobl sy’n gallu siarad Cymraeg         Ydw Ydw Ydw
38 Cymryd rhan mewn gweithgareddau chwaraeon   Ydw Ydw Ydw Ydw Ydw Ydw
39 Safonau proffesiynol mewn casgliadau treftadaeth           Ydw Ydw
40 Gofalu am ein treftadaeth ddiwylliannol   Ydw       Ydw Ydw
41 Allyriadau nwyon tŷ gwydr Ydw Ydw Ydw       Ydw
42 Allyriadau nwyon tŷ gwydr o nwyddau a gwasanaethau byd-eang Ydw Ydw Ydw       Ydw
43 Ecosystemau iach Ydw Ydw Ydw   Ydw Ydw Ydw
44 Amrywiaeth fiolegol Ydw Ydw     Ydw Ydw Ydw
45 Ansawdd dŵr   Ydw Ydw   Ydw Ydw Ydw
46 Partneriaethau Gwerth Cymdeithasol Ydw Ydw Ydw Ydw Ydw Ydw Ydw